主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Aberteifi

Methwyd cynnal yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin oherwydd y Rhyfel, ac fe'i cynhaliwyd yn Aberteifi.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Singapore yn disgyn i'r Siapaneaid.
  • Ym Mhrydain 'roedd prinder pethau fel sebon, llafnau eillio, ac 'roedd rhai merched yn defnyddio betys cochion fel minlliw, a brownin grefi ar eu coesau yn lle sanau.
  • Prydain, dan arweiniad Bomber Harris, yn bomio'r Almaen yn gyson.
  • 50,000 yn cael eu lladd gan yr SS yng ngeto Iddewig Warsaw.
  • Brwydr Stalingrad.
  • Brwydr El Alemain yn cychwyn a Rommel yn cael ei drechu.
  • George M. Ll. Davies yn parhau gyda'i ymdrech heddwch ac Undeb yr Annibynwyr yn pledleisio o blaid trafodaethau heddwch.
  • Lladd 34 yn ystod cyrch awyr ar Abertawe.
  • Deddf yn dod i rym yn caniat梅u i dystion roi tystiolaeth yn Gymraeg heb orfod talu costau cyfieithu.
  • Adroddiad Beveridge yn awgrymu sefydlu Gwladwriaeth Les a fyddai'n gofalu am bobl 'o'r crud i'r bedd'.
  • Geni Neil Kinnock.

Archdderwydd               Crwys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Rhyfel' neu 'Creiddylad'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: R. Williams Parry, Gwenallt, Gwyndaf

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Ebargofiant' neu 'Paul', neu Ddrama Fydryddol: 'Iesebel' neu 'Myrddin'
Enillydd: Herman Jones ('Ebargofiant')
Beirniaid: W. J. Gruffydd, Cynan, E. Prosser Rhys

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Defnyddiwyd Y Gododdin , Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd. Mae'n amlwg fod Herman Jones, myfyriwr ifanc ar y pryd, wedi atgoffa un o'r beirniaid o leiaf am erchyllterau rhyfel. O gofio'r profiadau a ddisgrifiodd Cynan yn ei bryddest ei hun, 'Mab y Bwthyn' ym 1921, 'roedd ei feirniadaeth yn llawn ing: 'Ni sonnir yn y bryddest am ein dyddiau ni fel y cyfryw ond y mae ei harwyddoc芒d yn ddigon eglur i unrhyw dad a fu trwy uffern y rhyfel diwethaf os cyrhaeddodd ei fab erbyn hyn 'oedran milwrol'.

Y Fedal Ryddiaith

Rhwng 1942 a 1944. Y bwriad oedd cyflwyno'r Fedal am waith gorau y blynyddoedd 1942 麓 1944 ym 1945, ond ni chafwyd teilyngdod.
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy