主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod               Llanelli

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Argyfwng Ciwba wrth i Rwsia geisio mynd ag arfau niwcliar i'r ynys.
  • Y byd ar drothwy rhyfel ond Kennedy yn perswadio Rwsia i droi'n 么l.
  • Lladd a phrotestio gan bobl ddu yn nhaleithiau'r De yn yr Unol Daleithiau.
  • Brwydro ar strydoedd Llundain wrth i ffasgwyr ymosod ar bobl o ddwyrain y ddinas.
  • Ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi i Saunders Lewis draddodi'r ddarlith 'Tynged yr Iaith'.
  • Agor gwaith dur Llanwern.
  • 17 yn marw o'r frech wen yn Ne Cymru.
  • Is-etholiad yn Nhrefaldwyn wedi marwolaeth Clement Davies. Rhyddfrydwr arall, Emlyn Hooson, yn ennill.
  • Y lluniau teledu byw cyntaf yn cael eu trosglwyddo ar draws yr Iwerydd drwy ddefnyddio'r lloeren 'Telstar'.
  • Crogi'r cyn-Natsi Eichmann.
  • Pris car Mini yn disgyn i 拢495.19s 3d. ( 拢495.96 ).
  • Marw Bob Owen Croesor, William Faulkner, Charles Laughton a Marilyn Monroe.

Archdderwydd               Tre-fin

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Llef Un yn Llefain ...'
Enillydd: Caradog Prichard
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, Brinley Richards, T. Llew Jones
Cerddi Eraill. James Nicholas, W. J. Gruffydd (Elerydd), R. Bryn Williams, G. J. Roberts, Idwal Lloyd, Tom Huws, Dic Jones

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd awdl anfudugol James Nicholas yn adlewyrchu dechreuad oes y brotest. Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki. 'Roedd y dechnoleg newydd yn dechrau ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r ddaear. 'Roedd Rwsia wedi anfon dyn i'r gofod, ac ym 1962, efelychwyd Rwsia gan America. 'Roedd y ras arfau rhwng America a'r Undeb. Sofietaidd yn ras yn y gofod hefyd. Awdl ar Fesur Madog T. Gwynn Jones oedd yr awdl fuddugol, a rhai darnau grymus ynddi.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Y Cwmwl'
Enillydd: D. Emlyn Lewis
Beirniaid: Euros Bowen, David Jones, Waldo Williams
Cerddi eraill: Tom Parri-Jones. L. Haydn Lewis, Dyfnallt Morgan

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Pryddest drymaidd, orddelweddog ac anniddorol am brofiadau offeiriad.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Dyddiadur Bywgraffiadol neu Ddychmygol
Enillydd. William Owen: Bu farw Ezra Bebb
 
Tlws y Ddrama

Neb yn Deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy