Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2012

Rwy'n grac...

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Gwener, 21 Rhagfyr 2012

Sylwadau (14)

"Tinsel ar y goeden... seren yn y nen..."

Fe ddylwn i fod mewn hwyliau da Nadoligaidd - yn edrych ymlaen at frêc bach o'r gwaith ac ychydig o loddesta.

Dydw i ddim. Rwy'n flin. Rwy'n grac. Rwy'n wynad.

Yr "Office for National Statistics" sy'n gyfrifol am fy nhymer. Gwnâi ddim boddran cyfieithu'r teitl. Wedi'r cyfan dyw nhw ddim yn trafferthu gwneud.

Rhyw chwe mis yn ôl cefais lythyr gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan yn y "Labour Force Survey". Esboniwyd bod yr astudiaeth hon yn ail yn unig i'r Cyfrifiad o safbwynt pwysigrwydd y gwaith ac oherwydd hynny bod yn rhaid cael cyfweliad wyneb yn wyneb. Doedd llenwi ffurflen ddim yn ddigon da.

Roedd y llythyr yn uniaith Saesneg. Atebais yn ddigon cwrtais gan ddweud fy mod yn ddigon parod i gymryd rhan yn yr ymchwil ond fy mod yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg. Ces i ddim ateb.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach ymddangosodd rywun ar stepen drws fy nghartref gan ddweud ei fod yn cynrychioli'r asiantaeth a'i fod yn dymuno fy holi ar gyfer yr astudiaeth.

Roedd y gweithiwr yn ddi-gymraeg. Brathais fy nhafod ac esbonio'n gwrtais yn Saesneg fy mod yn dymuno cael fy holi yn Gymraeg. Dywedodd y byddai'n gweld os oedd hynny'n bosib.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach cefais alwad ffôn gan un o weithwyr yr asiantaeth oedd yn medru'r Gymraeg. Ymddengys fod yr angen i gael fy holi "wyneb yn wyneb" wedi diflannu. Fe fyddai ymateb dros y ffon yn ddigonol.

Dyna ddigwyddodd. Roedd y swyddog yn ddyn dymunol a'i Gymraeg yn ddigon pert - ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn cyfieithu'r holiadur off top ei ben ac yn ei llenwi yn Saesneg. Doeddwn i ddim yn hapus ond fel 'na mae bywyd weithiau.

Tan ddoe. Ddoe derbyniais lythyr arall gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan mewn "follow-up survey". Unwaith yn rhagor roedd y llythyr yn uniaith Saesneg.

Digon yw digon. Rwyf wedi cael llond bol. Rwyf wedi alaru ar eich deddfau iaith, eich byrddau, eich cynlluniau iaith, eich comisiynwyr a'ch safonau!

Y cyfan rwy'n dymuno ei gael yw tipyn o gwrteisi a thipyn o barch. Oes rhaid mynd trwy hyn bob tro?

Ydy hi'n anodd?

Nadolig Llawen.

Y Cyfri Olaf

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Mawrth, 18 Rhagfyr 2012

Sylwadau (8)

Diolch i bawb wnaeth ymateb i'r post ynghylch y Cyfrifiad.

Rwy'n ymddiheuro i bawb wnaeth orfod aros cyn i'w sylwadau ymddangos. Mae gen i ychydig o newyddion da ynghylch hynny. Yn y flwyddyn newydd fe fyddwn yn symud i system o ôl-gymedroli sy'n golygu y bydd eich sylwadau yn ymddangos yn syth. Fe ddylai hynny fod yn haws i chi ac mae'n sicr o fod yn llawer haws i fi!

Rwyf am ddychwelyd at y Cyfrifiad yn y post hwn oherwydd un ystadegyn na chafodd llawer o sylw. Y 19% sy'n gallu siarad yr iaith a'r is-set o 14.65% sy'n gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu oedd yn hawlio'r pennawdau - ac yn haeddiannol felly.

Yr ystadegyn gafodd ei anwybyddu oedd yr un ynghylch y nifer sy'n gallu deall Cymraeg llafar ond dim yn gallu ei siarad. Rhwng 2001 a 2011 cafwyd cynnydd bychan ym maint y grŵp yma o 4.9% o'r boblogaeth i 5.3%.

Nawr mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod y rhain yn bobol a allai fod yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Cymaint haws yw gloywi iaith na'i dysgu o'r dechrau.

