Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Crafu Pen

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011

Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi ysgrifennu fy mlogbost olaf ynghylch helynt John Dixon ac Aled Roberts! Nid felly y bu. Fe wnaethon ni daflu carreg i'r dŵr ar CF99 neithiwr sydd wedi achosi tipyn o storom - yn y rhithfyd o leiaf.

Cewch ddarllen y draw ar y safle newyddion ond dyma hanfod y peth.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud bod eu hystadegau yn awgrymu nad oedd neb wedi ymweld â'r dudalen Gymraeg ar eu gwefan, oedd yn cynnwys canllawiau i ymgeiswyr etholiadol, cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Dywedodd Rhydian Thomas ar ran y Comisiwn ar raglen CF99 Ö÷²¥´óÐã Cymru eu bod wedi casglu ystadegau ar faint o bobl ddarllennodd y ddogfen benodol yn Gymraeg a Saesneg.

Prynhawn dydd Mercher fe bleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad i adfer Aled Roberts i'w sedd yn y Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru wedi i ymchwiliad ganfod ei fod wedi cael ei gamarwain gan hen ganllawiau ymddangosodd ar wefan y Comisiwn.

Nawr os ydych chi'n gwrando ar y trydarwyr mwyaf eithafol mae sylwadau Rhydian yn awgrymu nad yw Aled Roberts yn dweud y gwir ynghylch dilyn cyngor Cymraeg y Comisiwn Etholiadol a bod Gerard Elias, Comisiynydd Safonau'r Cynulliad wedi bod yn esgeulus neu'n ddichellgar wrth baratoi ei adroddiad i'r Cynulliad. Mae'r rheiny yn gyhuddidau difrifol iawn.

Rwy'n meddwl bod angen pwyllo yn fan hyn a chofio bod yr Heddlu a'r Comisiynydd Safonau wedi edrych ar y dystiolaeth hon ac wedi penderfynu nad oedd o bwys.

Mae 'na esboniad cyfrifiadurol posib am hynny. Yn ôl pobol sy'n deall cyfrifiaduron llawer yn well na fi mae'n debyg na fyddai'r gwefan wedi cofnodi ymweliad o gyfrifiadur nad oedd yn defnyddio "java script" - ac mae hynny'n wir, ar y cyfan, am gyfrifiaduron sector gyhoeddus - cyfrifiaduron awdurdodau lleol, er enghraifft.

Ond mae pwynt pwysicach yn fan hyn. Fe fyddai Aled wedi peryglu ei drwydded fel cyfreithiwr a'i fywoliaeth trwy ddweud celwydd wrth yr heddlu. Ydy e'n gredadwy y byddai fe wedi gwneud hynny heb wybod os oedd modd ai peidio i'r comisiwn ddadbrofi ei honiad?

Gofyn y cwestiwn ydw i a dyma i chi gwestiwn arall.

Os oeddech chi yn gwybod bod eich boss yn Llundain yn poeri gwaed am ffaeleddau ei swyddfa yng Nghymru a fyddech chi yn cael eich temtio i godi ambell i sgwarnog?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:01 ar 7 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd Rhys:

    Nawr os ydych chi'n gwrando ar y trydarwyr mwyaf eithafol mae sylwadau Rhydian yn awgrymu nad yw Aled Roberts yn dweud y gwir..

    Tin gallu cael URL unigryw i drydariadau unigryw drwy clicio ar y dyddiad ac amser o dan yr ysgrifen. Byddai dolen at gyhuddiadau o'r fath yn gella'r cofnod.

    Mae sawl un mwy technegol na finnau yn amau dylysrwydd honiadau'r Comisiwn. Mae'r bythol-brysur Carl Morris yn rhedeg arbrawf ar hyn o bryd:

    a all brofi os oes sylwedd i'w honaid neu beidio

  • 2. Am 12:37 ar 7 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd dewi:

    Mae Senedd.tv 99% o'r amser yn hynod o ddiflas, rhaid deud mae cyfarfodydd y cyngor plwyf hefo llawer mwy o egni na rhai ein Cynulliad.

    Ta waeth, nes i edrych ar y ddadl ddoe ac rhaid deud, o ran drama, roedd o'n un o'r ddadleuon gorau dwi wedi gweld yn y Cynulliad (ond rhaid cwestiynu be nath rhai ACau ofyn- dwnim os nath y nhw wrando ar y ddadl).

    Cyn y ddadl, pe bawni yn AC fe fywsn i wedi gadael AR nol fewn. Ond dwin meddwl mai Peter Black nath ddeud rywbeth nath newid fy meddwl i. Nath o ddeud rwbath fel, pe bai Aled yn cynrychioli etholaeth a nid rhanbarth "it would be whole different ball game".

    O nin gweld hynny yn od- ac yn dangos mai nid y Cynulliad y dylai penderyfnnu materion fel hyn ond y llysoedd. Oherwyd mae'n amlwg pe bai o wedi cynrychioli etholaeth fel Ceredigion fe fysai Plaid wedi pledleisio yn ei erbyn. Roedd on amlwg toedd Kirsty ddim eisiau Eleanor yn ol. Mae hyn i gyd yn gwleidyddiaeth a di hyn ddim yn iawn.

    Er fy mod i yn teimlo drosto fel person, dwi'n meddwl neith y Cynulliad dyfaru y saga yma- ac dwin siwr y doith o yn ol i bwganu'r lle.
    Mae yna LOT fawr o gwestiynau dal i'w ateb, a dwi ddim am trafferth trio sgwennu nhw.

  • 3. Am 15:26 ar 7 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd diiys:

    Dewi, mi fyddwn yn meddwl fod yna esboniad digon syml i honiad Peter Black, sef bod etholiadau i'r etholaeth yn un 'cyntaf heibio'r postyn', a'r etholwyr yn pleidleisio i ymgeisydd penodol, ac mewn etholiad rhanbarthol maent yn pleidleisio i Blaid. Mewn etholiad cyntaf heibio'r postyn, pe byddai'r enillydd yn anghymwys byddai'n rhaid cynnal etholiad arall; mewn etholiad rhanbarthol, gyda phleidiau wedi cynnig rhestr o ymgeiswyr, y nesaf i lawr y rhestr fyddai'n mynd â'r sedd.

  • 4. Am 17:09 ar 7 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd dewi:

    O ia, Vaughan- allwch plis plis plis ateb UN cwestiwn i mi.

    Ydy Aelodau Seneddol yn gorfod cadw i rheolau fel hyn yntau dim ond rhai y Cynulliad? Hynny yw, petai Aled wedi cael ei ethol i San Steffan o dan yr un amgylchiadau- a fysa y stwr yma wedi codi i fyny hefyd? Os felly beth sy'n digwydd yn Llundain, os ddim... Pam?

    ....rheswm dwi'n gofyn ydy oherwydd dwi wedi trio edrych ar pwy sy'n cael/ddim sefyll fel AS, ag yr oll dwi'n gweld yw pethau fel 'gorfod bod dros 18' ayyb. Dim byd am quangos a ballu!

  • 5. Am 17:38 ar 7 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd Vaughan:

    Cwestiwn da a dydw i ddim yn gwybod yr ateb! Fe wnai ofyn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.