Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mili a'i Fand

Vaughan Roderick | 17:54, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Gwylio'r Gynhadledd Lafur o bell ydw i - neu yn achos araith yr arweinydd - gwrando o bell. Dwn i ddim beth aeth o le ar y ffid teledu ond mae'n enghraifft efallai o'r fath o anlwc sy'n gallu taro gwrthblaid o bryd i'w gilydd. Yr un anlwc mae'n debyg oedd yn gyfrifol am ddewis can gan "Florence and the Machine" i'w chwarae ar ddiwedd yr araith. Pwy oedd yn credu ei bod hi'n gymwys i'r geiriau yma daranu ar draws y neuadd wrth i'r arweinydd dderbyn cymeradwyaeth?

"Sometimes it seems that the going is just too rough
And things go wrong no matter what I do"

Mae hen ddigon o bobol eraill wedi dweud eu dweud am berfformiad Ed Miliband yn ei flwyddyn gyntaf fel arweinydd. Dydw i ddim am ychwanegu at y dadansoddiadau ac eithrio trwy ddweud un peth. Mae Llafur rMiliywsut wedi llwyddo i osgoi'r fath o ymgecru mewnol a ddaeth i'w rhan ar ôl colli grym yn 1951 ac eto yn 1979. I'r graddau y mae'r arweinydd yn gyfrifol am hynny gall y blaid bod yn ddiolchgar iddo. P'un ai fe yw'r gŵr i'w harwain yn ôl i rym yn San Steffan ai peidio - "pwy a ŵyr?" yw'r unig ateb synhwyrol ar hyn o bryd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:23 ar 28 Medi 2011, ysgrifennodd Dafydd:

    Ed Milliband - Ioan Fedyddiwr?

    Fydd e'n arwain Llafur i etholiad nesaf Prydain?

    Os mai Milli Bach yw Ioan Fedyddiwr ... pwy fyddai'n Iesu Grist? (ymddiheuriadau rhag-blaen am y cabledd).

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.