Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2012

Dyrchafwch ef yn ben

Vaughan Roderick | 10:21, Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2012

Sylwadau (1)

Ymhen rhyw chwe wythnos fe fyddwn yn gwybod pwy yw arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae'r ras honno yn profi'n llawer mwy diddorol na'r disgwyl ond mae 'na gwestiwn gen i am arweinyddiaeth plaid arall sy'n ddim agosach i'w ateb. Dyma fe. Pwy yw arweinydd y Blaid Geidwadol Gymreig - os ydy'r blaid honno'n bodoli o gwbwl?

Yn fy nisgwyl y bore yma roedd datganiad newyddion o brif swyddfa'r Ceidwadwyr yn Llundain yn cyhoeddi sefydlu trefn newydd i'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Yn wir yn ôl y datganiad fe fydd Plaid Geidwadol ac Unoliaethol Gogledd Iwerddon yn blaid 'gwbwl newydd' fydd yn mwynhau annibyniaeth (autonomy) o fewn y blaid Brydeinig. Fe fydd y blaid yn cynnal etholiad i ddewis ei harweinydd o fewn blwyddyn. Sylwer mai 'arweinydd y blaid' yw hwn i fod nid 'arweinydd grŵp' nac unrhywbeth felly.

Beth yw'r model ar gyfer y blaid newydd hon? Mae'r datganiad yn gwbwl eglur. Dyma mae'n ei ddweud.

"The main Board of the Conservative Party yesterday agreed to the reconstitution of the Northern Ireland Conservatives on the same basis as the Welsh Conservative Party."

Nawr os nad ydw i'n dwpsyn o'r radd flaenaf mae'r datganiad hwnnw yn awgrymu bod Andrew R T Davies yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol Gymreig yng ngolwg prif fwrdd y blaid Brydeinig. Mae yntau wrth gwrs wedi gwadu hynny droeon gan fynnu mai arwain grŵp y cynulliad yn unig mae'n gwneud.

Efallai bod angen meataffisegydd neu ddiwinydd i ddeall y berthynas rhwng pleidiau Ceidwadol Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Deyrnas Unedig. Efallai eu bod fel y drindod, yr un yn dri a'r tri yn un, ond nid mater haniaethol dibwys yw union ddiffiniad swydd Andrew R T Davies.

Cymerwch y smonach lwyr ynghylch canslo cynhadledd Ceidwadwyr Cymru rhai wythnosau yn ôl.

Barn sawl Aelod Cynulliad Ceidwadol yw bod y penderfyniad hwnnw wedi gwneud niwed difrifol i'r blaid. Penderfyniad gan fwrdd y blaid Gymreig oedd hwn - corff y mae Andrew R T Davies yn aelod ohono ond un nad yw e, yn ei farn ef, i fod i'w arwain. Mae'n debyg felly nad oedd yn meddwl mai ei le fe oedd ymyrryd yn y penderfyniad a mynnu bod y bwrdd yn callio.

Os felly, boed felly ond dyw e ddim yn syndod efallai bod un Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi gwneud y sylw hwn.

" It's at times like this that we miss Nick Bourne."

ON Yn sgil cyhoeddi'r blogbost hwn mae Andrew wedi datgelu bod trafodaethau'n digwydd ynghylch yr angen am arweinydd gwleidyddol i'r blaid Gymreig.



Penblwydd Hapus Annwyl Saunders

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012

Sylwadau (1)

Fe fydd selogion 'Dau o'r Bae' wedi sylwi bod 'na newid personél wedi bod yn ddiweddar. Gyda Bethan Lewis bant yn cael babi mae Elliw Gwawr wedi camu i'r adwy. Dydw i ddim yn golygu unrhyw amarch i Bethan trwy ddweud bod 'na fanteision o gael awdures blog fel cyd-gyflwynydd. Os ydw i'n magu bol dros y misoedd nesaf chi'n gwybod pam!

Mae'n sicr bod ambell i gacen wedi ei phobi i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn nawdeg yr wythnos hon. Dydw i ddim yn argyhoeddedig bod pen-blwydd yn nawdeg yn haeddu cymaint o jiwbilî ond fe fyddai'n rhaid bod yn ddyn surbwch iawn i wadu hawl Mistar Urdd i gynnal parti bach.

