Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mwy o Afu

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Fe wnes i ysgrifennu ddoe ynghylch natur anweledig braidd yr ymgyrch etholiadol - y tu allan i Geredigion o leiaf! Serch hynny mae'r ymgyrch etholiadol yn fwrlwm o gyffro o gymharu â'r ymgyrchu ar gyfer pleidlais arall Mai'r 5ed, y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen.

Mae 'na ambell i boster o gwmpas - yn swyddfeydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bennaf ond ar wahân i'r rheiny bach iawn o ymgyrchu sy'n digwydd hyd y gwelaf i.

Dyw hynny ddim yn syndod. Roedd hi'n anorfod y byddai gweithwyr y pleidiau yn blaenoriaethu'r etholiad ond yn ôl un o hen bennau ymgyrch Ie refferendwm Mis Mawrth mae'r ymgyrch Ie wedi ychwanegu at y broblem.

Mae'r ymgyrch Ie swyddogol wedi mabwysiadu polisi o beidio defnyddio gwleidyddion fel llefarwyr. Defnyddio "pobl gyffredin" yw'r polisi er bod defnyddio'r gair "cyffredin" i ddisgrifio Eddie Izzard yn dipyn o strets!

Yr un oedd bwriad ymgyrch Ie mis Mawrth ond, o fewn byr o dro, newidiwyd y polisi ar ôl i'r trefnwyr sylweddoli bod nifer sylweddol o etholwyr yn awchu i gael arweiniad gwleidyddol gan eu pleidiau.

A fydd yr Ymgyrch Ie i Afu yn gorfod gwneud yr un peth? Fe gawn weld ond does dim llawer o amser ar ôl.

Wedi'r cyfan mae'n rhaid i'r ymgyrch Ie ennill y ddadl feddyliol os am ennill y bleidlais. Hau hadau ansicrwydd yw tasg llawer haws yr ymgyrch Na.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:37 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Be ar y ddaear oedd y Referndum Broadcast ar y Ö÷²¥´óÐã heno. O ni'n meddwl fy mod i yn cefnogi AV, on ar ol hwn sgen i'm clem be mae'n ei olygu(!).

  • 2. Am 11:39 ar 13 Ebrill 2011, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    O diar O diar O diar…Rwyf newydd weld rhaglen Saesneg am yr etholiad Nos Lun, Betsan Powys o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Roedd cynrychiolwyr yna ar y panel o’r pedair prif blaid. O diar…roedd safon yr atebion yn isel ofnadwy. I mi roedd yn embaras llwyr. Byddai disgyblion Ysgol llawer gwell na unrhyw un o’r cyfranwyr. Beth sydd yn bod a ni/ Os dyma fydd safon y siarad a’r dadlau yn ein Cynulliad newydd Duw a’n help!. Os bosib nad oes gwell siaradwyr ar gael gan yr holl bleidiau enwedig yn y Saesneg!

  • 3. Am 12:21 ar 13 Ebrill 2011, ysgrifennodd FiDafydd:

    Beth yw dy ymateb i'r pôl piniwn gan Brifysgol Aberystwyth, Vaughan, sy'n rhoi'r Blaid yn gyfforddus iawn ar y blaen, a'r LibDemiaid rhyw ychydig bwyntiau yn unig o flaen Llafur yng Ngheredigion?

  • 4. Am 14:10 ar 13 Ebrill 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r sampl yn fawr ac mae 'trac record' yr adran wleidyddiaeth yn dda. Mae'r holl rhybuddion arferol ynghylch arolygon yn bodoli - ond does na ddim byd yn ymddangos o le ar y fethodoleg.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.