Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gambl Leanne

Vaughan Roderick | 09:24, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2012

Does neb yn amau dewrder gwleidyddol Leanne Wood wrth iddi gyhoeddi ei bod am chwennych sedd etholaethol yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Nid hi yw Aelod Cynulliad cyntaf i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn etholiad 2007 penderfynodd Jonathan Morgan roi'r gorau i fod yn aelod rhestr er mwyn sefyll yng Ngogledd Caerdydd. Fe gipiodd sedd ac wedyn ei cholli yn 2011. Pe ba na bai Jonathan wedi mentro i'r ochor etholaethol mae'n debyg y byddai'n Aelod Cynulliad ac yn arweinydd ei blaid heddiw. Methiant fu ymdrech Nerys Evans i ennill sedd etholaeth ar ôl ildio ei lle ar y rhestr. Efallai bod yna wersi yn fana!

Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw lle yn union y bydd Leanne yn sefyll?

Gan mai ymestyn y map etholiadol yw'r bwriad does dim pwynt iddi sefyll mewn etholaeth y mae'r blaid yn ei chynrychioli'n barod. Does dim llawer o bwynt sefyll yn Llanelli chwaith gan fod ennill Llanelli wedi arwain at golli sedd rhestr ym mhob un o'r pedwar etholiad ers sefydlu'r cynulliad.

O gymryd nad yw Leanne am fentro i'r gogledd mae 'na bum sedd sy'n fy nharo i fel posibiliadau. Mae pedair o'r rheiny yn y cymoedd sef Castell Nedd, Cwm Cynon, Caerffili ac Islwyn. Mae'r rheiny i gyd yn seddi y mae'r blaid wedi ei hennill neu ddod agos at ei hennill yn y gorffennol. Mae'r un peth yn wir am ambell i sedd arall - ond mae'r drefniadaeth Lafur mewn seddi fel y Rhondda a Phontypridd wedi gwella'n arw ers chwalfa 1999 gan greu talcen caled iawn i Blaid Cymru.

O'r seddi rwyf wedi eu rhestri uchod byswn i'n tybio mai Castell Nedd fyddai'r mwyaf addawol yn enwedig os ydy Gwenda Thomas yn dewis ymddeol adeg yr etholiad nesaf. Greddf nid ystadegau sy'n awgrymu hynny ac fe fyddai'r ffaith bod yr etholaeth y tu allan i ranbarth presennol Leanne yn anfantais iddi.

Mae 'na un sedd arall sy'n werth ei hystyried. Mae 'na garfan o fewn Plaid Cymru sy'n dadlau bod y blaid wedi colli cyfleoedd yn y Gymru ddinesig wrth ddilyn breuddwydion gwrach yn y cymoedd. Mae'n bosib y bydd y garfan honno yn pwyso ar Leanne i ystyried sefyll yng Ngorllewin Caerdydd - sedd lle enillodd y blaid dros ugain y cant o'r bleidlais tro diwethaf. Mae hynny'n llai na'r canran yn rhai o seddi'r cymoedd ond mae'r adwy rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn llai - ac mae 'na fwy o gyfle i osod gwasgfa dactegol ar bleidiau eraill.

Ydy Plaid Cymru yn gallu ennill un o'r seddi uchod? Fe fydd hynny'n dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr hinsawdd wleidyddol yn enwedig canlyniad yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Fe gawn weld.

Rwyf am gwpla trwy ddyfynnu sgwrs rhwng Sir Humphrey a Bernard yn "Yes Minister". Dyma hi.

Sir Humphrey: If you want to be really sure that the Minister doesn't
accept it, you must say the decision is "courageous".
Bernard: And that's worse than "controversial"?
Sir Humphrey: Oh, yes! "Controversial" only means "this will lose you votes". "Courageous" means "this will lose you the election"!

Amser a ddengys beth yw natur dewrder Leanne.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.