Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cadw Cownt

Vaughan Roderick | 13:20, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Fe ddywedodd rhyw un rhyw dro bod dim ond un peth gwaeth na cheisio darogan canlyniadau etholiad heb unrhyw arolygon barn. Ceisio darogan canlyniad ar sail arolygon un cwmni yw hynny.

Dyna yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd gyda newyddiadurwyr a gwleidyddion fel ei gilydd yn dibynnu bron yn llwyr ar YouGov. Mae gan y pleidiau ei ffigyrau canfasio wrth gwrs ond peth peryg yw gwneud penderfyniadau strategol ar sail y rheiny.

Nawr os ydw i neu newyddiadurwr arall yn cam-ddarllen sefyllfa ar sail arolwg does neb yn cael ei ladd. Mae ond yn fater o wy ar wep. I'r pleidiau ar y llaw arall gall arolwg camarweiniol esgor ar gamgymeriadau tactegol - gwastraffu adnoddau mewn sedd amhosib ei hennill neu beidio amddiffyn sedd sydd mewn peryg.

Dyw hyn oll ddim yn feirniadaeth o YouGov. Fe fyddai'r un peth yn wir am unrhyw gwmni. Ar ôl dweud hynny mae 'na academyddion sydd o'r farn bod YouGov yn gorfesur y gefnogaeth i Lafur a'r nifer sy'n debygol o droi allan i bleidleisio. Gyda llaw, gallai'r cynnydd yn y nifer hwnnw esbonio'r y cwymp yn y gefnogaeth i Blaid Cymru yn arolygon diweddar y cwmni.

Da o beth felly yw gwybod bod cwmni arall allan yn y maes ac yn bwriadu cyhoeddi canlyniadau yn ystod y dyddiau nesaf. Os ydy'r rheiny yn cytuno a YouGov fe fydd hynny'n ychwanegu at hygrededd y darogan. Os ydyn nhw wahanol - wel fe fyddwn ni mewn picl!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:51 ar 4 Ebrill 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Tybio Vaughan os ydych yn gwybod pa gwmni gafodd canlyniad y refferendwm fwyaf agos? a fysa hynny yn dangos pa mor ddibynadwy ydyn't yng nghwleidyddiaeth Cymreig?

    Hefyd pam bod neb bron yn defnyddio cwmni Cymreig i wneud polls (dwin meddwl mai Balfour?? ydy'r cwmni o Gaerdydd?).

    Ynglyn ar etholiad, fydd o'n un ddiflas iawn yn fy marn i, allaim gweld dim un plaid 'radical'. Dwi'n meddwl un canlyniad fydd yn ddiddorol fydd Sedd Ynys Mon- dwi'n meddwl fydd yna cwymp go fawr o IWJ. Un arall yn amlwg fydd sedd mae Nerys Evans yn trio cipio- oes na newyddion am y sedd yna? pa blaid neith ei gymeryd?

  • 2. Am 15:02 ar 4 Ebrill 2011, ysgrifennodd Dewi:

    O ia, o ni'n tybio Vaughan allwch chi esbonio pam bod hin eithaf amhosib i Llafur cael mwyafrif sylweddol?. Mae pob un or cyfryngau yn ail adrodd hyn fel ei bod wedi cael "set in stone". Ond allai ddim deall pam.

    O be dwi'n ei weld mae'r blaid yn y sefyllfa gorau i gael mwyafrif nag ydynt erioed wedi bod yn hanes y Cynulliad, felly os oeddent yn gallu cael 30sedd yn 2003 (yn ganol hanes Blair a Bush), pam bod pawb wedi'i dweud ei fod hi'n anodd cael mwyafrif y nawr?.

  • 3. Am 15:13 ar 4 Ebrill 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe enillodd Llafur bron y cyfan oedd yn bosib yn 2003 ac roedd hynny'n cynnwys hen etholaeth Conwy. Mae etholaeth Aberconwy yn anoddach o safbwynt ei ffinau. Mae'n bosib dychmygu Llafur yn cyrraedd y trideg trwy enill dyweder Blaenau Gwent, Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd a Gorllewin Clwyd. Ar ol hynny fe fydd pethau'n anodd yn enwedig o gofio y gallai enill etholaethau yn y Canolbarth a'r Gorllewin arwain at golli seddi rhestr.

  • 4. Am 16:57 ar 4 Ebrill 2011, ysgrifennodd blogmenai:

    Y drwg efo dy ddadansoddiad, Vaughan ydi mai 36.5% o'r bleidlais gafodd Llafur yn y rhanbarthau yn 2003. Os ydi'r polau YouGov yn gywir (a fel ti'n dweud mae yna gryn amheuaeth)mae Llafur fwy na 10% yn uwch na hynny. Os byddant yn cael 50%+ mewn rhai rhanbarthau, yna byddant yn dechrau ennill seddi rhestr - hyd yn oed os ydynt yn ennill bron i pob sedd yn y rhanbarthau hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.