Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Calan Mai

Vaughan Roderick | 12:49, Dydd Iau, 8 Mawrth 2012

Mae 'na bron i ddeufis i fynd tan yr etholiadau lleol ond os ydych chi'n byw mewn ward gystadleuol mae'n debyg bod ambell i daflen wedi dechrau cyrraedd. Yn fy ward fach i mae'n ymddangos mai Llafur, Plaid Cymru a'r Blaid Werdd sy'n brwydro o ddifri. 'Anarferol' yw'r gair cywir i ddisgrifio'r ornest honno, dybiwn i!

Ar ôl dweud hynny, y gwir amdani yw bod gornestau 'anarferol' bron yn arferol ar draws Cymru y tro hwn a hynny oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn 2008.

Yn y flwyddyn honno dioddefodd Llafur ei chanlyniad gwaethaf ers i'r cynghorau presennol gael ei ffurfio yn 1994. Does dim modd cymharu a chanlyniadau cyn 1995 yn uniongyrchol ond mwy na thebyg rhain oedd y canlyniadau lleol gwaethaf i Lafur ers hanner canrif a mwy.

Fe gollodd Llafur 124 o seddi o gymharu â 2004 ac am y tro cyntaf roedd y cyfanswm Llafur o 342 yn llai na chyfanswm yr aelodau Annibynnol / Eraill o 381.

Y crasfa gafoodd Llafur a dadeni'r traddodiad annibynnol yn ardaloedd trefol Cymru oedd stori fawr etholiad 2008. I fod yn deg roedd 'na lewyrch i'r tair plaid arall hefyd gyda Phlaid Cymru'n ennill 205 sedd (+31), y Ceidwadwyr 174 (+63) a'r Democratiaid Rhyddfrydol 162 (+21).

Mae natur yr ornest yn y wardiau lle mae 'na frwydrau traddodiadol rhwng y pleidiau yn ddigon hawdd i broffwydo y tro hwn. Fe fydd Llafur yn ymosod ar bawb gan geisio o leiaf adennill y seddi a'r cynghorau a gollwyd yn 2008. Ceisio gwrthsefyll llif i Lafur tra'n ceisio cipio seddi oddi ar ei gilydd bydd y pleidiau eraill.

Fe fydd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gobeithio digolledi unrhyw golledion i Lafur trwy drechu ymgeiswyr annibynnol yn yr ardaloedd gwledig lle mae'r traddodiad hwnnw ar drai.

Y cwestiwn mawr yn yr etholiad hwn yn fy meddwl i yw beth fydd ffawd y cynghorwyr annibynol a etholwyd yn 2008 yng nghadarnleoedd traddodiadol y blaid Lafur - llefydd fel Merthyr, Torfaen a Sir Fflint. A fydd y rheiny i gyd yn sefyll y tro hwn a pha mor wydn yw eu cefnogaeth?

Fe fydd Llafur yn gobeithio y bydd y bleidlais annibynnol yn diflannu fel y gwnaeth hi ym Mlaenau Gwent yn Etholiad Cyffredinol 2010 ac Etholiad Cynulliad 2011. Does 'na sicrwydd y bydd hynny'n digwydd. Gallai cynghorwyr annibynol effeithiol fod yn anodd iawn i'w trechu. Gallu Llafur i wneud hynny fydd y gwahaniaeth rhwng noson addawol i'r blaid a noson i ddathlu go iawn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:36 ar 8 Mawrth 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Na heb gael dim un darn. Dwi'n dod o Ynys Mon - a tydy democratiaeth ddim yn bydoli yn yr Ynys yma. Mae'r peth yn hyrt, a dwnim os fysa Cyngor yn Lloegr yn digon parod i fod yn y sefyllfa yma.

  • 2. Am 14:39 ar 13 Mawrth 2012, ysgrifennodd Hywel Williams AS:

    Mae'n siwr bydd Llafur yn gwella eu cyfanswm (yr enwog 'dead cat bounce'). Mae gwleidyddion Llafur eisoes yn clochdar am hyn cyn i neb fwrw'r un bleisdlais.

    Ond wir dyma'r prif syndod. Does dim sylw yma i obeithion Llais Gwynedd! Pan ddaru nhw ennill rhai seddau yng Ngwynedd y tro diwethaf roedd hallibalw enfawr yn y wasg (gan gynnwys y Ö÷²¥´óÐã). Rwyf fel fy mod yn cofio fod rhaglen adolygu'r flwyddyn S4C wedi gosod eu camp fel y 9 fed (?) o 20 eitem a ysgydwodd y byd y flwyddyn honno ! Pam dim sylw leni tybed?

  • 3. Am 10:52 ar 14 Mawrth 2012, ysgrifennodd Jack:

    Vaughan yn dy ward bach di, ond yr lafur bydd yn ennill, maer plaid werdd yn shambles lwyr, saen siwr pan mae nhw yna i bod yn onest, a maer'r plaid cymru yn dy ward yn useless, ymlaen a lafur!

  • 4. Am 16:34 ar 15 Mawrth 2012, ysgrifennodd Lembo Salw:

    Dylse hi fod yn anghyfreithlon i ymgeisio fel cynghorydd heb faniffesto. Hynny yw, ni ddylai fod yn bosibl i alw'ch hun yn 'annibynol' ac yna uno fel plaid i lywodraethu heb fod wedi brwydro ar sail maniffesto. Gweler Ceredigion. S'dim lot mwy o ddemocratiaeth fan hyn nag sydd yn Ynys Mon.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.