Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dod a Mynd

Vaughan Roderick | 16:31, Dydd Gwener, 13 Mai 2011

Diawch mae heddiw'n brysur! Hyd yma cafwyd enwau'r cabinet, datganiad Ieuan Wyn Jones a newid enw y Llywodraeth - a'r cyfan ar ddiwrnod "Dau o'r Bae". Mae'n amlwg bod y traddodiad o ddyddiau Gwener tawel wedi hen ddiflannu!

Cewch weld siâp y cabinet newydd ar y dudalen newyddion. Mae 'na ambell i beth trawiadol yn ei gylch. Y cyntaf yw bod ambell i swydd ac ambell i adran sydd wedi bodoli o'r cychwyn cyntaf wedi diflannu neu israddio. Mae'n rhyfedd peidio gweld Gweinidog Cefn Gwlad yn y cabinet, er enghraifft, yn enwedig o gofio mai yn y swydd honno y gwnaeth Carwyn Jones ei enw.

Mae symud y cyfrifoldeb am y Gymraeg i'r Gweinidog Addysg yn syniad sydd wedi bod o gwmpas ers peth amser ac yn sicr mae'n gwneud synnwyr wrth edrych ar ddeiliaid yr Adran Addysg a'r Adran Dreftadaeth. Gall neb amau ymroddiad Leighton Andrews tuag at yr iaith. Ar y llaw arall mae'n wleidydd sydd ddim yn ofni dweud ei ddeud na thynnu blew o drwynau sefydliadol. Fe ddylai'r blynyddoedd nesaf bod yn ddiddorol a dweud y lleiaf.

O ganlyniad i'r penderfyniad ynghylch yr iaith mae adran newydd Huw Lewis yn cynnwys cyfuniad braidd yn rhyfedd o bynciau. Y "Department of Odds and Sods" oedd disgrifiad un newyddiadurwr o bortffolio sy'n cynnwys Tai, Adfywio a Threftadaeth. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn ddrwg o beth. Mae modd defnyddio'r celfyddydau a threftadaeth fel rhan o gynlluniau adfywio, er enghraifft, ond dydw i ddim cweit yn deall lle mae Tai yn ffitio i mewn.

Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw ai Cabinet am bum mlynedd neu bump mis yw hwn? Y naill na'r llall yw'r ateb yn fy marn i. Cabinet i gadw'r opsiynau'n agored yw hwn gyda digon o weinidogion i weithio'n effeithiol ond yn ddigon hyblyg i ganiatáu newid naill ai er mwyn gwneud lle i weinidogion Clymblaid neu newydd-ddyfodiaid Llafur.

Beth felly am gyhoeddiad Ieuan Wyn Jones? Mewn sawl ystyr doedd dim byd annisgwyl yn ei sylwadau. Doedd neb yn disgwyl iddo arwain ymgyrch y blaid yn 2016. Mae'n debyg mai prif bwrpas datganiad heddiw oedd tawelu unrhyw alwadau am ornest gynnar i ddewis ei olynydd.

Ond beth yw cymhelliad Dafydd Elis Thomas sy'n prysur ensynio y byddai'n fodlon sefyll fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth?

Mae'n anodd osgoi'r casgliad mai ceisio tanio ergyd cychwyn i'r ras mae'r cyn-lywydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:45 ar 13 Mai 2011, ysgrifennodd Wynbert:

    Diddorol hefyd yw teitl un o swyddogaethau Carwyn (mae ganddo mwy o deitlau na Dug Cernyw!) - sef cyfrifoldeb dros Ddiwygio'r Gwasanaeth Sifil. Mae cynnwys y gair "diwygio" yn arwyddocaol ac yn bositif yn fy marn i.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.