Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Heb gar na chyfaill yn y byd...

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Gwener, 23 Mawrth 2012

Doeddwn i ddim wedi bod i gwrs Ffos Las cyn ddoe. Os ydych chi'n mynd na rhyw dro defnyddiwch fap. Mae dilyn yr arwyddion ffordd yn eich arwain ar daith 'diddorol' o gwmpas hanner pentrefi de Sir Gâr!

Mae cynhadledd Plaid Cymru yn un o ddau ddigwyddiad y bydd Ö÷²¥´óÐã Cymru'n darlledu'n fyw ohonyn nhw'r penwythnos yma. 'Rali' y Ceidwadwyr yn Llanelwy yw'r llall.

Oherwydd y frwydr am yr arweinyddiaeth, Plaid Cymru sydd wedi bod yn hawlio'r sylw yn ddiweddar, ond mae ambell i beth diddorol yn mynd ymlaen yn rhengoedd y Ceidwadwyr hefyd.

Mae'n ddigon hawdd anghofio mai rali'r Ceidwadwyr yw cyfle cyntaf Andrew RT Davies i annerch y blaid Gymreig fel arweinydd. Dyna pam yr oedd cymaint o fawrion y blaid mor flin ynghylch penderfyniad y bwrdd Cymreig i ganslo'r gynhadledd ar fyr rybudd. Dyw 'poeri gwaed' ddim yn dechrau cyfleu maint y dicter!

Mae 'na ryw anniddigrwydd rhyfedd yn rhengoedd y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Nid ynghylch perfformiad llywodraeth David Cameron mae'r anhapusrwydd ond yn hytrach ynghylch perfformiad y blaid Gymreig a rhai o'i ffigyrau amlwg.

'Pam na fynnodd Andrew gael cynhadledd?' yw'r cwestiwn ar wefusau rhai - 'beth mae hynny'n dweud am ei awdurdod dros y blaid? medd eraill. Mae 'na anniddigrwydd hefyd ynghylch perfformiad yr arweinydd yn ystod sesiynau cwestiynu'r Prif Weinidog lle mae cwestiynau aml gymalog yn tueddu cael ei swatio i'r neilltu gan Carwyn Jones.

Os ydy rhai'n amheus ynghylch Andrew beth yw'r farn ynghylch perfformiad Ysgrifennydd Cymru?

Rwyf wedi clywed ambell i Geidwadwr yn cyfeirio at swyddfa'r Aelodau Seneddol Cymreig fel 'the real Wales Office'. Mae hynny'n arwyddocaol. Rwyf hefyd yn meddwl bod parodrwydd ambell i Aelod Seneddol i wyntyllu safbwyntiau a syniadau nad ydynt yn bolisi swyddogol yn ddiddorol.

I fod yn eglur dydw i ddim yn meddwl bod 'na rhyw hollt enfawr ar fin ymddangos neu fod arweinyddiaeth Andrew na swydd Cheryl o dan unrhyw wir fygythiad. Dweud ydwyf fod rhai o'r trwps yn grwgnach - a dyw hynny ddim yn beth da i unrhyw blaid.

Y ddau brif siaradwr yn rali Llanelwy yw Cheryl Gillan ac Andrew RT Davies. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld faint sy'n troi mas i'w clywed.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.