Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Gwir yn Erbyn y Byd

Vaughan Roderick | 15:18, Dydd Mercher, 19 Ionawr 2011

Heno fe fydd "Gwir Gymru" yn lansio eu hymgyrch refferendwm. Rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Gwir Gymru ddywedais i nid yr "Ymgyrch Na". Am resymau yr wyf wedi nodi o'r blaen does 'na ddim sicrwydd y bydd cais cefnogwyr Gwir Gymru i gael eu clustnodi fel ymgyrch swyddogol yn derbyn sêl bendith y Comisiwn Etholiadol.

Fe gawn ni wybod y naill ffordd neu'r llall cyn Chwefror 2il ond o'n safbwynt ni yn y Ö÷²¥´óÐã dyw'r penderfyniad ddim yn gwneud rhyw lawer o wahaniaeth. Mae rheolau'r gorfforaeth yn gwarantu cydbwysedd rhwng y ddwy ochor i'r ddadl os oes 'na ymgyrchoedd swyddogol neu beidio. O safbwynt yr ochor negyddol does 'na ddim ystod eang o siaradwyr ac ymgyrchwyr y tu hwnt i Wir Gymru. Gallwch ddisgwyl clywed Syr Eric Howells a Bill Hughes yn fynych iawn yn ystod yr wythnosau nesaf!

Yng nghyd-destun Gwir Gymru mae Syr Eric a Bill yn eithriadau gan eu bod o gefndir asgell dde - pobol o gefndir Llafur yw'r rhan fwyaf o gefnogwyr Gwir Gymru. Nid achos o'r blaid Geidwadol yn cuddio tu ôl i ambell i ffigwr Llafur yw hyn chwaith. Nid sefyllfa fel 1997 yw hon. Mae absenoldeb pobol y dde - a'u harian yn drawiadol.

Efallai bod yr awydd i ymddangos yn unedig wedi darbwyllo ambell i Geidwadwr i gadw ei ben i lawr ond sut mae esbonio absenoldeb UKIP o faes y gad? Mae'r blaid yn cefnogi pleidlais 'na'. Mae ganddi ryw fath o drefniadaeth yng Nghymru ond does dim arwydd o gwbwl bod y drefniadaeth honno'n cael ei defnyddio yn y refferendwm.

Sut mae esbonio hynny? Wedi'r cyfan gallai cysylltu ei hun a'r ymgyrch 'na' gynyddu proffil y blaid ar drothwy etholiad y Cynulliad.

Yr unig esboniad fedrai i gynnig am dawelwch cymharol y dde unoliaethol yw'r drindod o arolygon barn a gyhoeddwyd cyn y Nadolig gyda phob un yn awgrymu crasfa i wrthwynebwyr y pwerau ychwanegol. Mae sawl rhiant i bob lwyddiant meddai nhw ond mae methiant yn blentyn amddifad.

Diweddariad; Wel dydw i ddim yn mynd i ddarganfod beth fyddai dyfarniad y Comisiwn Etholiadol ynghylch cais Gwir Gymru am gydnabyddiaeth fel yr Ymgyrch Na swyddogol. Mae'r grŵp wedi penderfynu peidio gwneud cais am y statws hwnnw - er y bydd yn rhaid cofrestri er mwyn cael ymgyrchu o gwbwl.

Deallaf fod penderfynniad Gwir Gymru wedi ei gymryd ar y funud olaf. Gallwch chi farnu ai arbed arian cyhoeddus yntau ofni'r embaras o fethu'r trothwy neu ryw ffactor araill oedd yn gyfrifol.

Er y bydd y grwp yn colli mas yn arianol ac io safbwynd rhadbost a darllediadau mae'r sefyllfa hefyd yn ergyd i "Ie dros Gymru" sy'n wynebu uchafswm gwariant llawer mwy llym o'r herwydd.

Dywed Ie dros Gymru eu bod yn bwriadu trafod y sefyllfa gyda'r Comisiwn Etholiadol ond deallaf fod y grŵp wedi paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer sefyllfa lle nad oedd Gwir Gymru yn llwyddo i gyrraedd yw trothwy angenrheidiol am gydnabyddiaeth swyddogol. Gyda Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a phob aelod cynulliad Ceidwadol yn cefnogi pleidlais ie mae'n debyg y bydd yn rhaid i'r ymgyrch dibynnu'n llawer mwy ar weithwyr y pleidiau i ymgyrchu ar lawr gwlad.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:56 ar 20 Ionawr 2011, ysgrifennodd Efrogwr:

    "Mae rheolau'r gorfforaeth yn gwarantu cydbwysedd rhwng y ddwy ochr i'r ddadl": o gofio hyn, gobeithio fydd y Ö÷²¥´óÐã yn rhannu amser yr ymgyrchwyr "na" rhwng y rhai sydd am amddiffyn y statws quo (neu wir eisiau dileu'r Cynulliad) a'r rhai, megis Alwyn ap Huw, sydd yn dadlau "na" oherwydd iddynt deimlo nad ydy beth sydd ar gael o dan Ran 4, Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn mynd yn digon pell. Beth amdani?

  • 2. Am 19:57 ar 21 Ionawr 2011, ysgrifennodd Hen :

    Pam galw'r grwp na yn "Gwir Gymru"? Er fod hwnnw yn ramadegol gywir "Cymru Wir" yw'r enw wnaeth True Wales ddefnyddio yn eu lansiad swyddogol.

    Er mae "Wales Indeed" yw ystyr "Cymru Wir" oni ddyle ti ddefnyddio'r enw mae nhw wedi ei ddewis?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.