Dydw i ddim yn sicr p'un ai ydy hanner canmlwyddiant darlledu 'Tynged yr Iaith' yn haeddu cacen chwaith. Rhywsut mae gen i'r teimlad bod Saunders Lewis yn fwy o ddyn bara brith na Victoria sponge! Ta beth am hynny mae Radio Cymru yn paratoi nifer o raglenni ar gyfer yr achlysur gan gynnwys un gen i ynghylch y dyn a chyd-destun ei ddarlith.

Megis cychwyn ar ymchwil ydw i ond mae sawl peth yn fy nharo'n barod. Y peth amlwg cyntaf yw bod y ddarlith yn amlwg wedi ei hanelu at Blaid Cymru ac yn deillio o'r anghytundeb rhwng Saunders a Gwynfor Evans ynghylch cyfeiriad y blaid. Mae'n ymddangos mai galw ar Blaid Cymru i fabwysiadu 'dulliau chwyldro' mae'r ddarlith mewn gwirionedd. Os felly methiant oedd hi.

Mae hi hefyd yn amlwg bod yr amcanion a'r dulliau a fabwysiadwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn ei dyddiau cynnar yn wahanol i'r rhai yr oedd Saunders yn galw amdanynt. Rhyw fath o 'foicot' o'r Saesneg fel iaith swyddogol yn yr ardaloedd Cymraeg oedd syniad Saunders. Tor-cyfraith bwriadol oedd prif dacteg y Gymdeithas ac roedd ei hamcanion yn rhai Cymru gyfan.

Mae hynny'n codi cwestiwn amlwg. Ydy hi'n gywir i ddweud bod 'Tynged yr Iaith' wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas ac mae'r ddarlith honno oedd ei hefengyl yn y dyddiau cynnar? Mae'n bosib dadlau bod pethau'n llawer fwy cymhleth na hynny.

Fel y dywedais i mae lot fwy o ddarllen ac ymchwil o'm mlaen i ond rwy'n synhwyro y gallai 'na fod drafodaeth ddifyr a bywiog i'w chael.

Maen nhw'n bobol ddigon neis...

Vaughan Roderick | 13:48, Dydd Iau, 26 Ionawr 2012

Sylwadau (2)

Mae'n debyg eich bod wedi sylwi bod cyfran helaeth o Uned Gwleidyddol Ö÷²¥´óÐã Cymru wedi mudo i'r Alban yr wythnos hon - ac nid er mwyn dathlu 'Burns Night' twy dagu ar hagis a chwisgi drudfawr!

Heb os roedd ddoe yn ddiwrnod pwysig nid yn unig yn hanes yr Alban ond hefyd yn hanes y deyrnas gyfan. Ar ôl dweud fy newid ar lwyth o raglenni ddoe dydw i ddim am fynd dros yr un tir yn fan hyn ond mae un peth wedi fy nharo a allai brofi'n ddiddorol wrth i'r dadleuon cyfansoddiadol ddatblygu.

Rwyf wedi ysgrifennu droeon, hyd syrffed efallai, ynghylch y ffordd y mae rhaniadau a dadleuon mewnol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn allweddol yn y broses ddatganoli. Roedd Mesur Cymru a'r Alban a Deddf Cymru yn ôl yn y saithdegau a Deddfau Llywodraeth Cymru yn 1998 a 2006 i gyd yn ymdrechion i bontio rhwng safbwyntiau datganolwyr ac unoliaethwyr y blaid. Y tensiynau hynny sydd wedi gyrru'r broses ymlaen ac sydd wedi arwain at rai o broblemau a gwendidau y setliad presennol.

Mae'r tensiynau'n debyg o bara yn y blynyddoedd i ddod er y byddai rhywun yn disgwyl i ddylynwad y rheiny o anian unoliaethol ddirywio o ganlyniad i'r profiad o fod mewn grym yng Nghaerdydd tra'n ddi-rym yn San Steffan.

Mae'n ddigon posib y bydd y tensiynau o fewn blaid arall ac mewn gwlad arall yn fwy pwysig yn y broses o hyn ymlaen. Y Blaid Geidwadwol yw'r blaid a Lloegr yw'r wlad.

Er bod enw llawn y blaid yn cynnwys y gair 'Unoliaethol' mae sylwadau rhai o'u haelodau ar adegau'n swnio'n debygach i genedlaetholdeb Seisnig. Nid chwalu'r undeb yw bwriad yr aelodau hynny sy'n clochdar yn gyson am lefelau gwariant cyhoeddus yr Alban ac yn codi cwestiwn Gorllewin Lothian ar bob achlysur posib. Nid dyna yw ei bwriad ond efallai mai dyna fydd y canlyniad.