Pwy felly yw'r bobol yma? Wel, ac eithrio plant meithrin mae'r ffigyrau'n rhyfeddol o gyson o safbwynt grŵp oedran gan amrywio rhwng 4.9% (75+) a 5.7% (45-64). Yn ddaearyddol mae 'na fwy o amrywiaeth. Dim ond 2.2% yn dweud eu bod yn deall Cymraeg llafar yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent. Roedd dros ddeg y cant o bobol Sir Gaerfyrddin (11.7%) a Sir Fôn (10.7%) yn dweud ei bod yn deall ond dim yn siarad Cymraeg.

Nawr fe fydd presenoldeb Sir Gar ar frig y rhestr yn canu cloch i newyddiadurwyr Cymraeg sydd wedi gweithio yn y gorllewinl. Yn y sir honno ac yn fwyaf arbennig yn Nyffryn Aman y mae rhyw un yn debyg o wynebu'r profiad o bobol yn gwrthod cael eu cyfweld oherwydd safon eu Cymraeg.

Mae hi fel pe bai 'na rhyw gymhlethdod israddoldeb dwfn yn bodoli ynghylch safonau iaith bersonol a thafodiaith yr ardal. Dyw hi ddim yn syndod efallai bod Dyffryn Aman yn un o'r ychydig ardaloedd lle mae methiant rhieni i drosglwyddo'r iaith i'w plant o hyd yn ffactor yn nirywiad y Gymraeg.

Dydw i ddim yn dweud unrhyw beth newydd iawn yn fan hyn. Pwrpas S4C wrth leoli "Heno" yn Abertawe i ddechrau ac yna yn Llanelli oedd ceisio cyrraedd y gynulleidfa hon. Mae'n broblem barhaus ac mae angen meddwl o ddifri yn ei chylch. Does 'na ddim atebion hawdd nac amlwg - ond efallai bod a wnelo natur y ddarpariaeth addysg uwchradd yn y cylch rywbeth a'r peth.

Rwyf am sôn am un grŵp arall cyn cloi sef y 73.3% o boblogaeth Cymru sydd heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl. Roeddwn i ymhlith rhai ohonyn nhw mewn gwasanaeth carolau dros y Sul.

Roedd y gwasanaeth yn ddwyieithog ond yn Saesneg yr oedd bron y cyfan o'r sgwrsio cyn ac ar ôl y gwasanaeth. Digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn ar ddiwedd yr oedfa. Gwahoddwyd aelodau'r gynulleidfa i adrodd Gweddi'r Arglwydd ym mha bynnag iaith yr oeddent yn dymuno. Clywais i neb yn adrodd cyfieithiad Cymraeg 1988 nac un o'r fersiynau Saesneg ychwaith. Rhythmau Pader William Morgan oedd yn llenwi'r capel.

Mae dyn yn teimlo mewn ambell i ardal yng Nghymru bod 'na ryw swîts cudd yn rhywle a fyddai'n gallu newid iaith ardal yn ôl i'r Gymraeg dros nos.

Mae'n bosib mai'r gwaddol yna o Gymreictod sy'n gyfrifol am y ffaith bod addysg Gymraeg wedi tyfu'n gynt yn rhannau o'r de-ddwyrain nac mewn ardaloedd eraill wedi eu Seisnigo. Ta beth am hynny roedd y profiad yn fodd i godi calon ar ddiwedd wythnos ddigon llwm.

Cyfri Pennau

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Gwener, 14 Rhagfyr 2012

Sylwadau (9)

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur rhwng y Cyfrifiad a phopeth arall. Rwy'n cymryd eich bod wedi clywed neu weld hen ddigon o fy nadansoddi i ynghylch y Cyfrifiad dros y dyddiau diwethaf ond mae gen i ambell i bwynt ychwanegol i wneud.

Nodwedd fwyaf amlwg y cyfrifiad eleni oedd nad oedd y cynnydd bychan yn nifer siaradwyr ifanc y Gymraeg yn y dwyrain yn ddigon i wneud iawn am golledion y broydd Cymraeg traddodiadol.

Dyw hynny ddim yn golygu bod twf addysg Gymraeg mewn ardaloedd di-gymraeg wedi arafu neu wedi methu mewn rhyw ffordd. Mae'r ysgolion yn dal i dyfu a rhai newydd yn agor bob blwyddyn. Gellir disgwyl i'r broses honno gyflymu wrth i ddyletswydd statudol gael ei gosod ar ysgwyddau cynghorau i fesur y galw o flaen llaw a darparu'n ddigonol.

