Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penblwydd Hapus, BARN

Vaughan Roderick | 11:32, Dydd Gwener, 2 Tachwedd 2012

Mae sawl penblwydd yn cael eu dathlu ar hyn o bryd. Mae S4C yn ddeg ar hugain ac ymhen ychydig wythnosau byddaf yn cymryd rhan mewn cyngerdd i ddathlu hanner canmlwyddiant fy hen ysgol, Rhydfelen.

Synnais y bore yma i weld bod 'na "50" aur ar glawr y rhifyn newydd o Barn. Am ryw reswm roeddwn i'n meddwl bod y cylchgrawn llawer yn hŷn na hynny. Cymerais mai rhyw Domos Gee neu ei debyg oedd wedi cychwyn y peth yn ôl yn nyddiau Fictoria.

Nid awgrymu bod "Barn" yn hen ffasiwn yr ydw i ond mae 'na rywbeth ynghylch ei sylwedd sobor nad yw nodweddiadol o gyhoeddiadau ail hanner yr ugeinfed ganrif a diolch byth am hynny!

Fel pob cylchgrawn arall mae Barn wedi wynebu cyfnodau o lanw a chyfnodau o drai ar hyd y blynyddoedd. Cyfnod Alwyn D. Rees oedd ei hoes aur mae'n debyg ond mae hi mewn cyflwr iach iawn ar hyn o bryd.

Ta beth, Penblwydd Hapus, Barn. Rwy'n sicr y byddai tanysgrifiad yn cael ei ystyried fel anrheg anrhydeddus!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:00 ar 2 Tachwedd 2012, ysgrifennodd Rhys:

    Clywch, clywch. Yn mwynhau'r cylchgrawn yn arw. Mae'n gosod ac yn cynnal y safon o ran trafodaeth a dadansoddiad treiddgar am sawl pwnc.

  • 2. Am 16:09 ar 8 Tachwedd 2012, ysgrifennodd Vaughan Hughes:

    Diolch yn fawr iawn Vaughan. Ti wastad yn gefnogoliawn i'r cylchgrawn.
    Vaughan

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.