Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr hen ogledd

Vaughan Roderick | 13:55, Dydd Mercher, 7 Medi 2011

Yfory fe fydd aelodau Plaid Cymru yn cychwyn am Landudno ar gyfer ei chynhadledd flynyddol. Yn ôl yr arfer heddiw gafodd aelodau'r wasg y cyfle i gwrdd am sgwrs rhag blaen gyda'i harweinydd. Roedd yn rhyfedd sylweddoli mai hwn oedd y tro olaf i ni gyflawni'r ddefod fechan hon - gyda'r deiliad presennol o leiaf. Beth bynnag yw'r beirniadaethau o Ieuan Wyn Jones gall neb amau ei ddycnwch na'i allu i ddal ei afael ar awenau ei blaid.

Fel y gellid disgwyl ar drothwy ei gynhadledd olaf fel arweinydd roedd Ieuan mewn hwyliau meddylgar gan edrych yn ôl dros gyfnod ei arweinyddiaeth ac yn gwneud ambell i awgrym ynghylch y ffordd ymlaen i'w blaid a'i wlad.

Yr hyn oedd yn synnu fi ynghylch sylwadau Ieuan am ddatblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru oedd ei fod fel pe bai yn cymryd yn ganiataol na fyddai 'na bleidlais "Ie" yn y refferendwm annibyniaeth sydd i'w gynnal yn yr Alban. Pan ofynnais iddo a oedd e wedi meddwl pa ffurf fyddai ar wladwriaeth newydd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon pe bai'r Alban yn torri ei chwys ei hun "nac ydw, mewn gwirionedd" oedd yr ateb.

Dyw Ieuan ddim yn unigryw yn hynny o beth. Mae 'na ryw fath o deimlad cyffredinol ymhlith gwleidyddion Cymru na fydd yr Albanwyr ar ddiwedd y dydd yn dewis annibyniaeth. Wel, fel oedd Rhodri Morgan mor hoff o ddweud "denial isn't just a river in Egypt". Wedi'r cyfan mae Alex Salmond wedi cyflawni'r "amhosib" mewn dau etholiad Albanaidd o'r bron ac am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd yn ôl un arolwg barn mae'r ochr "Ie" a'i thrwyn ar y blaen.

Nawr efallai ei bod hi'n bosib deall amharodrwydd unoliaethwyr i gyfaddef iddyn nhw hun ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r undeb y maen nhw mor hoff ohono yn dirwyn i ben. Mae'n anodd deall pam nad yw cenedlaetholwyr Cymreig yn cofleidio'r posibilrwydd a'r cyfleoedd allai cael eu creu.

Efallai bod 'na elfen o eiddigedd ynghylch y peth neu deimlad o gywilydd efallai o sylweddoli bod datgan eich safbwynt yn glir a dadlau drosto yn fwy effeithiol na chuddio'ch prif amcan yng nghrombil y maniffesto.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.