Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Llais

Vaughan Roderick | 10:34, Dydd Sadwrn, 16 Hydref 2010

Mae un gwleidydd sy'n allweddol yn y trafodaethau ynghylch dyfodol S4C yn dweud wrthai nad yw wedi derbyn yr un neges gan wylwyr cyffredin y sianel yn ei chylch. Efallai bod a wnelo dryswch yr haf rywbeth a hynny.

Serch hynny mae'n syndod efallai nad yw caredigion y sianel wedi cynhyrchu rhywbeth fel hyn.

Nid y Ö÷²¥´óÐã sy'n gyfrifol am y fideo, gyda llaw. Richard Wyn Jones yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Diweddariad Mae Dan Rhys wedi cami lan i'r plat.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:25 ar 16 Hydref 2010, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Efallai nad oes gan y gwyliwr cyffredin unrhyw ffydd yn nghallu y 'gwleidyddion allweddol' hyn i ddeall yr achos a gwneud unrhyw wahaniaeth yn y pendraw.

  • 2. Am 20:37 ar 16 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Ffydd, Vaughan, ffydd yng ngallu'r mudiad iaith a siaradwyr Cymraeg "cyffredin" i greu trwbwl! Gawn ni weld beth sy'n digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf...

  • 3. Am 13:39 ar 17 Hydref 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Mae 'na grŵp facebook a chanddi 1620 o aelodau yn barod.
    A mae yna fideo gan americanwr yn rhybuddio rhag y toriadau ar Youtube. Dwi ar fin creu fideo nawr cawn weld.

  • 4. Am 16:04 ar 17 Hydref 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    At bwy dyle'r "gwyliwr cyffredin" sgwennu? Smo fi'n gwbod, a dwi'n weddol gyfarwydd a dilyn "y pethau" gwleidyddol. Oes pwynt sgwennu atyn nhw yn Llundain (sydd wedi penderfynu'n barod yn ol y son)? Neu at y gwleidyddion yng Nghaerdydd (sydd heb unrhyw rym yn y mater)? Siarad gydag aelod Seneddol lleol (pa fath o ddiddordeb fydd gan aelod Llafur o'r De Ddwyrain yn y pwnc?)? Wi wedi arwyddo deiseb y Gymdeithas, ond falle bod hynny wedi 'nghymryd i mas o grwp y "gwylwyr cyffredin" erbyn hyn.

  • 5. Am 18:29 ar 17 Hydref 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n meddwl y byddai rhai o Aelodau Seneddol Cymreig y Ceidwadwyr yn lle da i ddechrau. Cyngor niwtral yw hynny, wrth reswm.

  • 6. Am 23:03 ar 17 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae gan Gymdeithas yr Iaith rali am 11 y bore, 6 Tachwedd 2010 y tu allan i adeilad yr hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays, Caerdydd.

    Dwi'n credu y bydd ychydig yn wahanol i raliau "cyffredin" y Gymdeithas -rwy'n synhwyro y bydd tyrfa gref yno.

    Dwi'n gwbod ei bod yn arfer i bobl beidio mynychu'r pethau hyn, ond alla i ddim gorbwysleisio pa mor bwysig yw presenoldeb. "Head count" fydd y rali - mae angen cannoedd.

    Mae'n fore gem rygbi Cymru vs. Awstralia, felly hwyrach y bydd modd i gyfeillion o'r gorllewin a'r gogledd fynychu'r rali, ac yna fwynhau awyrgylch y brifddinas ar ddiwrnod gem?

  • 7. Am 12:43 ar 18 Hydref 2010, ysgrifennodd AVBK:

    Na i doriadau, Ie i S4C newydd

  • 8. Am 15:44 ar 18 Hydref 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Da iawn Dan Rhys!

    Mae 'na ddwsinnau o sianeli yn y Saesneg ond un sydd yn y Gymraeg ac mae'n rhaid iddi apelio at holl rychwant y sianeli eraill sydd yn Saesneg. Mae'n rhaid iddi wneud hynny ar lai na hanner cyllideb Channel 5 heb yr opsiwn o brynu fewn cyfresi poblogaidd o America (gan y byddai isdeitlo rheini'n chwerthynllid).

    Soniodd rhywun am Ö÷²¥´óÐã Alba a fel y gall hi gynnig gwasanaeth yn yr Aeleg am £13m o'i gymharu â £100m S4C. Dwi'n gwylio Ö÷²¥´óÐã Alba ac yn credu fod gan S4C lawer i'w ddysgu ganddi - mae ei rhaglen materion cyfoes o Ewrop, Eorpa, yn well nag unrhyw beth ar Ö÷²¥´óÐã Cymru na Ö÷²¥´óÐã Llundain (mae isdeitlau Saeneg ar-sgrîn).

