Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Myfi'r Pechadur Pennaf

Vaughan Roderick | 13:25, Dydd Iau, 10 Mai 2012

O bryd i gilydd mae gwleidyddion fel pawb arall yn pechu. Weithiau mae eu pechodau'n denu sylw'r wasg, weithiau ddim. Pe bawn i'n sgwennu rhywbeth am bob camwedd sy'n cyrraedd fy nghlustiau fe fyddwn i'n greadur prysur iawn ond yn greadur eithaf trist hefyd.

Mae ble yn union mae tynnu'r llinell rhwng beth sy'n haeddu cael eu cyhoeddi a beth sydd ddim yn amrywio o un ystafell newyddion i'r llall ac mae'r Ö÷²¥´óÐã yn fwy ceidwadol nac eraill wrth dynnu sylw at ffaeleddau unigol.

Roedd penderfynu ynghylch noson fawr Keith Davies yn ddigon hawdd. Nid y goryfed na'r 'fenyw anhysbys' oedd yn cyfiawnhau cyhoeddi ond y ffaith bod y gwesty wedi gwneud cwyn swyddogol a bod pwyllgor safonau'r Cynulliad wedi penderfynu argymell ceryddu aelod Llanelli.

Mae achosion eraill yn fwy amwys. Cymerwch dwy esiampl.

Rhyw wythnos cyn yr etholiadau lleol derbyniodd nifer o newyddiadurwyr lythyrau dienw yn cynnwys 'screenshot' o dudalen Facebook ymgeisydd yn yr etholiadau. Roedd y dudalen yn cynnwys sylwadau oedd yn ymateb yn amrwd iawn i'r ffaith bod trên yr ymgeisydd yn hwyr ar ôl i rywun ladd ei hun trwy neidio ar y traciau.

Heb os, roedd y sylwadau'n annymunol ac yn debyg o beri loes i unrhyw un oedd wedi wynebu'r artaith o golli anwylyn trwy hunanladdiad ond fe'i cyhoeddwyd ar dudalen bersonol ac roedd cyfeillion yr ymgeisydd wedi ei geryddu am ei sylwadau ar y pryd.

Mewn achos arall cafwyd gwybodaeth am ymgeisydd ifanc oedd wedi gwneud sylw ar Facebook i'r perwyl ei fod yn dymuno lladd Justin Bieber. Yn yr achos hwnnw collodd yr ymgeisydd gefnogaeth swyddogol ei blaid er ei bod hi'n rhy hwyr i dynnu ei enw oddi ar y papurau pleidleisio.

Ymgeiswyr Llafur oedd y ddau enghraifft uchod fel mae'n digwydd - ac efallai bod yna elfen o 'dalu'r pwyth yn ol' wedi chwarae rhan yn y ddwy stori ar ôl i Lafur gyflwyno llond crochan o gawl eil-dwym ynghylch ymgeiswyr Ceidwadol yn gynharach yn yr ymgyrch.

Yn sicr mae ambell i hen ben yn y blaid Lafur yn credu bod Peter Hain wedi gofyn am drwbwl trwy gyhoeddi ei 'list of shame'. Mae'n ddigon posib na fyddai papurau fel y 'Western Mail' wedi cyhoeddi'r ddwy stori uchod pe na baent wedi rhoi sylw i'r rhestr wreiddiol. Cyhuddiadau gwreiddiol Mr Hain oedd y cyfiawnhad dros gyhoeddi'r straeon ynghylch y ddau ymgeisydd Llafur.

Fel mae'n digwydd fe wnaethon ni benderfynu anwybyddu rhestr Peter Hain a'r ddwy stori arall hefyd. Nid ein bod ni o reidrwydd yn iawn a dydw i ddim yn beirniadu newyddiadurwyr wnaeth benderfynu'n wahanol.

Pwynt i'r pleidiau sydd gen i. Os ydych chi'n canfod sylwadau gan un o'ch gwrthwynebwyr sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig neu'n enllibus mae perffaith hawl gennych chi i dynnu sylw atyn nhw. Yn wir, efallai bod dyletswydd arnoch chi i wneud hynny.

Ar y llaw arall os ydych chi'n gwneud môr a mynydd o ryw sylw amrwd neu annymunol gan un o'ch gwrthwynebwyr peidiwch synnu os ydy'ch gwrthwynebwyr yn chwilio'n drylwyr am sylwadau tebyg gan eich ymgeiswyr chi.

Fe fyddwn yn trafod yr union bwnc yma ar 'Dau o'r Bae' yfory.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:09 ar 10 Mai 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Nid rol chi fel 'journo' yw i ddatgelu pob stori? falle nid ar y prif newyddion, ond o leiaf mewn un ffordd e.e Blog. Yna mae o i fyny i ni fel darllenwyr benderfynnu "os ydyr sdori werth ffwdan drosdo".

    Yntau yda chi o'r farn mai rol y Ö÷²¥´óÐã yw i "reoli" pa storiau sydd yn cael ei datgelu? Os felly, mae hynny yn fy nychryn i lot. Ac efallai dyma pam mae pob Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi cael amser eithaf hawdd gan cyfryngis Caerdydd.

  • 2. Am 16:21 ar 10 Mai 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydyn ni ddim yn cyhoeddi un rhywbeth heb sicrhau bod hi'n gywir - ac mae hynny wrth reswm yn cymryd amser. Ein barn ni oedd nad y straeon hyn yn haeddu'n hamser. Nid ein lle ni yw ail-adrodd clwcs heb ei gwiro.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.