Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri'r Ceiniogau

Vaughan Roderick | 14:56, Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2011

"Mae oglau'r coffi wedi cyrraedd y pumed llawr." Dyna oedd disgrifiad un Democrat Rhyddfrydol sy'n agos y trafodaethau ynghylch Cyllideb Llywodraeth Cymru am gyflwr y trafodaethau hynny. Mae'r cloc yn tician, wrth gwrs gyda'r Llywodraeth yn gorfod gosod y gyllideb ddydd Mawrth nesaf ar gyfer dadl ar y chweched o Ragfyr.

Gyda'r Ceidwadwyr wedi eu cau allan o'r trafodaethau mwy neu lai o'r cychwyn mae'n deg dweud bod timau negodi Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu siomi gan agwedd y Llywodraeth hyd yma. Yn ôl ffynonellau yn y ddwy blaid roedd hi'n ymddangos bod y Llywodraeth yn fodlon aros tan y funud olaf gan gynnig fan gonsesiynau yn y gred y byddai'r naill blaid neu'r llall yn cracio.

Rwy'n synhwyro bod y sefyllfa wedi newid rhyw ychydig yn ystod y trafodaethau diweddaraf yn arbennig y rhai gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. P'un ai y gall Llafur ddod o hyd i'r arian angenrheidiol i dalu pris unrhyw ddel ai peidio sy'n fater arall.

Mae 'na un ffactor a allai effeithio ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Galw am wariant ar ddatblygu economaidd a chyflymu'r rhaglen gyfalaf mae Plaid Cymru. Bwriad cynllun Ieuan Wyn Jones yw rhoi hwb byr dymor i'r economi mewn cyfnod anodd. Cytundeb ynglŷn â chyllideb 2011-12 yn unig sydd ei angen.

Dymuno gweld arian yn cael ei arallgyfeirio i ysgolion sy'n addysgu'r mwyaf difreintiedig mae'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae synnwyr cyffredin yn dweud na fyddai'n synhwyrol i wneud hynny am flwyddyn yn unig. Wedi'r cyfan, beth fyddai pwynt cyflogi rhagor o athrawon yn 2011 ac yna eu diswyddo flwyddyn yn ddiweddarach?

Pe bai Carwyn yn chwarae ei gardiau'n ofalus mae 'na wobr werth ei chael yn fan hyn. Ai fi yw'r unig un sy'n cofio 'opsiwn Seland Newydd'?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:51 ar 23 Tachwedd 2011, ysgrifennodd MIHANGEL TINDALL:

    'Ai fi yw'r unig un sy'n cofio 'opsiwn Seland Newydd'?

    Ie, mwy na thebyg. felly dwed wrth y gweddill o ni beth yw e'.

  • 2. Am 17:31 ar 23 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Obell:

    Nid yr unig un...ac mae SN o fewn cyrraedd sefyllfa Seland Newyddiadd yn y dyddiau nesaf

  • 3. Am 17:41 ar 23 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Vaughan:

    Yn ol a ni i ddyddiau cynnar y blog.

    /blogs/thereporters/vaughanroderick/2007/04/seland_newydd.html

  • 4. Am 13:02 ar 24 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Nash hen ffash:

    Canfod arian: wel os da y cofiaf, mae gan y DemRhyddion fantais yma'n does? Atgoffa ni Vaughan, beth ydi swydd lywodraethol Aelod Seneddol Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey...?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.