Nid gwleidyddion yn unig sy'n mewn peryg o gerdded i'r trap. Cymerwch erthygl o'r o dan y pennawd "If Mr Cameron fails to stand up to the devious, slippery Alex Salmond, the end of the Union will be his wretched legacy". Ynddi mae'r sylwebydd Stephen Glover yn dadlau'n gryf dros barhad yr Undeb ond yn gwneud hynny mewn modd sy'n debyg o wylltio sawl Albanwr a bwydo dicter sawl Sais. Cymerwch y paragraff yma fel esiampl.

For all his fluency and apparent reasonableness, Mr Salmond is a narrow-minded politician who offers his country an uncertain future on the edge of Europe while he and his Scot Nat colleagues would happily enjoy all the fruits of power. How much more inspiring than his medieval bruiser-heroes are the great Scots and Englishmen who together forged Britain into a country which changed the world and improved it in so many fields of human endeavour.

Beth oedd y llyfr yna, dywedwch - 'How to win friends and influence people'?

Un o gwynion cyson y Celtiaid ar hyd y canrifoedd yw methiant honnedig Y Saeson i wahaniaethau rhwng Lloegr a Phrydain a rhwng seisnigrwydd a phrydeindod. yn ol arolwg diweddar yr IPPR a Phrifysgol Caerdydd mae hynny'n newid. Serch hynny ymddengys nad yw pob Sais yn gallu gwahaniaethu rhwng 'amddiffyn yr Undeb' a thynnu blew o drwyn!

Does dim dwywaith bod David Cameron yn unoliaethwr wrth reddf - un a fyddai'n casáu cael ei gofio fel Prif Weinidog olaf y Deyrnas Unedig. Mae'n eironig y gallai rhai o aelodau ei blaid a newyddiadurwyr unoliaethol gyfrannu at sicrhau'r gofeb honno iddo.

Oes angen ychwanegu beth allai ton o genedlaetholdeb Seisnig yn rhengoedd Ceidwadwyr Lloegr olygu i Dorïaid Cymru?

Pen ôl Prydain

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2012

Sylwadau (10)

Dydw i ddim yn cofio yn lle y clywais i'r talfyriad 'RUK' am y tro cyntaf. Ta beth mae'n weddol gyffredin erbyn hyn wrth gyfeirio at y wladwriaeth fyddai'n weddill pe bai etholwyr yr Alban yn dewis annibyniaeth. "Rump UK" yw ffurf lawn y talfyriad. Ai 'pen ôl Prydain' yw'r cyfieithiad Cymraeg cywir, tybed?

Rwyf wedi cyfeirio o'r blaen at y ffaith bod ychydig o waith yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni ynghylch ffurf gwladwriaeth a fyddai'n cynnwys Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac mae Carwyn Jones wedi mentro trafod y peth yn gyhoeddus o bryd i gilydd. Mewn cyfarfod diweddar yn Nulyn dywedodd Carwyn y byddai angen cydbwyso Tŷ'r Cyffredin gyda siambr arall gyda chynrychiolaeth gyfartal o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon pe bai'r Alban yn gadael yr Undeb.

Mae aelodau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llai parod i wyntyllu'r fath amgylchiadau. Mae hynny'n ddigon dealladwy. Ar rwystro ymadawiad yr Alban y mae eu meddyliau nhw wedi eu hoelio a gallai trafod siâp RUK nawr awgrymu eu bod yn credu bod achos yr Undeb yn debyg o gael ei golli yn refferendwm 2014.

Mae trafod RUK o gwbwl yn cymryd un peth yn ganiataol sef mai'r wladwriaeth honno fyddai olynydd cyfreithiol y wladwriaeth Brydeinig bresennol gyda'r Alban yn cael ei hystyried fel gwladwriaeth newydd. Dim ond o dderbyn y dadansoddiad hwnnw y mae cwestiynau megis yr angen i'r Alban (ond nid RUK) wneud cais i fod yn aelod yn Undeb Ewropeaidd yn codi.

