Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Awe Awema

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Gwener, 10 Chwefror 2012

Go brin fod llawer iawn o ddarllenwyr y blog hwn yn gyfarwydd iawn ac AWEMA cyn trafferthion diweddar yr elusen. Nid fan hyn yw'r lle i groniclo'r rheiny ond mae un agwedd i'r stori yn esbonio efallai pam y bu gwleidyddion a newyddiadurwyr yn gyndyn i feirniadu'r elusen yn ormodol ar hyd y blynyddoedd.

Rhai misoedd yn ôl, yn sgil ymddiswyddiadau nifer o ymddiriedolwyr AWEMA gwahoddwyd Dr Rita Austin i ail-gymryd yr awenau fel Cadeirydd yr elusen. Roedd Dr Austin, sy'n gyn-gynghorydd Llafur, wedi cadeirio AWEMA o'r blaen ac mae ganddi oes o brofiad yn y maes.

Ei phenderfyniad hi a gwaddol yr ymddiriedolwyr oedd peidio gwireddu prif argymhelliad adroddiad annibynnol sef y dylid atal Naz Malik, Prif Weithredwr AWEMA a'i ferch Tegwen o'i swyddi. Wrth i'r feirniadaeth o'r penderfyniad hwnnw gynyddu ac wrth i fwy a mwy o wybodaeth am helbulon AWEMA ddod i'r wyneb defnyddiodd Dr Austin wefan AWEMA i ymateb i'r ffrwgwd.

Dyma i chi flas o'i hymateb yn y Saesneg gwreiddiol.

"It has become increasingly clear in recent days that AWEMA has become the stick with which to beat the Welsh Government. The glee with which the Press and TV convey the partisan attacks of opposition politicians is catching AWEMA in its backwash, creating the unedifying spectacle of a concerted attempt by powerful institutions to characterise AWEMA as a corrupt organisation: a time honoured way of debasing and devaluing the contributions of black and minority ethnic people, often on the basis of scant evidence, which is well known to many of us".

"...powerful institutions - such as party political machines, national broadcasters and commercial newspapers - seek to denigrate, devalue and debase the contributions of minority ethnic communities in their places of settled and long lived residence, is... but one where there are many historic and present day examples."

"As the Chair of a charity, I am accountable and answerable to my trustees, and through them to the people we seek to serve. Not to opposition politicians who seek for their own partisan purposes to take a pop at us by way of embarrassing the Government."

"Another day and another attack by opposition politicians on what happened in 2007"


Mae 'na enghreifftiau eraill ond yn y bôn gellir crisialu'r ddadl yn syml. Mae Dr Austin yn cyhuddo'r gwrthbleidiau a'r cyfryngau o bigo ar AWEMA am resymau gwleidyddol a hiliol.

Gellid dadlau i'r gwrthwyneb. Mae'n bosib nad yw AWEMA wedi cael y sylw dyledus ar hyd y blynyddoedd oherwydd bod gwleidyddion a newyddiadurwyr yn ofni'r union fath o gyhuddiadau y mae Dr Austin wedi eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf.

Cewch chi farnu p'un sydd gywir.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:18 ar 10 Chwefror 2012, ysgrifennodd Siôn Eurfyl Jones:

    Cytuno'n llwyr. Pe bae AWEMA yb hybu diwilliant neu iaith Cymru, er engraifft, fe fyddent wedi bod dan orichwyliaeth chwynr a chyson, on mae'r of o gael eich barnu'n hiliol wedi gadael i bobol llai gonest nac y dylsent fod chware gemau gyda'r awdurdodau. Mae hefyd wedi bod yn sigledig dros ben ohwerydd fod pawb ohonynt yn aelodau blaenllaw o'r Blaid Lafur.

  • 2. Am 08:24 ar 17 Chwefror 2012, ysgrifennodd Arthur:

    Mae rhai o wleidyddion ethnig y blaid Lafur wedi defnyddio tarian gwrth-hiliaeth ers blynyddoedd i esgusodi ymddygiad llwgr , a gwastraff arian cyhoeddus. Dylai Dr Austin ymddiheuro am ei sylwadau . Mae gwleidyddiaeth 'ethnig' yng Nghymru yn fach iawn i'w gymharu a Lloegr , ac felly mae'n haws i unigolyn godi'n sydyn. Mae'r un egwyddor yn wir am y ddrwg-enwog 'Oscar'

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.