主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Yr Wyddgrug

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Gwrthdaro rhwng Almaenwyr a milwyr Ffrainc yn y Rhur.
  • Mussolini yn arestio cannoedd o Sosialwyr.
  • Lenin yn ymddeol.
  • Hitler yn cael ei gymryd i'r ddalfa yn Munich wedi iddo geisio arwain chwyldro.
  • Gwerth y mark Almaenig yn parhau i ddisgyn. Pris torth ym 1918 oedd 0.63 mark.
  • Yn Nhachwedd 1923 'roedd wedi cyrraedd 201,000,000,000 mark.
  • Darlledu yn dod i Gymru ar 么l agor Gorsaf 5WA yng Nghaerdydd. Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd, ond amharod oedd y 主播大秀 i ddefnyddio unrhyw iaith arall ac eithrio Saesneg, a hwnnw'n Saesneg ag acenion dosbarth canol Llundain. Bu protestio yng Nghymru a ffurfiwyd mudiad Cylch Dewi, y gr^wp protest cyntaf yn ymwneud 芒 darlledu yng Nghymru.

Archdderwydd               Cadfan

'Roedd yn rhy wael i ofalu am y seremoniau. Elfed yn gweithredu ar ei ran.

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Dychweliad Arthur'
Enillydd: D. Cledlyn Davies
Beirniaid: John Morris-Jones, Berw, J. J. Williams

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cystadleuaeth hynod o wael oedd hon, dim ond saith yn cystadlu, a'r awdl fuddugol yn un o'r pethau erchyllaf a grewyd erioed. Dylid bod wedi atal y Gadair yn hytrach na gadael i gynganeddwr carbwl ac anystwyth fel D. Cledlyn Davies ennill. Gwarth oedd gwobrwyo ei awdl.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Yr Ynys Unig'
Enillydd: Cynan
Beirniaid: T. Gwynn Jones, Gwili, J. T. Job
Cerddi eraill: Dyma'r unig dro y bu i Iorwerth C. Peate gystadlu am y Goron.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Mol贸kai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n s么n am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal. Cerdd am ystyr aberth dros gyd-ddyn, ac arwyddoc芒d hynny o fewn y patrwm Cristnogol, yw hon.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy