Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ym marn Richard Wyn

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Iau, 2 Chwefror 2012

Mae'n ymddangos bod y wasg Brydeinig, neu ran ohoni o leiaf, wedi deffro i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'n debyg eich bod wedi darllen erthygl y Guardian erbyn hyn. Mae'n ymddangos mai 'dim ar hyn o bryd' yw'r ateb cywir i gwestiwn y papur o astudio canlyniadau diweddaraf YouGov/ITV

Am wn i mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu nad yw trwch etholwyr Cymru wedi meddwl rhyw lawer am effaith annibyniaeth i'r Alban ar Gymru hyd yma. Sut arall mae esbonio'r ffaith bod y gefnogaeth i'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol yn debyg iawn i'r atebion a gafwyd ar hyd y blynyddoedd cyn i annibyniaeth i'r Alban ddechrau hawlio'r penawdau?

Mae'r ffigwr yna o ddeg y cant yn cefnogi annibyniaeth yng Nghymru yn un arbennig o ddiddorol gan ei fod wedi aros fwy neu lai yn ei unfan ers blynyddoedd. Rhan o'r rheswm am hynny, mae'n debyg, yw bod bron neb yng Nghymru wedi bod yn dadlau achos annibyniaeth mewn modd difrifol tan yn ddiweddar iawn.

Mae Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnig esboniad pam yn y rhifyn newydd o Barn.

Mae hyn yn rhannol adlewyrchu'r ffaith mai nonsens deallusol a fu polisi cyfansoddiadol Plaid Cymru cyn iddi goleddu annibyniaeth fel nod yn 2003. Ceir crachen yma y gellir yn hawdd ei phigo. Nid dyma'r stori i gyd, fodd bynnag. Oblegid er i'r polisi newydd gael ei fabwysiadu trwy bleidlais unfrydol, mae'n hysbys i bawb sy'n adnabod Plaid Cymru fod rhai o'r enwau mwyaf blaenllaw yn ei rhengoedd wedi bod yn amharod iawn i dderbyn y disgrifiad yma o'i hamcan. Yn anad dim arall, hyn sydd wedi golygu fod annibyniaeth yn parhau'n faen tramgwydd. Wrth gwrs, ni ddywedir hyn yn Camu 'mlaen gan y byddai'n sicr o greu embaras.

Fe fydd yn rhaid i chi brynu Barn i ddarllen gweddill dadl Richard ond mae'n gwneud pwynt dilys iawn wrth awgrymu bod y ras bresennol am arweinyddiaeth y blaid yn ei gorfodi i fwrw ei swildod ynghylch annibyniaeth.

Un pwynt sydd gen i ychwanegu. Os ydy'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid yn gorfod arddel annibyniaeth er mwyn bod â chyfle o ennill yr etholiad mewnol - fe fydd angen llawer iawn mwy nac 'arddel' i'r blaid droi annibyniaeth yn fantais mewn etholiadau go-iawn.

Fe fydd yn rhaid iddi, i ddechrau, geisio argyhoeddi mwy na deg y cant o'r etholwyr y byddai annibyniaeth er lles pobol Cymru. Nid hawdd fydd gwneud ond onid hynny yw priod dasg plaid genedlaethol?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:30 ar 2 Chwefror 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Hyd yn oed petai 5% o bobl Cymru eisiau cael annibyniaeth, mae dyletswydd ar Blaid Cymru i gwffio am annibyniaeth. Dyma yw raison d'etre Plaid Cymru. A mae dyletswydd ar pob plaid o UKIP i'r Communist Party of Wales i hybysebu eu barn nhw ar hyn a llall.

    Yn sicr bysa y Green Party llawer mwy poblogaidd petai nhw ddim hefo pethau fel "air tax" a "road tax" - ond nid enill etholiadau yw prif amcan pleidiau, ond trio cael pobl i gefnogi eu polisiau nhw. Dyma yw un problem Plaid Cymru - yn dilyn barn y bobl, yn lle trio cael y bobl i dilyn nhw.