Yr hyn wnaeth ddigwydd yn y dwyrain, mae'n ymddangos, oedd bod rhieni plant y sector addysg Saesneg yn fwy realistig am sgiliau ieithyddol eu plant.

Mae hynny'n codi cwestiwn difrifol wrth gwrs ynghylch safon dysgu'r Gymraeg yn y sector Saesneg. Oni ddylai pob plentyn 16 oedd bod a'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg erbyn hyn? Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yn y gwersi 'Cymraeg' os mai'r ateb mwyaf tebygol i gyfarchiad Cymraeg yw "is that Welsh?"

Mae 'na broblemau yn yr ysgolion Cymraeg hefyd, problemau ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth ac ar ôl gadael ysgol. Pe bai'r Gymraeg yn gadarn yn y Gorllewin fe fyddai'n bosib byw gyda'r problemau hynny, gan gymryd y rheiny oedd yn defnyddio'r iaith ar ôl gadael ysgol fel bonws i'r iaith. Yn ffodus neu'n anffodus fedrwn ni ddim fforddio gwneud hynny.

Mae hynny'n dod â fi at sefyllfa yn y bröydd Cymraeg traddodiadol.

Y peth cyntaf i ddweud am y rhain yw bod y sefyllfa hyd yn oed yn waeth nac mae'n ymddangos ar y wyneb. Mae cyfundrefnau addysg yr ardaloedd hyn, yn enwedig rhai'r gogledd, yn llwyddo i sicrhau bod nifer sylweddol o blant mewnfudwyr yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog. Canlyniad hynny yw bod y canran o siaradwyr Cymraeg sy'n ei siarad fel ail iaith yn cynyddu'n gyson. Mae'n bosib y gallai hynny arwain at newid ym mha iaith a ddefnyddir o ddydd i ddydd yn yr ardaloedd hyn os nad yw hi wedi gwneud hynny'n barod.

Yr ail bwynt sy gen i yw bod cynghorau yn gallu gwneud gwahaniaeth. Ydy hi'n syndod mai mewn sir oedd yn fodlon ystyried benthyg dros chwarter miliwn o bunnau i Eglwys Saesneg godi canolfan fowlio tra'n torri cyllidebau ei Mentrau Iaith y gwelwyd y cwymp mwyaf? Cewch chi farnu.

Beth sydd i wneud felly? Wel, dyw hwn ddim yn gyfnod i anobeithio na llaesu dwylo. Fe fyddai'r sefyllfa heddiw llawer iawn yn waith pe bai pobol wedi gwneud hynny dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Erbyn hyn mae gennym yng Nghymru'r grymoedd a'r pwerau i sicrhau dyfodol yr iaith. Mae sefyllfa'r Gymraeg llawer yn gryfach na'r ieithoedd Celtaidd eraill. Dyw eu caredigion nhw ddim am roi'r gorau i'w brwydrau. Pam ddylen ni?

Mae'r tŵls yn y bocs. Oes gan ein gwleidyddion yr ewyllys i'w defnyddio?

1662 a 2012 - Erys yr Egwyddor

Vaughan Roderick | 08:25, Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2012

Sylwadau (4)

Pa flynyddoedd y byddech chi yn eu henwi fel trobwyntiau yn hanes Cymru? 1282, 1536, 1914 a 1997 yw fy rhestr I. Mae 'na bosibiliadau eraill. Mae 1588, blwyddyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn un ohonyn nhw a 1759 pan agorwyd gwaith haearn Dowlais yn un arall.

Go brin y byddai 1662 yn uchel iawn ar restrau pobol y dyddiau hyn ond yn ôl yn nyddiau Victoria roedd hi'n cael ei hystyried yn flwyddyn ryfeddol o bwysig - y pwysicaf, o bosib, yn hanes y genedl fach hon.

1662 oedd blwyddyn y "troi allan" pan gafodd 120 o weinidogion yng Nghymru eu diswyddo am wrthod cydymffurfio a sacramentau Eglwys Loegr. Y troi allan oedd cychwyn Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Yr hyn yr oedd yr oedd yr Annibynwyr, Bedyddwyr, Presbyteriaid ac Undodiaid yn gwrthod cydymffurfio a hi oedd cyfraith gwlad sef Deddf Unffurfiaeth 1662. Dyna yw tarddiad y gair "Anghydffurfiwr".

