Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwylio Brighton o Bell

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Iau, 27 Medi 2012

Fel pawb arall yn y sector gyhoeddus mae'r Ö÷²¥´óÐã yn ceisio arbed ambell i geiniog y dyddiau hyn. Gwylio Cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol o bell oeddwn i'r wythnos hon felly gan glywed fel pawb arall y cynrychiolwyr pybyr yn mynnu mai trwy ddilyn llwybr cul y glymblaid y mae cyrraedd y ddinas sanctaidd.

Roedd ambell un yn anghytuno'n gyhoeddus ac roedd cyn-aelod Maldwyn, Lembit Opik, wrthi'n casglu eu henwau mewn ymdrech i sicrhau etholiad arweinyddol. Fe fyddai'n rhaid i Lembit sicrhau cefnogaeth hanner yr Aelodau Seneddol neu saithdeg pump o bwyllgorau etholaeth er mwyn gorfodi etholiad. Y cyfan ddyweda i yw fy mod yn disgwyl i'w ymdrech fod un mor llwyddiannus â'i yrfa reslo.

Ond y ffyddloniaid a'r gwir-gredinwyr oedd yn bresennol yn Brighton. Nid cadw eu cefnogaeth nhw yw problem fawr Nick Clegg. Denu yn ôl yr actifyddion sydd wedi gadael neu sy'n eistedd ar eu dwylo yw'r dasg allweddol.

Tynnu sylw at yr hyn mae'r blaid wedi cyflawni mewn llywodraeth yw prif dacteg Nick Clegg ar hyn o bryd. Dyw'r buddugoliaethau hynny ddim yn ddisylwedd ond mae 'na broblem. Yn wahanol i drwch yr etholwyr, yr agenda cyfansoddiadol sy'n gwneud i'r ffyddloniaid a chyn-ffyddloniaid lafoerio a beth bynnag yw cyflawniadau'r blaid mewn meysydd fel addysg neu drethi pitw iawn yw'n newidiadau cyfansoddiadol sydd wedi eu cyflawni. Gwrthodwyd y bleidlais amgen gan yr etholwyr ac aeth yr hwch trwy'r siop wrth geisio diwygio TÅ·'r Arglwyddi. Mae'n anodd gweld y sefyllfa'n newid cyn yr etholiad nesaf.

Beth sy'n wynebu'r blaid 2015 felly? Mae colledion bron yn anorfod a chrasfa yn bosibilrwydd cryf. Eto i gyd "critical but not serious" yw'r disgrifiad gorau o gyflwr y blaid yn fy marn i. Mae hon yn blaid wydn sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd llawer gwaeth ac fe fyddai 'na ddigon ar ôl i ddechrau ar y gwaith ail-adeiladu hyd yn oed ar ôl y grasfa waethaf posib.

Deng mlynedd yn ôl roeddwn i'n dyst i farwolaeth plaid yr "Austaralian Democrats" - plaid yr oedd nifer o fy ffrindiau yn gweithio iddi a'i chynrychioli. Am gyfnod hir roedd y blaid wedi dal y fantol yn siambr uchaf senedd y wlad. Fe aeth i ebargofiant yn bennaf o ganlyniad i ymgecru mewnol mewn llai na phum mlynedd.

Ond plaid ddiwreiddiau oedd Democratiaid Awstralia. Dyw hynny ddim yn wir am ei chwaer blaid Brydeinig. Does dim rhyfedd bod Nick Clegg wedi dyfynnu Jo Grimmond a David Steel yn ei araith i'r gynhadledd. Cryfder gwreiddiau'r blaid yw ei gobaith gorau yn yr hir dymor.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.