Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Plant y Fflam

Vaughan Roderick | 09:25, Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Yfory fe fydd fy nai yn cario'r ffagl Olympaidd yn Nhreherbert ac mae dyletswydd deuluol yn golygu y bydd yn rhaid i mi fod yna i gefnogi'r gwalch. Dyma fe ar a gallwch wrando arno ar Radio Cymru. Gwyn Lein yw ei enw ar safle'r Olympics. Gwynfor Roderick yw e ar Radio Cymru. Mae'n defnyddio'r ddau - mae enwau'n bethau hyblyg yn yr unfed ganrif ar hugain!

Mae ambell un ar wefan Trydar wedi tynnu sylw at yr hyn ddigwyddodd yn ystod ymweliad y ffagl â - yn enwedig y ffaith bod yr heddlu wedi rhwystro un o'r rhedwyr rhag arddangos baner Cernyw. Fel mae'n digwydd mae'r rheolau'n gwahardd rhedwyr rhag cario unrhyw beth ac eithrio'r ffagl ei hun. Does wybod a fyddai jac yr undeb neu groes San Siôr wedi cael ei thrin yn yr un modd ond dyna mae'r rheol yn ei ddweud.

Mae rheol arall yn gwahardd baneri 'gwledydd nad ydynt yn cymryd rhan yn y gemau' rhag cael ei chwifio gan bobol sy'n gwylio'r cystadlu. Ydy hynny'n golygu y bydd y Ddraig Goch wedi ei gwahardd - nid yn unig o barc y gemau yn Llundain ond o Stadiwm y Mileniwm?

Mae'r rheol yn aneglur. Fe'i defnyddiwyd . Poeni am faneri Tibet a Taiwan oedd y Tsieniaid. Beth fydd agwedd stiwardiaid Llundain, tybed?

O wybod shwd le yw Prydain a pha mor hoff yw ei chenhedloedd o'u baneri mae'n rhyfedd nad yw pwyllgor gemau Llundain, LOCOG, wedi gwneud y sefyllfa'n eglur. Roedd gan faner Catalonia le amlwg yng ngemau Barcelona. Ai dilyn rheolau Beijing yntau rhai Barcelona fydd gemau Llundain?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:52 ar 25 Mai 2012, ysgrifennodd ³§¾±Ã´²Ô:

    Eironig

    Y Cymry yn rhedeg mewn râs 'gorfforaethol a masnachol sydd yn erbyn yr iaith Gymraeg ac yn gwahardd chwifio'r Ddraig Goch, tra fod y Llydawyr newydd drefnu râs 1,200km o blaid yr iaith Lydaweg ac i godi arian i'w hiaith - y Redadeg

    Pwy yw'r genedl wannaf?

  • 2. Am 10:16 ar 26 Mai 2012, ysgrifennodd Hendre:

    A chwestiwn rwyf wedi'i godi mewn man arall... pwy fydd yn tynnu baneri 'gwaharddedig' oddi wrth bobl? Aelodau o'r Lluoedd Arfog?

  • 3. Am 15:40 ar 28 Mai 2012, ysgrifennodd ³§¾±Ã´²Ô:

    Dyma fideo a ffilmiwyd o râs gyfatebol dros yr iaith Fasgeg, ras y Korrika. Miloedd o bobl yn rhedeg a chodi arian dros yr iaith. Ffilmwyd hon yn nhref hanesyddol Gernika a Donostia (San Sebastian) - dinas o faint Abertawe.

    Mae hefyd râs debyg, yr An Rith, wedi cychwyn yn yr Iwerddon i godi arian ac ymwybyddiaeth dros y Wyddeleg:

    Beth amdanni Gymru? Ras dros y Gymraeg?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.