Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hiraeth mawr a hiraeth creulon

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010

Mae 'na chwe mis bellach ers daeargrynfeydd yr etholiad cyffredinol. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i wedi profi dros y cyfnod hwnnw bod modd cynnal blog gwleidyddol Cymreig heb Lembit i lenwi twll ar ddiwrnod tawel.

Nid bod cyn aelod Maldwyn wedi diflannu wrth gwrs. Yn gyntaf fe ddaeth ei gyhoeddiad ei fod am gesio sicrhau enwebiad ei blaid ar gyfer etholiad . Roedd pethau'n mynd yn dda hefyd - tan i'r blaid benderfynu gohirio'r dewis am flwyddyn arall.

Pwy all ei feio am fentro i'r jwngl felly?

Trwy hyn oll mae Lembit wedi parhau i ysgrifennu ei golofn wythnosol yn y "Daily Sport" a da yw gweld nad yw treialon y misoedd diwethaf wedi amharu dim ar safon nac ansawdd y cynnwys.

UH oh! Dangerous Dave Cameron is about--and he's got his huge chopper out! Yes folks, the man with the cuts agenda is going to show up across the country doing his best to slice away at the cash the government is forking out on local and national services. Am I going to condemn these Con-Dem cuts? Well, actually no. This time I'm on side with Dangerous Dave and -- as my rather fit friend Niki H calls him--"Clever Cleggs". Sure, they're planning cuts that will hurt, hurt, hurt, and only a masochist would enjoy that. But it's the only thing these feisty fellas can do if they're going to stop Britain sinking faster than the Titanic.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:45 ar 11 Tachwedd 2010, ysgrifennodd straen:

    Allan o ddiddordeb,Vaughan,ydi'r bib yn prynu'r Daily Sport drostot 'ta ti'n gorfod prynnu dy gopi dy hun?Er mwyn ymchwil,wrth gwrs!

  • 2. Am 15:52 ar 11 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Byswn i ddim yn beiddio rhoi hwnna ar dreuliau!

  • 3. Am 18:25 ar 12 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Na ond mae'n siwr fod y papur cael ei ddarllen yn amlach na'r un papur arall yn y cantin.

  • 4. Am 19:24 ar 14 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Yn ail Vaughan,
    pwy ar y ddaear nath greu rhanbarth canolbarth Cymru?
    Sut mae rhywun i fod i gynrychioli Aberdaron, Aberystwyth, Penfro a Powys?

    Joc LLWYR!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.