Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wrth basio

Vaughan Roderick | 09:17, Dydd Sadwrn, 9 Hydref 2010

Rwy'n becso braidd wrth ysgrifennu'r post yma. Eisiau trafod effeithiau gwleidyddol y bygythiad i Swyddfa Basports Casnewydd ydw i ond fe allai hynny ymddangos yn galon-galed iawn i'r rheiny sy'n mewn peryg o golli gwaith.


Dyw pobol ddim yn cyfansoddi caneuon na cherddi i goffau cau swyddfa. Dim ond chwareli a phyllau glo sy'n cynnu'r awen. Serch hynny mae'r boen yr un mor real i dri chant o deuluoedd Casnewydd heddiw ac oedd hi i eraill wrth i Lanwern grebachu neu Dde Celynnen gau.

Ar ôl dweud hynny mae 'na bwynt gwleidyddol pwysig yn fan hyn. Y cyhoeddiad hwn yw un o'r enghreifftiau cyntaf o realiti toriadau gwariant Llywodraeth y DU. Am y tro cyntaf bron gallwn weld yr effeithiau personol ar unigolion. Nid hwn fydd y tro olaf, chwaith.

Nawr, mae 'na bobol sy'n wirioneddol credu bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn eistedd ar eu tinau am ddeugain mlynedd cyn ymddeol ar bensiynau gwerth mwy na gwobr loteri. Lleiafrif sy'n credu hynny, dwi'n meddwl. Beth bynnag yw'r farn gyhoeddus ynghylch cyflogau rhai o banjyndryms y sector gyhoeddus nid pobol felly yw gweision sifil glannau Wysg.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn fy marn i yn dipyn o faen prawf neu garreg filltir i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae'n rhywbeth caregog, ta beth - a hynny am ddau reswm.

Yn gyntaf mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid sydd o'i hanian yn credu mewn gwasanaeth cyhoeddus. Yn wir, byswn i'n tybio mai yn y sector gyhoeddus y mae rhan helaeth o'i haelodau yn gweithio. Darllenwyr y Guardian a'r Independent yw selogion y blaid ar y cyfan. Prin yw'r rhai syn pori tudalennau'r Daily Mail neu'r Sun. Yn reddfol felly fe fyddai dyn yn disgwyl i'r blaid ochri a'r undebau yn yr achos hwn.

Mae 'na reswm arall dros wneud hynny - un llawer mwy sinigaidd. Yn etholaeth Gorllewin Casnewydd mae'r ganolfan ond mae hi o fewn tafliad carreg i Ddwyrain Casnewydd etholaeth hynod o bwysig i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dydw i ddim yn credu bod gan y blaid gobaith mul o ennill y sedd flwyddyn nesaf ond heb dalp o bleidleisiau yno mae 'na wir beryg o golli ei sedd restr yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Rwyf wedi bod yn crafu fy mhen ers misoedd ynghylch y ffaith nad yw Democratiaid Rhyddfrydol y Cynulliad wedi ceisio rhoi tipyn o bellter gwleidyddol rhyngddyn nhw a Chlymblaid San Steffan. Mae'r Torïaid wedi gwneud hynny ynghylch S4C ac ambell i bwnc arall ond hyd y gwelaf i mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi martsio'n ufudd i ddrwm San Steffan.

'Os nid nawr - pryd?' yw'r cwestiwn. Wrth i mi ddweud hynny, gweler! Dyma ddatganiad newyddion yn fy nghyrraedd gan Kirsty Williams yn dweud hyn.

"To suggest that every passport office should remain open except for the only one serving South Wales and South West England is at best high handed and will leave millions of people with an inferior service to the rest of the UK, as well as threatening hundreds of jobs. My understanding is that, at this stage, this is a proposal for consultation and I shall be responding to express my concerns as I am sure many others will."

Mae'n ymddangos bod rhyw un wedi dechrau meddwl yn strategol yn 'Freedom Central'! Hen bryd hefyd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:30 ar 9 Hydref 2010, ysgrifennodd Huw:

    Pam cau un swyddfa cyfan?

    Be sy'n bod gyda rhannu'r diswyddiadau ar hyd y 7 ganolfan? Yn lle bod 300 swydd yn cael eu golli mewn un lle, bod 300 yn cael eu colli led-led y DU, i leihau'r effeithiau ar economi leol?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.