    Rhaid cofio bod 10% wedi bydoli heb sion am y mater yma trwy pleidiau Cymru. Felly efallai gyda ychydyg fwy o ddadlau amdano dwin siwr bysa y ffigwr tua 20% - digon tebyg i ffigwr yr Alban yn 2006!

  • 2. Am 20:09 ar 2 Chwefror 2012, ysgrifennodd Neilyn:

    Gan fod y drafodaeth ar annibyniaeth i'r Alban wedi cychwyn go iawn, a hynny'n arwain at bleidlais ymhen rhyw ddwy flynedd, a oes gan Blaid Cymru fawr o ddewis mewn gwirionedd ond paratoi i arwain dadl agored dros annibyniaeth i Gymru? Hynny, neu dynnu'r amcan yn ol yn barhaol a gadael i blaid arall gymeryd yr awenau. Sydd yn agor y ffordd i'r Blaid Lafur, neu'r Blaid Geidwadol neu'r Blaid Rhyddfrydol - pwy a wyr? Os yw wythnos yn amser hir yng ngweildyddiaeth.....Yn y cyfamser, mae'n rhaid dinoethi methiant y sustem Brydeinig Unoliaethol o reoli economi Cymru i Gymru. Mae'n bryd i droi y byrddau.

  • 3. Am 11:46 ar 3 Chwefror 2012, ysgrifennodd huw:

    Un o ganlyniadau mwyaf diddorol yr arolwg barn - sy'n gyson â phob arolwg barn tebyg yn y gorffennol - ydi mai dim ond traean o gefnogwyr Plaid Cymru sydd o blaid annibyniaeth i Gymru.
    Mae'n debyg fod y gyfran yn uwch ymhlith aelodau'r Blaid, ond mae'n codi cwestiynau ynghylch y dybiaeth mai agwedd at annibyniaeth fydd yr ystyriaeth bwysicaf gan drwch yr aelodaeth wrth ddewis arweinydd newydd.
    Ni ellir chwaith briodoli'r diffyg cefnogaeth i annibyniaeth i amharodrwydd honedig y Blaid i drafod y pwnc. Mae digon o ffigurau blaenllaw'r Blaid yn pregethu annibyniaeth yn barhaus. Eu methiant ydi diffyg unrhyw ddadleuon sydd ag apêl ymysg y cyhoedd. Dydi pentyrru cymariaethau â gwledydd bach fel Latvia neu Malta o ddim mymryn o ddiddordeb i drwch y boblogaeth.

  • 4. Am 18:00 ar 3 Chwefror 2012, ysgrifennodd Lembo Salw:

    Yn fy marn i, dyma'r rhesymau pam taw dim ond traean o gefnogwyr Plaid Cymru sy'n credu mewn annibyniaeth:
    1. Dyw Plaid Cymru heb ymchwilio yn rhyngwladol ac addysgu ei chefnogwyr ynghylch manteision a phwysigrwydd annibyniaeth.
    2. Mae llawer o bobl sy'n credu mewn annibyniaeth wedi troi eu cefnau ar Blaid Cymru am fod y blaid mor wan ar y pwnc.
    3. Mae'r bobl sydd ar ol ym Mhlaid Cymru wedi sicrhau bod cefnogwyr annibyniaeth (a nifer o bethau amgen eraill) yn cael eu dilorni a'u gwawdio fel na fyddant yn codi eu lleisiau eto.
    4. Dyw'r wasg, yn cynnwys y Ö÷²¥´óÐã, heb ystyried posibiliadau annibyniaeth a heb roi gwybodaeth am wledydd bach eraill y byd i'r cyhoedd.
    5. Mae'r wasg Gymreig, yn cynnwys y Ö÷²¥´óÐã, yn ein bwydo â Phrydeindod a diwylliant anglo-americanaidd yn ddi-ddiwedd, a does dim cysylltiadau gan Gymru a phobl Cymru â'r byd mawr y tu hwnt felly dy'n ni heb weld sut beth yw gwledydd bach annibynol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.