Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yma o hyd

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Mawrth, 31 Awst 2010

_41662272_sandcastle416.jpg

Dyma fi felly yn ôl wrth y ddesg yn delio a'r cannoedd o e-byst sydd wedi crynhoi dros yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs hwn yw'r union ddiwrnod y mae'r tywydd wedi newid er gwell. Mae hynny'n un o reolau natur, mae'n debyg.

Ble mae ddechrau, dywedwch? Ai trwy drafod i ba dwnel tywyll y diflannodd Ian Williams neu ar ba ynys y mae Iona Jones? Beth am yr holl sibrydion ynghylch giamocs mewn gwahanol gynadleddau dewis? Mae 'na lot o ddal i fyny i wneud!

Ond dyma damaid diddorol i ddechrau. Ym mha sedd y mae saith ar hugain o bobol yn cynnig am yr enwebiad Llafur tybed? Canol Caerdydd yw'r ateb.

Am ryw reswm mae'r gair 'cigfrain' yn dod i feddwl dyn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:51 ar 31 Awst 2010, ysgrifennodd owen wyn:

    Maddeued fy anwybodaeth ond pwy yw Ian Williams?

  • 2. Am 15:40 ar 31 Awst 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae Ian Williams, aelod o "Twnel Tywyll" yn un o uchel swyddogion yr adran economaidd sydd i ffwrdd o'i waith ar hyn o bryd.

  • 3. Am 22:01 ar 31 Awst 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Wedi llwyddo i wrando a mwynhau mwyafrif y cyfweliad ar Radio Cymru. Ges i ddim llonydd i wrando'r cyfan ac yn wahanol i lobscows tydwi ddim yn hoffi rhaglen eildwym.

    Dyma ti wedi fy ngymell i adael nodyn beth bynnag. Dwi wedi bod yn dilyn yn selog ond wedi mwynhau ymgil. Weithiau mae rhwyun yn dweud rhwybeth er mwyn dweud rhywbeth yn hytrach na bod rhywbeth i'w ddweud. o ran sylwadau dwi yn siwr fod miloedd ar goll rhywle yn sgil y llythrennau cudd

    O darllen y cyfraniad uchod dwi yn cymryd nad wyt yn treulio lot o amser yn cantin y Ö÷²¥´óÐã neu dy fod yn treulio gormod o amser yno ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.