Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis Haf (4)

Vaughan Roderick | 09:01, Dydd Mawrth, 10 Awst 2010

question_mark_203_203x152.gif
Fe wnaeth nifer o bobol ar Faes Blaenau Gwent grybwyll eu mwynhad o'r cwisiau. Yn eu plith roedd Dewi sydd pob tro ar y brig neu'n agos ato. Fe wnaeth e ddiflannu cyn i mi allu cyflwyno'r cwpan!

Trwy wyrth yr amserydd dyma'r cwis diweddaraf. Fe fydd yr atebion yn ymddangos dros y Sul. Os ydych chi'n chwilio am thema mae'r cwestiynau i gyd a rhyw gysylltiad â'r blaid Lafur.

1. Enwch dau ffigwr gwleidyddol Llafur ddaeth yn adnabyddus yn ystod streic y glowyr a chafodd eu hethol i DÅ·'r Cyffredin dros etholaethau Cymreig. Fe lwyddodd y cyntaf yn 1989 ond roedd yn rhaid i'r llall ddisgwyl tan 2005.

2. Fe gynrychiolodd Keir Hardie dwy etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Merthyr ac Aberdâr oedd un. Beth oedd y llall?

3. Ym mha ffordd y gwnaeth colli Cefn Coed a Brynmawr ddryllio Roderick a dyrchafu Hooson?

4. Beth yw'r cysylltiad digon simpyl rhwng etholaethau Blaenau Gwent, Pontypridd, Bro Morgannwg a Rochdale â cherdd gan G. K. Chesterton ynghylch datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru?

5. Pa swydd sydd wedi cael ei llenwi gan Russell Goodway a Blon Fel-Fotch Pasameer-Day Slitheen a beth oedd enw'r atomfa yr oedd yr ail o'r ddau yn dymuno ei hadeiladu yng Nghymru?

6. Pa Gurig wnaeth droi'n Hudson?

7. Pa AS Llafur o Gymru wnaeth sefyll dros dair plaid arall gan golli o dan faneri "Common Wealth", yr NILP a'r Blaid Ddemocrataidd ?

8. Pa Ysgrifennydd/Gweinidog oedd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn llywodraeth Alun Michael?

9. Pwy oedd yr aelod cyntaf o'r blaid Lafur Brydeinig i anerch Senedd Ewrop?

10. Beth sy'n cysylltu cyn aelod Islwyn â chyn Seneddwr Delaware. Mae'r naill bron wedi diflannu a'r llall wedi ei ddyrchafu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:26 ar 10 Awst 2010, ysgrifennodd Dewi:

    stuck ar 2005 rhif 1....

  • 2. Am 09:06 ar 11 Awst 2010, ysgrifennodd Dewi:

    1. Enwch dau ffigwr gwleidyddol Llafur ddaeth yn adnabyddus yn ystod streic y glowyr a chafodd eu hethol i DÅ·'r Cyffredin dros etholaethau Cymreig. Fe lwyddodd y cyntaf yn 1989 ond roedd yn rhaid i'r llall ddisgwyl tan 2005.
    Kim Howells a Hywel Francis ? (Dr Francis yn cael ei ethol yn 2001...)
    2. Fe gynrychiolodd Keir Hardie dwy etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Merthyr ac Aberdâr oedd un. Beth oedd y llall? West Ham.
    3. Ym mha ffordd y gwnaeth colli Cefn Coed a Brynmawr ddryllio Roderick a dyrchafu Hooson? Symud allan o etholaeth Brycheiniog a Maesyfed i Flaenau Gwent a Merthyr gyda’u miloedd o bleidleiswyr Llafur yn sicrhau bod Tom Hooson yn curo Caerwyn Roderick.
    4. Beth yw'r cysylltiad digon simpyl rhwng etholaethau Blaenau Gwent, Pontypridd, Bro Morgannwg a Rochdale â cherdd gan G. K. Chesterton ynghylch datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru? Mae aelodau seneddol yr etholaethau hynny wedi gofyn am ddatgysylltu’r Eglwys yn Lloegr?
    5. Pa swydd sydd wedi cael ei llenwi gan Russell Goodway a Blon Fel-Fotch Pasameer-Day Slitheen a beth oedd enw'r atomfa yr oedd yr ail o'r ddau yn dymuno ei hadeiladu yng Nghymru? Maer Caerdydd....Blaidd Drwg
    6. Pa Gurig wnaeth droi'n Hudson? Ednyfed Hudson Davies yn fab i Curig Davies (o le daeth yr Hudson Duw a wyr...)
    7. Pa AS Llafur o Gymru wnaeth sefyll dros dair plaid arall gan golli o dan faneri "Common Wealth", yr NILP a'r Blaid Ddemocrataidd ? Desmond Donnelly (Da iawn!!)
    8. Pa Ysgrifennydd/Gweinidog oedd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn llywodraeth Alun Michael? Doedd dim un?
    9. Pwy oedd yr aelod cyntaf o'r blaid Lafur Brydeinig i anerch Senedd Ewrop? Tom Ellis.
    10. Beth sy'n cysylltu cyn aelod Islwyn â chyn Seneddwr Delaware. Mae'r naill bron wedi diflannu a'r llall wedi ei ddyrchafu. Joe Biden yn copio araith gan Kinnock?

  • 3. Am 12:50 ar 11 Awst 2010, ysgrifennodd Rhys:

    1) Kim Howells a Sian James
    2)De West Ham
    3)Yn 1979 fe gollodd Caerwyn Roderick Brycheiniog a Maesyfed i'r Ceidwadwr Tom Hooson. Fe roedd Cefn Coed a Brynmawr yn rhan o'r etholaeth cyn yr Etholiad hwnnw. Mannau oedd a phleidlais gref i'r Blaid Lafur.
    4) Dim syniad - rhy simpyl i fi yn amlwg!!
    5)Russel Goodway a Blon Fel-Fotch Pasameer-Day Slitheen wedi bod yn Arglwydd Feiri Caerdydd. Enw'r atomfa oedd y Blaidd Drwg.
    6)Gwilym Ednyfed Hudson Davies
    7)Desmond Donnelly
    8)Tom Middlehurst
    9)Tom Ellis???
    10) Defnyddiodd Joe Biden un o areithiau Neil Kinnock

  • 4. Am 23:02 ar 12 Awst 2010, ysgrifennodd O bell:

    Tom Ellis yw ateb i gwestiwn 9 ??????

  • 5. Am 09:54 ar 13 Awst 2010, ysgrifennodd Rhys:

    Ma pob un etholaeth wedi cael AS gyda'r cyfenw Smith!! Syr Cyril Smith yn Rochdale, John Smith ym Mro Morgannwg, Llew Smith ym Mlaenau Gwent ac Owen Smith ym Mhontypridd. Ond mae rhaid fod fwy o gysylltiad na hynny?!

  • 6. Am 15:10 ar 13 Awst 2010, ysgrifennodd Dewi:

    4 Wrth gwrs! Cyril Smith, Owen Smith, John Smith a Nick Smith !!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.