Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Morlocks, yr Eloi a Chymru'n Ddwy

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Mercher, 13 Hydref 2010

Rydym wedi dechrau dod i arfer a chlymbleidiau yn y deyrnas hon erbyn hyn. Yn ogystal â chlymbleidiau gorfodol Gogledd Iwerddon cafwyd dwy lywodraeth glymblaid yn yr Alban a dwy yng Nghymru ers sefydlu'r llywodraethau datganoledig. Erbyn hyn wrth gwrs clymblaid sy'n llywodraethu yn San Steffan hefyd.


Ble bynnag mae clymbleidiau'n bodoli mae'n ymddangos i mi fod 'na un rheol euraidd sef mai'r blaid leiaf sydd a'r mwyaf i ennill a'r mwyaf i golli wrth gyrraedd cytundeb. Ar y gorau mae'n briodas hapus gyda'r partner llai yn cyflawni rhai o'i hamcanion pwysicaf. Mae'r ddwy glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn enghreifftiau perffaith o hynny gyda'r blaid felen yn gallu hawlio'r clod am sawl polisi megis cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol.

Ar ei gwaethaf mae clymblaid yn gallu bod yn debycach i'r Morlociaid a'r Eloi y gwnaeth teithiwr amser H. G. Wells eu canfod yn y dyfodol pell. Mae'r blaid leiaf yn byw bywyd bras a chyffyrddus heb wybod y bydd eu partneriaid yn hwyr neu'n hwyrach yn eu traflyncu neu eu sathru. Mae ffawd y PD's yn Iwerddon yn rhybudd i unrhyw blaid fach sy'n ystyried ffurfio clymblaid.

Mae'n rhy gynnar i wybod ymhle ar y sbectrwm y mae clymblaid San Steffan er bod yn rhaid i mi ddweud bod 'na rywbeth o'r Eloi ynghylch Danny Alexander ac ambell i ffigwr Forlocaidd ar y meinciau Ceidwadol!

Mae hynny'n dod a ni at Lywodraeth "Cymru'n Un". Dyw honno ddim wedi bod yn fel i gyd. Yn fwriadol ai peidio mae Llafur wedi cythrutho'r cenedlaetholwyr ar adegau ac ar un achlysur fe ddaeth y glymblaid yn agosach na mae pobol yn meddwl at chwalu. Paratoadau neu ddiffyg paratoadau ar gyfer y refferendwm oedd asgwrn y gynnen yn yr achos hwnnw. Mae ambell i benderfyniad arall yn enwedig ym maes addysg Gymraeg hefyd wedi achosi tensiynau.

Os oes 'na amheuon ar ochor Plaid Cymru o'r bwrdd mae agwedd aelodau Llafur y Cabinet yn fwy cadarnhaol. Mae mwy nac un wedi dweud wrtha'i mai Plaid Cymru nid y Democratiaid Rhyddfrydol yw eu dewis cyntaf fel cynghreiriaid ar ôl yr etholiad nesaf os nad yw Llafur yn ennill mwyafrif gweithredol yn etholiad flwyddyn nesaf.

Mae'r defnydd o'r gair "gweithredol" yn ddiddorol. Yr awgrym yw y byddai Llafur o hyd yn dymuno ffurfio clymblaid hyd yn oed pe bai ganddi 30 neu 31 o aelodau yn y Cynulliad. Dyw'r blaid ddim am fod mewn peryg o golli ei mwyafrif hanner ffordd trwy'r tymor fel digwyddodd yn yr ail gynulliad.

Afrad yw dweud ei bod hin annhebyg iawn y bydd Llafur yn ennill yr hyn mae'r blaid yn ystyried yn fwyafrif gweithredol ond gall y blaid fod yn weddol o hyderus y bydd ganddi ddigon o aelodau i rwystro cyfuniad enfys rhag gwneud hynny.

Ar ôl smonach 2007 a'r holl droeon trwstan wnaeth arwain at greu'r glymblaid bresennol peth peryg yw proffwydo beth sy'n debyg o ddigwydd y tro nesaf. Ar ôl dweud hynny ar hyn o bryd ar Gymru'n ddwy neu'n ddau y byddwn i yn mentro swllt.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:47 ar 13 Hydref 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Sylwadau difyr ar sawl cyfri - ac efallai y byddaf yn dychwelyd at nifer o bwyntiau ar fy mlog fy hun.

    Serch hynny mi hoffwn aros efo'r PDs am ennyd. 'Dwi ddim yn derbyn bod ffawd y PDs yn awgrymu bod peryglon mewn clymbleidio i'r partner llai. Mae pleidiau amgen yn Iwerddon (hy rhai ag eithrio Llafur, FF a FG - mae SF yn anifail tipyn yn wahanol i'r man bleidiau eraill) yn tueddu i fod efo bywydau cymharol fyr os ydyn nhw yn clymbleidio neu beidio. Mi fyddwn i'n dadlau bod y PDs wedi goroesi yn hirach nag y byddai wedi gwneud fel arall. Gwers y gellir ei chymryd o hanes y PDs fodd bynnag ydi ei bod yn bosibl i'r gynffon ysgwyd y ci pan mae'r blaid lleiaf ag ideoleg cryf tra bod yr un mwyaf yn fwy pragmataidd, ond yn llai pendant o ran syniadaethau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.