Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Croesi Popeth

Vaughan Roderick | 14:48, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

Fe ddioddefodd y Blaid Lafur sawl 'annus horribilis' yn y blynyddoedd cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf. Un o'r gwaethaf oedd 2008 - blwyddyn yr etholiadau cyngor diwethaf. Mae'n werth cofio maint y gyflafan - un a ddisgrifiwyd ar y pryd fel 'trobwynt hanesyddol' gan ambell i sylwebydd ac academydd.

Cyn yr etholiad roedd gan Lafur fwyafrif ar wyth o gynghorau - nifer oedd eisoes yn isel o gofio cryfder traddodiadol y blaid yn siambrau cyngor Cymru. Ar ôl colli 124 o seddau ar y noson dim ond dau gyngor - Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot oedd ar ôl.

Dim ond 342 o gynghorwyr Llafur gafodd eu hethol. Doedd hynny ddim cymaint â hynny'n fwy na Phlaid Cymru (205) y Ceidwadwyr (174) neu hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol (162). Yn wir roedd y 342 yna yn y golofn Llafur yn llai na'r 381 yng ngholofn y cynghorwyr annibynnol a'r pleidiau llai.

Dyw e ddim yn syndod bod Llafur yn edrych ymlaen a chryn hyder at etholiad lleol 2012 felly. Os nad oes 'na ryw newid anhygoel yn yr hinsawdd wleidyddol fe ddylai 'na fod llanw cryf o blaid Llafur fis Mai nesaf. Rhaid aros a disgwyl i weld maint y llanw hwnnw. Fe fydd Llafur yn gobeithio y bydd e'n ddigon i adennill rheolaeth mewn cyfres o gynghorau ac i dynnu blew o drwyn y rhai oedd yn taranu ynghylch 'trobwyntiau' a 'nosweithiau hanesyddol' yn 2008.

Heb amheuaeth fe fyddai pob un o'r pleidiau eraill yn dioddef o dan y fath amgylchiadau ond mae un blaid y gallai llanw Llafur droi'n swnami iddi. Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r blaid honno.

Mae hanes y Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr ers ei isafbwynt yng nghanol y ganrif ddiwethaf yn un hynod ddiddorol. Erbyn diwedd y chwedegau prin ei bod hi'n bodoli yng Nghymru y tu hwnt i Faldwyn a Cheredigion.

Mae'r hynny o gryfder sydd ganddi heddiw yn ffrwyth degawdau o ymdrech a gwaith caled wrth i selogion y blaid ymroi i adeiladu sylfaen gadarn iddi ward wrth ward - gan ganolbwyntio ar etholiadau lleol yn hytrach na rhai seneddol.

Mae'n gas gan y pleidiau eraill dactegau lleol y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'u siartiau bar a'u 'rasys dau geffyl' ond does dim dwywaith eu bod nhw'n effeithiol. Nid geiriau gwag yw mantra'r blaid "where we work we win".

Yn 2012 fe fydd y blaid yn gobeithio y bydd gwaith caled eu cynghorwyr yn fodd i inswleiddio eu cefnogaeth o amhoblogrwydd y blaid ar lefel Brydeinig a Chymreig. Gallai hynny ddigwydd mewn wardiau a gipiwyd oddi ar y Ceidwadwyr ar hyd y blynyddoedd ond mewn wardiau oedd yn draddodiadol Llafur fe fydd yn rhaid croesi bysedd a chroesi coesau!

Yn wahanol i Lafur yn 2008 fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei chael hi'n anodd i oroesi cyflafan etholiadol. I raddau llawer yn fwy na'r pleidiau eraill - y cynghorwyr yw asgwrn cefn y blaid. Nhw, eu teuluoedd a'u cyfeillion sy'n ariannu'r blaid i raddau helaeth a nhw sy'n rhannu'r holl daflenni yna yn y cadarnleoedd.

Y ddau gwestiwn ddylai fod yn poeni'r blaid yw'r rhain - sut mae amddiffyn y nifer fwyaf posib o seddi a sut mae darbwyllo y cymaint o'r rheiny sy'n colli a phosib i gadw eu trwynau at y maen am bedair blynedd arall.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:06 ar 1 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Twm:

    Siwr o fod 5 mlynedd fydd rhwng yr etholiadau lleol nesaf gan na fydd Llafur y cynulliad eisiau'r etholiad lleol ar yr un diwrnod ac etholiad cynulliad 2016.

    5 mlynedd yn amser hir i fod yn weithio i adennill set.

  • 2. Am 09:39 ar 3 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Adam Jones:

    Am depressing ar fore ddydd Iau gwlyb.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.