    Ond mae gwendidau mawr ar Ö÷²¥´óÐã Alba - does dim dramau, mae'n darlledu rhyw 8 awr y dydd, prin iawn yw'r rhaglenni plant, mae'n ddibynnol iawn ar gerddoriaeth (werin) a dangos gemau rygbi a phel-droed o'r Alban. Nid fod rheini'n ddrwg - wnes i fwynhau gwylio Shinty!

    Nid 'bai' Ö÷²¥´óÐã Alba yw hyn chwaith. Ond y ddadl yw o blaid rhagor o arian i Ö÷²¥´óÐã Alba nid llai i S4C.

  • 9. Am 19:04 ar 18 Hydref 2010, ysgrifennodd Al:

    Gobeithio'n wir y bydd pawb sy'n peoni am S$C yn codi llais ac yn dangos anfodlonrwydd ynghylch y ffordd y mae'r Llywodreath Brydeinig yn bwriadu trin y sianel. Mae'r sianel yn hanfodol bwysig os yw'r iaith i barhau ac os yw'r iaith fod yn gyfoes. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer plant bach yn rhagorol a chystal os nad gwell na'r hyn a geir ar sianelau eraill. Bydd angen cyhoeddusrwydd eang ac effeithiol i gylynu'r brotest yn Nhachwedd gan symbylu cymaint a phosib i ddangos eu barn, am unwaith.

  • 10. Am 12:22 ar 19 Hydref 2010, ysgrifennodd Dewi2:

    Ni wedi ychwanegu ein henwau i ddeiseb Cymdeithas yr Iaith ac wedi sgwennu llythyr at Elfyn Llwyd trwy writetothem.com yn esbonio ein bod yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw ymgais i newid a thorri cyllid S4C gan fydd hyn yn effeithio'n niweidiol ar wasanaeth Cyw y sianel.

    Rydyn hefyd wedi helpu ffrindiau eraill gyda phlant sy'n mwynhau Cyw i gysylltu â'u haelodau seneddol nhw - sy'n cynnwys Guto Bebb.

    Mae Cyw yn wych ac yn hawl i blant Cymru a thu hwnt.

  • 11. Am 16:27 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Marc Jones:

    Oes, mae'n rhaid cael sianel gwbl Gymraeg, ond oes angen S4C? Nid ar y ffurf bresennol o bell ffordd, mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni'n ddiflas, yn fewnblyg a'r un hen wynebau'n ymddangos dro ar ol tro. Gwnaeth fy ngwraig a finnau wedi gwneud ein gorau glas i sbarduno diddordeb ein mab yn 'Cyw' ond gwrthodai a'i wylio gan ei fod mor ddiflas o'i chymharu a'r rhaglenni plant ar sianeli Saesneg (ac eto, pwy oedd yno, yr un 'ser' ag sydd ym Mhobl y Cwm). Na, methiant yw S4C, mae'n rhoi swyddi i rai (a da o beth yw hynny) ond yn fethiant o ran darparu rhaglenni deniadol (pwy ar wyneb y ddaear oedd yn meddwl y byddai '3 lle' o ddiddordeb i neb ond ffrindiau'r criw sy'n trafod yr un hen bethau?!) Mae ond angen edrych ar raglenni TG4 yn Iwerddon (Seachtar na Casca, er enghraifft) i weld mor dda a deniadol yw cynnyrch y sianel honno o'i gymharu a chynnyrch y cyfryngis fan hyn.

    Cefais y pleser o gwrdd ag un o gyflwynwyr S4C (wna i mo'i henwi) mewn tafarn un noson a chyfaddefodd hi ei bod hi'n meddwl bod y rhaglenni'n ddiflas hefyd - a hithau'n cyflwyno un ohonynt.

    At hynny, ble mae'r rhaglenni i blant sydd newydd ddechrau yn yr ysgol gynradd - mae cyw i'r rhai bach (pan fo'r plant dosbarth derbyn a blynyddoedd cynnar yn yr ysgol) a rhaglenni i blant hyn ond dim, dim, i'r plant rhwng yr oedrannau hynny - ond, sbo bod hynny'n fendith gan ei bod yn arbed fy mab rhag cael ei siomi unwaith eto gan S4C.

    Byddaf i yn y rali fawr, a gobeithio y bydd miloedd eraill yno hefyd, ond rhagrith ar fy rhan i, ac ar ran llawer o bobl eraill, fydd codi llais i amddiffyn sianel sydd, yn ei hanfod, yn fethiant llwyr, nad yw wedi llwyddo i ennyn diddordeb rhywun fel fi, sy'n siarad Cymraeg bob dydd, wedi ymgyrchu dros yr iaith, yn briod a Chymraes Gymraeg, yn magu fy mab yn Gymraeg ac wedi ceisio ei gadw mor ddi-Saesneg ag sy'n bosibl, yn mynnu defnyddio gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ac yn cwyno ac yn protestio os nad oes rhai. Os nad yw pobl fel fi, sy'n hoffi'r 'Pethe'yn bodderan gwylio'r rwts sydd ar y sianel, pa obaith i'r sianel honno.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.