Doedd yr enwadau ddim wedi eu ffurfio ar y pryd. Roedd y Bedyddwyr, Annibynwyr ac Undodiaid o hyd yn addoli gyda'i gilydd ym Mlaencannaid. Roedd y rhwyg rhwng Gellionnen a Chwmllynfell degawdau i ffwrdd a doedd John Williams, Pantycelyn (tad William) dim eto wedi cefni ar Arminiaeth Cefnarthen er mwyn dyrchafu Calfiniaeth ym Nghlunypentan .

Roedd diwinyddiaeth yr Anghydffurfwyr o hyd yn hyblyg a llawer o anghytundeb rhwng gwahanol garfannau. Yr hyn oedd yn eu huno oedd eu gwrthwynebiad chwyrn i unrhyw ymyrraeth gan y wladwriaeth yn eu credo na'u sacramentau.

Nawr mae un o'r enwadau a ffurfiwyd yn sgil y "troi allan" yn wynebu'r union fygythiad hwnnw - ymyrraeth cyfraith gwlad yn ei sacramentau.

Priodasau hoyw yw asgwrn y gynnen. Mae 'na ddadleuon o blaid ac yn erbyn y rheiny a doeddwn i ddim yn synhwyro bod 'na fawr o alw am newid y drefn o bartneriaethau sifil nes I David Cameron godi'r peth.

Y pwynt sy gen i yw hwn. Fe fyddai caniatáu priodasau hoyw sifil tra'n gwahardd rhai crefyddol yn ymyrraeth uniongyrchol yn sacramentau'r Undodiaid ac eraill sy'n dymunou cynnal priodasau o'r fath. Dyw dweud y gallai Eglwys fendithio priodas sifil ddim yn ddigon. Os ydy priodasau hoyw mewn swyddfeydd corfrestru, gwestai a phlasdai yn gyfreithlon yna rhaid yw caniatáu I Eglwysi sy'n dymuno cynnal priodasau crefyddol wneud hynny.

Rwy'n sicr na fyddai'r rhai wnaeth gael eu troi allan yn 1662 yn gallu dychmygu'r fath beth a phriodas hoyw ac mae'n debyg y byddai'r syniad yn wrthun iddyn nhw. Ond yr un yw'r egwyddor.

Y prynhawn yma fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud datganiad ynglŷn â'i chynlluniau. Yn wreiddiol y bwriad oedd cyfreithloni priodasau hoyw sifil a pharhau i wahardd rhai crefyddol hyd yn oed mewn addoldai oedd yn dymuno eu cynnal. Mae 'na arwyddion y gallai hynny newid.

Beth bynnag yw eu barn am briodasau how fe ddylai Anghydffurfwyr Cymru groesawi hynny. Rydym wedi bod yma o'r blaen!

Diweddariad Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi na fydd hi'n ymyrryd yn sacramentau eglwysi ac eithrio dwy - sef Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru. Yn achos Eglwys Loegr gellid dadlau bod ei statws fel eglwys sefydledig yn ei gwneud hi'n eithriad. Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi anghofio bod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu ac wedi colli ei statws sefydledig. Dyw hi ddim gwahanol i unrhyw enwad nac eglwys arall.

Them nymbars

Vaughan Roderick | 11:58, Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2012

Sylwadau (2)

Doeddwn i ddim wedi bwcio gwyliau ta beth. Dyw'r peth o ddim ots i fi felly ond mae 'na ambell i wyneb pryderus o gwmpas y lle 'ma o glywed y bydd y Cynulliad mwy na thebyg yn ymgynnull am sesiwn frys wythnos nesaf. Cynhelir y sesiwn i drafod y rheoliadau ynghylch y lwfans treth cyngor - budd-dal sy'n cael ei ddatganoli o San Steffan i'r Cynulliad yng Nghymru ac awdurdodau lleol yn Lloegr.

Derbyniodd aelodau'r Cynulliad y rheoliadau - dros dri chan tudalen ohonyn nhw am ychydig wedi chwech o'r gloch neithiwr. Munudau'n ddiweddarach gofynnwyd iddyn nhw bleidleisio i atal y rheolau sefydlog er mwyn eu cymeradwyo.

Doedd dim dewis ond gwneud hynny yn ôl y gweinidog perthnasol Carl Sargeant am ei fod yn disgwyl derbyn "them nymbars" o Whitehall. Llusgo traed bwriadol oedd ar fai yn ôl y gwrthbleidiau. Roedd y ddadl yn un danbaid. Dyma hi.

















