Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Smac!

Vaughan Roderick | 12:02, Dydd Iau, 20 Hydref 2011













Mae llawer wedi ei ddweud ynghylch y ddadl smacio yn y Cynulliad ddoe. Roedd hi'n ddadl dda hefyd. Beth bynnag yw'ch barn chi'n mae'n werth ei gwylio. Yn sicr roedd araith Lindsay Whittle yn un o'r rhai mwyaf grymus yn hanes diweddar y Cynulliad - hyd yn os oedd hi, ym marn Byron Davies, yn nonsens emosiynol.

Nawr, does dim llawer yn debyg o ddod o'r ddadl ond roedd y drafodaeth yn ddiddorol. Er mai pleidlais rydd oedd hon ar y cyfan roedd y gwahaniaethau barn yn rhai rhwng y chwith a'r dde gyda'r Ceidwadwyr, ar y cyfan, yn cefnogi rhyddid rhieni i ddewis pu'n ai smacio'u plant ai peidio ac aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn dymuno gweld diwedd ar gosbi corfforol yn y cartref.

Roedd 'na raniad pellach ar y chwith. Roedd pump ar hugain o aelodau yn dymuno gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y dyfodol agos. Mae eraill - gweinidogion y Llywodraeth yn bennaf - y'n credu bod angen braenaru'r tir a dylanwadu ar y farn gyhoeddus cyn gwneud hynny. Ymatal yn y bleidlais wnaeth yr aelodau hynny.

Y Llywodraeth fydd yn cael ei ffordd ond mae'r cwestiwn o bryd yn union mae'n gymwys i ddeddfu ynghylch rhyw newid neu'i gilydd yn un sy'n codi'n aml - ai rôl deddfwrfa yw arwain gyhoeddus neu ei hadlewyrchu?

Does dim ateb syml i'r cwestiwn. Yn yr achos yma mae'r Llywodraeth yn teimlo mae pwyll pia'i hi.

Wedi'r cyfan. mae'r holl dystiolaeth dros y ddegawd ddiwethaf yn awgrymu bod mwyafrif sylweddol o bobol yn gwrthwynebu gwaharddiad ond gallai hynny newid - a newid yn gyflym.

Yn 1962 cyrhaeddodd cân a'r geiriau yma'r siartiau.

"He hit me and it felt like a kiss
He hit me and I knew he loved me
Cause if he didn't care for me
I could have never made him mad
He hit me and I was glad
Baby won't you stay..."

Sefydlwyd y Mudiad Cymorth i Ferched yn 1971 ac yn 1976 cafwyd y ddeddfwriaeth gyntaf i ymyrryd a 'hawl' dynion i guro'u gwragedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:41 ar 21 Hydref 2011, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Dwi erioed wedi gallu deall pam y byddai'n drosedd i mi daro oedolyn a oedd, yn fy marn i, yn camymddwyn ond yn dderbyniol i mi daro fy mhlentyn fy hun o dan yr un amgylchiadau. Ddim pwyllo sydd angen ond deddfu ar frys i atal cam-drin plant cyfreithlon!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.