Mae 'na ddadansoddiad arall yn bosib. Gan fod y 'United Kingdom(s)' wedi dod i fodolaeth trwy uno Lloegr a'r Alban gellid dadlau y byddai datgymalu'r ddwy wlad yn ddiwedd ar y wladwriaeth Brydeinig a bod y ddwy wladwriaeth a fyddai'n cael ei ffurfio yn rhai newydd a chyfartal eu statws.

Dyna yw barn cenedlaetholwyr yr Alban ac mae'n ymddangos bod eu cefndryd Cymreig yn cytuno. Yn ôl Simon Thomas, er enghraifft, fe fyddai'r Deyrnas Unedig yn 'finito' pe bai'r Alban yn annibynnol a'r berthynas rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 'llechen lan'.

Mae edrych ar hanes datgymalu Iwgoslafia a'r ddadl ynghylch hawl gwladwriaeth fyrhoedlog Serbia a Montenegro i enw a breintiau'r hen wladwriaeth yn arwydd o ba mor bwysig y gallai'r ddadl hon fod.

Dydw i i ddim yn arbenigwr ar gyfraith ryngwladol a dydw i ddim am gynnig ateb ond mae'r ffaith ein bod yn trafod y pwnc o gwbwl yn arwydd o ba mor anghyfarwydd yw'r tir cyfansoddiadol yr ydym yn troedio arno.

Dilyn Ieuan

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Gwener, 20 Ionawr 2012

Sylwadau (8)

Ystrydeb fyddai dweud bod y ras i arwain Plaid Cymru yn fwy o farathon nac o sbrint. A dweud y gwir dydw i ddim yn sicr bod hyd yn oed 'marathon' yn gwneud tegwch a'r ornest!

Mae'n ymddangos bod dewis arweinydd y Blaid yn broses bron mor hir â chymhleth ac ethol arlywydd yn yr Unol Daleithiau er efallai un llai lliwgar a chostus! Mae'n gynnar iawn i ddarogan pwy fydd yn cario'r dydd. Dydw i ddim am fentro proffwydo pwy yw'r Rick Perry na'r Herman Caine yn y ras hon!

Un peth y mae'r ymgyrchoedd i gyd yn cytuno yn ei gylch yw bod 'na lawer o aelodau'r blaid sydd heb gyrraedd penderfyniad terfynol ynghylch sut i fwrw eu pleidleisiau yn enwedig eu pleidleisiau ail-ddewis.

Ar ôl dweud hynny oll mae'n amlwg mai'r ymgeisydd sydd wedi gwneud marc yn y sgarmesau cynnar yw Leanne Wood. Roedd sicrhau cefnogaeth y mab darogan , Adam Price, yn dipyn o strôc ac mae cefnogaeth y cyn brif weithredwraig Gwenllïan Lansdown-Davies yn bell o fod yn ddi-werth. Dylai unrhyw un oedd yn credu mai sefyll i 'wneud pwynt' oedd aelod canol de Cymru fod wedi llwyr ddadrithio erbyn hyn.

Mae ambell i bleidlais rhyngrwyd hyd yn oed yn awgrymu mai Leanne yw'r ceffyl blaen o beth wmbreth ac yn ôl un hen ben yn rhengoedd ymgyrch Elin Jones cael a chael yw hi rhwng y ddwy ferch yn y ras gyda'r bechgyn ymhell ar ei hol hi.

Hyd yn oed os ydy'r 'hen ben' yn gywir gyda llwyth o gyfarfodydd ac wythnosau o ymgyrchu i fynd mae'n rhy gynnar o bell ffordd i ddweud hyd sicrwydd bod patrwm yr ornest wedi ei osod ac mae natur y bleidlais amgen yn golygu'n aml mai 'ail ddewis pawb' sy'n llwyddo ar ddiwedd y dydd. Cyrraedd y rownd olaf yw'r dasg sy'n wynebu Dafydd Elis a Simon Thomas. Dyw honno ddim yn dasg hawdd ond o'i chyflawni gallai buddugoliaeth fod yn bosib

Y cyfan ddywedaf i yw bod y ras yn un llawer mwy difyr a diddorol nac oeddwn i wedi rhagweld.

Dangos parch

Vaughan Roderick | 16:38, Dydd Mercher, 18 Ionawr 2012

Sylwadau (3)

Mae fy nghyfaill Brian Taylor yn ddyn prysur y dyddiau hyn. Fel Golygydd Gwleidyddol Ö÷²¥´óÐã yr Alban mae Brian yn ffigwr cyfarwydd nid yn unig ar raglenni Albanaidd ond yn fwyfwy ar raglenni rhwydwaith wrth i sefyllfa gyfansoddiadol yr Alban hawlio sylw.

