Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y felan felyn

Vaughan Roderick | 17:36, Dydd Llun, 20 Medi 2010

Fe wnes i addo ar drothwy'r cynadleddau y byddwn yn sgwennu pwt ynghylch pob un o'r pleidiau i godi calonnau eu cefnogwyr ar gychwyn tymor gwleidyddol newydd. Mae'n haws mewn rhai achosion nac eraill!

Fe wnaeth Blog Menai hawlio y byddwn yn ei chael hi'n anodd iawn ddarogan dyddiau da i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ond dwi'n meddwl ei fod yn meddwl yn benodol am etholiad cynulliad 2011 wrth ddweud hynny. Rwyf am ymestyn y maes llafur ychydig!

Nawr mae greddf yn dweud wrth ddyn bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio talcen caled flwyddyn nesaf ond mae greddf yn gallu bod yn beth peryg yn enwedig os ydy reddf honno'r seiliedig ar gamddeall ystadegau.

Cyfeirio at arolygon YouGov ITV ydw i wrth ddweud hynny gan eu bod ar yr olwg gyntaf yn awgrymu cwymp sylweddol yn y gefnogaeth i'r blaid ers yr etholiad cyffredinol. Yn etholiad mis Mai derbyniodd y Democratiaid Rhyddfrydol 20.1% o'r bleidlais. Yn ôl YouGov oddeutu hanner y canran hwnnw sy'n bwriadu pleidleisio yn yr un modd flwyddyn nesaf.

Reit, tawelwch yng nghefn y dosbarth! Fe fydd unrhyw un sydd erioed wedi cymryd gwers mewn ystadegau yn gwybod y rheol euraidd - "rhaid cymharu tebyg a'i debyg". Y 'baseline' cywir ar gyfer arolygon YouGov yw etholiad cynulliad 2007 nid etholiad eleni gan mai holi am fwriadau pleidleisio cynulliad mae'r cwmni. Yn yr etholiad cynulliad diwethaf fe dderbyniodd y blaid 14.8% o'r bleidlais. Oce, dyw colli traean o'ch cefnogaeth ddim yn wych ond mae'n llawer gwell na cholli ei hanner!

Pe bai canlyniadau YouGov yn cael ei gwireddu flwyddyn nesaf fe fyddai rhai o'r seddi rhestr mewn peryg - yn fwyaf enwedig rhai Gogledd a Dwyrain De Cymru. Fel gwnes i ddadlau yn yr erthygl ynghylch Plaid Cymru does fawr ddim i'w hennill o ymgyrchu dros ymgeiswyr rhanbarth mewn etholiad cynulliad. Gwell yw cwffio'n galed mewn etholaethau targed a derbyn seddi rhestr fel gwobrau cysur os ydy'r ymdrechion hynny'n methu.

Cymerwch y Gogledd fel enghraifft. Pe bawn i'n llunio strategaeth y blaid fe fyswn i'n taflu'r wardrob at Wrecsam er bod y blaid yn bedwerydd yno yn 2007. Pam Wrecsam? Wel, fe fydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn brysur mewn etholaethau cyfagos ac rwy'n lled amau na fydd rhan helaeth o Dorïaid yr ardal yn orawyddus i fwrw pleidlais dros John Marek. Mae'r glymblaid yn San Steffan yn ei gwneud hi'n haws dybiwn i i'r blaid ddenu pleidleisiau tactegol gan Geidwadwyr a Wrecsam yw'r lle perffaith i wneud hynny.

Mewn storom berffaith mae'n bosib y byddai'r sedd etholaeth yn cael; ei chipio ond phe na bai hi gallai ychydig filoedd o bleidleisiau ychwanegol wneud y gwahaniaeth yn y fathemateg ranbarthol. Yn yr un modd gallai ymgyrchoedd cryf ond aflwyddiannus i gadw Maldwyn a chip Ceredigion arwain at gynhaeaf yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin.

Gyda thargedu clyfar a lot o waith caled rwy'n meddwl ei bod hi'n ddigon posib i'r blaid dal ei thir flwyddyn nesaf a dyna'r cyfan sydd angen iddi wneud. Goroesi a chadw undod sy'n bwysig i'r blaid yn y blynyddoedd nesaf gan obeithio y bydd penderfyniad y blaid i fetio'r fferm ar wellhad economaidd o ganlyniad i foddion cas yn dwyn ffrwyth.

Roedd y post hwn i fod i ymddangos ddiwedd wythnos ddiwethaf ond doedd ei gyhoeddi ddim yn teimlo'n gymwys yn sgil marwolaeth y gŵr annwyl hwnnw, Richard Livsey. Ychydig iawn o wleidyddion sy'n mynd trwy fywyd heb greu llond siambr o elynion a gwatwarwyr. Roedd Richard yn un ohonyn nhw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.