Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sbin Uwch Adsbin

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2011

Dydw i ddim yn gwybod os ydw i wedi dal feirws neu rywbeth ond am yr ail bost yn olynnol rwyf am gyfeirio yn ôl at ddyddiau Mrs Thatcher. 1990 yw'r maes llafur heddiw - blwyddyn pan oedd trafferthion Treth y Pen ar eu hanterth a'r llywodraeth Geidwadol yn gwegian.

Ar ddydd Sadwrn y 31ain o Fawrth roedd protest yn Llundain gan ryw chwarter miliwn o bobol wedi esgor ar drais a therfysg gyda siopau a cheir ar dan, dros gant o bobol wedi eu hanafu a thri chant wedi eu harestio. Yn wahanol i derfysgoedd eleni doedd 'na ddim adwaith enfawr yn erbyn y terfysgwyr ymhlith y cyhoedd oedd, ar y cyfan, yn gynddeiriog ynghylch y dreth newydd.

Ar y meinciau Ceidwadol roedd y sibrwd ynghylch dyfodol Thatcher ar gynnydd ac am gyfnod roedd hi'n ymddangos y byddai canlyniad gwael yn etholiadau lleol mis Mai yn ddigon i selio ei thynged.

Sut oedd achub y Prif Weinidog felly? Roedd gan ei rhingyll mwyaf ffyddlon gynllun - yr enghraifft orau y gwn i amdani o chwarae'r gêm ddisgwyliadau.

Fe lwyddodd Cadeirydd y blaid, Kenneth Baker i argyhoeddi newyddiadurwyr gwleidyddol mai'r unig ganlyniadau oedd o bwys oedd canlyniadau dau gyngor pitw yn Llundain sef Westminster a Wandsworth. Dim ond y rheiny fyddai'n cynrychioli'r farn genedlaethol, meddai, ffactorau lleol fyddai'n gyfrifol am yr holl ganlyniadau eraill.

Mae'n anodd coelio bod hyd yn oed newyddiadurwyr oedd yn treulio'u dyddiau o fewn swigen San Steffan wedi llyncu'r peth - ond fe wnaethon nhw.

Fel oedd Kenneth Baker yn gwybod yn iawn, o ganlyniad i werthoedd trethianol tai yn y ddwy ardal roedd eu trigolion ymhlith yr ychydig oedd wedi elwa o gyflwyno treth y pen. Fe adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau'r etholiad. Y bore wedyn roedd papurau cefnogol i'r Ceidwadwyr yn uchel eu cloch wrth ddathlu 'buddugoliaeth' y Ceidwadwyr a chyhoeddi 'methiant' y gwrthbleidiau.

Pennawd ar wefan y Daily Mail heddiw wnaeth fy atgoffa o'r hanes. Dyma mae'n ei ddweud.

"Heathrow has never been more efficient! Passengers' glee as border agency strike actually SPEEDS UP passport control"

Pe bawn i'n sinig, ac wrth gwrs dydw i ddim, byswn yn amau bod y Llywodraeth yn fwriadol wedi bod yn ceisio dyrchafu Heathrow fel rhyw fath o faen prawf o lwyddiant neu fethiant streiciau'r sector gyhoeddus. Ar yr un pryd byddai sinig yn amau bod y Llywodraeth wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau bod y gweithredu yn cael nemor ddim effaith ar y maes awyr.

Byswn i byth yn awgrymu'r fath beth wrth gwrs - ond rwy'n sicr bod David Cameron yn ddiffuant wrth ddiolch i weithwyr ei swyddfa breifat wnaeth wirfoddoli i weithio ar ddesgiau pasport Heathrow.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.