Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfroedd dyfnion

Vaughan Roderick | 16:28, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Roeddwn i wedi bwriadu cadw draw o helyntion S4C heddiw. Rhwng pob dyn a'i alar fel maen nhw'n dweud. Ar y llaw arall o safbwynt straeon rhoi mae y ffynnon fach.

Os oedd pawb yn gallu cytuno ar un peth mae'n debyg mai'r ffaith bod y sianel wedi gelyniaethu nifer o bobol ddylai fod ymhlith ei ffrindiau yn ystod y cyfnod diweddar yw hynny. Yn sicr mae'n ymddangos bod Phil Williams, ysgrifennydd Awdurdod S4C yn credu hynny.

Pan welodd yr ysgrifennydd grŵp o wleidyddion Llafur nid nepell o stondin y sianel aeth draw atyn nhw i geisio eu hargyhoeddi bod S4C yn deall cymaint ei thrafferthion. "We get it" oedd ei union eiriau i'r grŵp oedd yn cynnwys yr Aelod Seneddol Nick Smith a'r Aelod Cynulliad Alun Davies.

Ond wrth i Phil Williams geisio lleddfu'r dyfroedd rhuthrodd swyddog arall o'r sianel at y grŵp gan sefyll gyda'i drwyn o fewn modfeddi i un Alun Davies gan ddweud hyn mewn llais uchel "Rwy'n mynnu cael dy gefnogaeth ddiamod". "Dim heb esboniad" oedd ymateb Alun sy'n cwyno bod ymddygiad y Swyddog yn "fygythiol".

Pwy oedd y swyddog hwnnw?

Arwel Elis Owen, Prif Weithredwr dros dros S4C.

Beth yw'r llyfr yna 'How to win friends and influence people'? Rhywbeth felly!

Yn y cyfamser fe fydd yn rhaid i Arwel obeithio ei fod yn cael gwell cefnogaeth gan Gadeirydd yr Awdurdod na chafodd ei ragflaenydd. Mae sawl ffynhonnell yn honni bod John Walter Jones wedi ymatal yn y bleidlais ynghylch diswyddiad Iona Jones a basiwyd o un bleidlais yn unig.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:48 ar 2 Awst 2010, ysgrifennodd TÅ· Coch:

    Mae aelod y Bwrdd yn iawn i fecso. Un broblem sydd gan y Sianel yw'r canfyddiad (cywir yn fy marn i) fod nifer o'i swyddogion yn cael eu talu cyflogau sydd y tu hwnt i ddirnad ei gwylwyr. Gwasanaeth cyhoeddus yw S4C nid cwmni masnachol. Na, dydy hi ddim yr un peth ag ITV, Channel 4 neu unrhyw un arall. Does dim angen iddi dalu 'cystadleuol' y 'farchnad' gan mai dim ond un sianel Gymraeg sydd.

    Mae angen talu cyflog dda i'w uchelswyddogion, ond mae'n hurt fod y Prif Weithredwraig yn ennill cyflog uwch na Phrif Weinidog Cymru neu Brydain! Pwy sydd yn mynd i gefnogi S4C o gofio pethau felly? Mae'r un yn wir am nifer o'u hactorion a chyflwynwyr amlwg. Nawr fod y Sianel eisiau cefnogaeth pobl a gwleidyddion Cymru, yn rhyfedd ddigon, prin iawn yw'r pobl sy'n dod i sefyll yn y bwlch.

    Mae'r peth yn symptomatig i raddau helaeth o ffenomenon Llafur y ddegawd ddiwethaf o weld taliadau mawrion yn y gwasanaeth sifil. Nid dadlau ydw i y dylsai swyddogion a staff y Sianel fyw ar uwch a dŵr, ac mae angen cynnig cyflogau sydd yn bitw o'u cymharu â chyfryngau tebyg, ond o ran PR mae erthyglau am gyflogau staff a chyflwynwyr (ac expenses!) cynddrwg i'r Sianel a'r un am ffigurau gwylio.

    Weithiau mae gwyleidd-dra a hunan-ddisgybliaeth yn well PR tymor hir na'r un stori, gimic neu wobr ryngwladol.

  • 2. Am 20:26 ar 2 Awst 2010, ysgrifennodd Dylan Evans :

    Nonses llwyr Vaughan - chwe phleidlais i dair oedd hi'n y diwedd . Er i fod yn gwbwl deg i chi, dwi'n sicr i bwy fyddai John Walter wedi pledleisio be byddai pethau wedi mynd i 'casting vote'.

    Yr hyn dwi'n meddwl sy'n gwbwl arwyddocaol oedd yr ochenaid o ryddhad aeth drwy'r adeilad.

    Fel wedodd Mx Boyce - " I know because I was there"

    Ma rhaid i bawb gefnogi Arwel nawr achos ma fe'n ddyn uchel ofnadwy ei barch.

    Sylw wedi ei olygu. VR

  • 3. Am 10:15 ar 3 Awst 2010, ysgrifennodd SMDC:

    Y peth pwysig nawr yw sicrhau bod yna bethynas yn cael ei ddatblygu am y tro cyntaf rhwng y gwylwyr, mudiadau hybu'r Gymraeg ayb ac S4C. Ni ddylid cael sefyllfa lle mae S4C yn dweud wrth y gwylwyr beth ddylen nhw'i wylio eto. Dyle S4C fod yn gwrando ar fwrdd allanol o wylwyr a chymdeithasau gwahanol.

    Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir am Radio Cymru...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.