Roedd Brian yng Nghaerdydd heddiw i rannu doethinebau a newyddiadurwyr Ö÷²¥´óÐã Cymru ac i gymharu datblygiadau cyfansoddiadol yn y ddwy wlad.

Un o'r pwyntiau diddorol a godwyd gan Brian oedd ymdrechion yr SNP i dawelu ofnau ynghylch annibyniaeth - ofnau sydd yn ôl Brian wedi lleihau'n ddifrifol hyn yn oed ymhlith y rheiny syn dryw i'r Undeb.

Un o'r rhesymau am hynny mae'n debyg yw pwyslais yr SNP ar yr hyn a elwir yn 'undeb cymdeithasol' Lloegr a'r Alban gan ladd ofnau traddodiadol megis bariwns ar y ffin a dileu'r frenhiniaeth.

Heb os mae aelodau cyffredin yr SNP wedi bod yn hynod o ddisgybledig wrth osgoi bwydo bwganod y gellid eu codi gan eu gwrthwynebwyr ac mae hynny wëdi bod yn ffactor bwysig yn eu llwyddiannau diweddar.

Mae'n ymddangos bod mawrion Plaid Cymru fu'n adolygu ei strategaeth a'i threfniadaeth yn credu bod 'na wers i'w dysgu o'r Alban. Mae eu hadroddiad "Camu Ymlaen" yn dweud hyn;

"Wrth osod nod cyfansoddiadol y Blaid yn y tymor hwy, dylem ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, heb i'n sylw gael ei dynnu gan faterion ymylol mad oes iddynt gysylltiad uniongyrchol a chyrraedd ein hamcanion strategol."

At beth maen nhw'n cyfeirio, tybed? Oes 'na awgrym yn fan hyn nad yw cyfeirio at y Frenhines fel 'Mrs Windsor' yn arbennig o adeiladol?

O ofyn y cwestiwn, gwen siriol yw'r unig ymateb y mae dyn yn ei gael.

Pan ddof i Gymru yn ôl

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Dyw gwybod pryd mae bwcio gwyliau yn y busnes yma ddim yn hawdd bob tro. Fe ddylai Nadolig a blwyddyn newydd heb etholiad cenedlaethol ar y gorwel fod yn gyfnod digon saff - neu felly oeddwn i'n meddwl.

Och gwae fi! Dyna fi'n crwydro strydoedd Melbourne ac Adelaide ac Alec Salmond yn fy stelcio o dudalennau blaen papurau newydd a sgriniau teledu! Yn wir cefais fy llusgo i stiwdios yr ABC i drafod y sefyllfa. Cyn i chi ofyn does 'na ddim dolen i chi gael mesur maint fy nhristwch na gwneuthuriad fy anorac! Ni allaf ddianc rhag hwn.

Yn rhannol y cyfan sydd wedi digwydd yw bod trigolion swigen San Steffan wedi deffro i sefyllfa a stori sy'n ddigon cyfarwydd i'r rheiny sy'n dilyn gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban. O ddarllen ambell i stori a sylw yn y cyfryngau Prydeinig roedd hi'n anodd osgoi rhyw deimlad o déjà vu drosodd a thro!

Efallai mai'r sylw mwyaf craff ynghylch datblygiadau'r wythnosau diwethaf oedd un Hamish McDonell yn y .

What some in the UK Government seem to have forgotten is that, because this is such an important issue for the Scottish Nationalists, they have analysed and prepared for every twist and turn of the debate. In what is now a game of political chess, Mr Salmond has correctly forecast his opponent's moves before they have even decided what they are going to do... The UK Government has approached this late, it has approached it half-heartedly, and it is now being outplayed at every stage.

Mae'n anodd anghytuno a'r sylw yna. Dyw hynny ddim yn golygu bod y frwydr yn yr Alban wedi ei hennill neu ei cholli eto. Serch hynny mae'n werth nodi bod y gefnogaeth i'r SNP yn yr Alban wedi cynyddu yn sgil y dyblygiadau diweddaraf a gallai diffyg sensitifrwydd o du San Steffan a'r cyfryngau Prydeinig fod yn arf bwysig yn nwylo cenedlaetholwyr yr Alban.

Nid bod angen dweud hynny wrth Alec Salmond.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.