Beth aeth o le i'r llywodraeth, felly? Yn gyntaf er ei bod wedi ennill pleidlais Rhodri Glyn Thomas roedd grŵp Plaid Cymru wedi ei rhannu ac yn ail fe gwympodd del posib gyda'r Ceidwadwyr yn ddarnau. Yn ôl y Torïaid roedd cytundeb wedi ei gyrraedd ac fe newidiodd y Llywodraeth ei meddwl. Yn ôl ffynonellau Llafur roedd y Ceidwadwyr wedi cyflwyno rhestr siopa amherthnasol ac amhriodol. Nid oedd modd ei derbyn.

Beth bynnag yw'r esboniad fe fydd ambell i aelod cynulliad yn gorfod siomi'r plant wythnos nesaf. Hei ho!

Hen Bethau Anghofiedig

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2012

Sylwadau (1)

Roeddwn i lan yn Wrecsam ddoe yn gwneud un neu ddau o bethau. Un o'r rheiny oedd gweld arddangosfa "Celfyddyd a Diwydiant" ym Mhrifysgol Glyndŵr. Gweithiau celf o gasgliad preifat yr actor, Lindsay Evans, sy'n cael eu harddangos - lluniau o safleoedd a bywyd diwydiannol Cymru gan rai o'n hartistiaid amlycaf.

Mae'r lluniau'n gwerth eu gweld o safbwynt eu celf ond maen nhw hefyd yn dwyn i gof maint a grym diwydiannau trymion yr oes a fu. Trwy ddelwedd yn unig y mae gwerthfawrogi mawredd gweithfeydd fel Cyfarthfa a'r TÅ· Du heddiw. Dyna yw'r unig ffordd hefyd i ddwyn i gof tirwedd wenwynig gwaelod Cwm Tawe - ardal lle mae 'na elyrch ar yr afon ac mewn stadiwm y dyddiau hyn.

Gorchest fawr Awdurdod Datblygu Cymru oedd clirio ac adfer hen safleoedd diwydiannol. Fe wnaeth hynny llawer mwy i newid Cymru na rhai o'r buddsoddiadau tramor byrhoedlog yr oedd yr awdurdod yn gweithio mor galed i'w denu. Heddiw lle bu'r gweithiau haearn a chopr, y pyllau glo a'r mwynfeydd mae 'na dai, ffatrïoedd archfarchnadoedd a pharciau gwledig.

Eto i gyd mae cwestiwn yn fy nharo weithiau sef hwn - a gliriwyd gormod? Ai dileu'r cyfan oedd y peth iawn i wneud?

Os ydych chi'n gyrru ar hyd Cwm Taf Bargod heddiw gallwch ddychmygu eich bod yng nghanol Sir Faesyfed. Does dim byd ar ôl i awgrymu bod hwn wedi bod yn un o gymoedd mwyaf hagr Cymru ar un adeg.

Mae'n hynod o bert - ond yn golygu llai rhywsut na Chwm Ystwyth gyda'i adfeilion yn dystion mud i greulondeb y pyllau plwm na'r tomenni gwastraff sy'n gofeb i ddiwydrwydd a dioddefaint y chwarelwyr llechi ym Mro Ffestiniog.

Teimladau felly sy'n gyfrifol, dybiwn i, am y galwadau am "Amgueddfa Hanes y Bobol" yn y cymoedd a chofeb genedlaethol i lowyr Cymru. Ond sut fyddai Amgueddfa'r Bobol yn rhagori ar Bwll Mawr Blaenafon - a beth yw'r gwahaniaeth rhwng "pobol" yr amgueddfa newydd a "gwerin" Sain Ffagan? O safbwynt cofeb a allai unrhyw beth fod hanner mor drawiadol â'r cawr sy'n tystio yn Six Bells?

Ond efallai ein bod yn ceisio gwneud yn iawn yn fan hyn am fethiant mewn maes arall - methiant rhieni ac athrawon i gyflwyno stori ein gwlad i'n plant.

Rhyw fis yn ôl cyhoeddodd Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad o'r ffordd y mae Hanes Cymru yn cael ei dysgu yn yr ysgolion. Gofynnwyd i Dr Elin Jones gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i astudio sut mae sicrhau bod disgyblion yn dod "yn gyfarwydd â'u syniad eu hunain o 'Gymreictod' ac i fagu mwy o deimlad o berthyn i'w cymuned leol a'u gwlad."

Mae cael hynny'n iawn yn bwysicach nac unrhyw gofeb neu amgueddfa, dybiwn i a dysgu plant am hen bethau anghofiedig eu bröydd eu hun yw'r ffordd orau i ddechrau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.