Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Um-geiswyr (2)

Vaughan Roderick | 16:20, Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2010

_203759_druid_150.jpgMae Plaid Cymru ar fin dewis ei hymgeisydd yng Nghaerffili ar gyfer 2011. Mae'n debyg mai un enw ac un enw yn unig sydd yn y ffram.

Enw Ron Davies yw hwnnw.

Deallaf fod Ron wedi gwneud tipyn o farc o flaen y panel cenedlaethol sy'n asesu ymgeiswyr posib. Roedd ei ateb i'r cwestiwn "pa bwerau sydd wedi eu datganoli i'r cynulliad?" yn fodel, mae'n debyg.

Fe fydd e'n brofiad rhyfedd i Ron sefyll yng Nghaerffili heb Lindsay Whittle fel gwrthwynebydd. Rwy'n meddwl mai dim ond unwaith o'r blaen mae hynny wedi digwydd a hynny yn etholiad cynulliad 1999.

Beth fydd tynged Lindsay tybed? A fydd arweinydd Cyngor Caerffili yn ymgeisio ar restr y de ddwyrain, tybed?

Os felly fe fydd e'n cystadlu yn erbyn William Graham, dyn sydd a'i fys ar bỳls etholwyr yr ardal. Dyma'r datganiad barn diweddaraf y mae William am osod gerbron y cynulliad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn talu teyrnged i fywyd a chyfraniad Charles Rolls

Ar 12fed Gorffennaf 2010, bydd can mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Charles Rolls o Langatwg, sir Fynwy. Ef oedd yr arloeswr cyntaf yng Nghymru ym maes moduro a hedfan. Ar y cyd â Frederick Henry Royce, gwnaethant sefydlu cwmni gweithgynhyrchu ceir Rolls-Royce, un o'r cwmnïau gweithgynhyrchu peiriannau- awyrennau mwyaf eiconig a llwyddiannus yn y byd.

Fe aiff hwnna lawr yn dda yn Nhredegar!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:33 ar 9 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Gwych yw clywed fod Ron Davies yn debygol iawn o sefyll yng Nghaerffili dros Blaid Cymru serch hynny pa mor anodd yw'r dasg o'i flaen? Iawn plaid yn reoli cyngor Caerffili ac ma pobl Caerffili i weld yn weddol hapus â'i cyngor ond ar lefel Cenedlaethol a chefnogaeth Lafur yng Nghymru yn codi? Wn i ddim.

  • 2. Am 14:11 ar 9 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Ydy Ron Davies yn aelod o'r Blaid?

  • 3. Am 15:18 ar 9 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    mae'n rhaid ei fod e erbyn hyn!

  • 4. Am 18:09 ar 13 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Matt:

    Dafydd Trystan Davies yn sefyll ymgeisydd yn unig i Blaid Cymru yng Nghwm Cynon

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.