主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleisiau
Ray Gravell yn darlledu ei raglen yn Hydref 2005 Grav y cawr
Yn wladgarwr tanbaid fe chwaraeodd Ray rygbi i Gymru 23 o weithiau a bu'n sylwebydd rygbi ar radio a theledu.

Yn 23 oed, chwaraeodd ei g锚m gyntaf dros Gymru yn Ffrainc ym 1975, yn un o bum cap newydd.

Yr oedd yn un o'r canolwyr mwyaf grymus i gynrychioli Cymru erioed.

Ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1980 chwaraeodd yn y pedair g锚m brawf.

Bu'n gapten Llanelli o 1980 tan 1982.

Meddai Ray:
Am ei Dad: Fe oedd fy arwr i. Yr hen foi. Colier. O'dd e'n ddyn cryf, o'dd e'n ddyn dewr. Yn gawr o ddyn.

Ond lladdodd ei dad ei hun ar y mynydd ger eu cartref uwchben Cydweli pan oedd Ray yn ei arddegau:
Roeddwn i wedi colli nhad. Argol fawredd. O'dd e'n ddiwedd y mywyd i.

Am ei fro:
Roedd Ray yn dad ei hun ac yn byw gyda Mari ei wraig yn y bwthyn ar y mynydd lle cariodd ei dad ei gelfi i gyd ar ei gefn o'r t欧 cyngor lle'r oedd yn byw:
Mae 'nghalon i ynghlwm i'r lle yma a fi'n credu mod i mewn ffordd yn gwireddu breuddwyd fy nhad yn dwyn y teulu lan yma, meddai ychydig flynyddoedd cyn iddo farw.

Mae'r golygfeydd yn anhygoel a chi'n gweld hanes dim ond o edrych mas o 'ma - yn ddiwylliannol ac yn ddiwydiannol.

Fi'n edrych mas bob dydd ac mae'r olygfa'n wahanol. . . Fferm Gwenllian, Ynys B欧r, Penrhyn G诺yr, Dinbych y Pysgod, Cydweli . . .

Fi wedi gweld Niagra, Mount Fuji, sdim gwell i gael na hyn.

Bod yn Dad:
Cofiai eni ei ddwy ferch, Manon a Gwenan:

Oeddwn i ymhell i mewn i'r canol oed - 44 - ac roedd dod yn dad yn brofiad hollol newydd i mi, ond dyma brofiad gorau mywyd i.

Fi'n meddwl i fi brofi mwy o gael bod yn bresennol yn ystod y genedigaethau. Fi'n teimlo'n freintiedig iawn. Dyma brofiad mwya' mywyd i.
Pan wnes i chwarae dros Gymru, chwarae g锚m oeddwn i, ond bywyd yw hyn.

Dysgu oddi wrth ei gilydd:
Wy'n dysgu cymaint oddi wrthyn nhw. Fi hefyd yn trial dysgu rhywbeth iddyn nhw.
Dwi'n trial trosglwyddo hanes y lle 'ma iddyn nhw.

Darlledwr:
Pan fo'r golau gwyrdd yn mynd ymlaen yn y stiwdio roedd fel y chwiban ar gae rygbi.

Am ei raglen yn y bore:
Rydyn ni'n gwrando ar lais y bobol. Yn mynd at y bobol eu hunain.

Gorllewinwr:
'West is best' - mae Cymru gyfan yn y Gorllewin!

Am rygbi:
Bu'n ddyhead gen i erioed chwarae dros Lanelli. Bu'n freuddwyd gan fy Nhad y byddwn i'n chwarae dros Gymru. Dyma'r unig glwb i mi chwarae iddo erioed - yr unig glwb y breuddwydiais am eu cynrychioli.

Cefais ddeuddeng mlynedd o bleser pur 'da'r Scarlets - tymhorau o lawenydd, o gyflawni potensial, o iwfforia, a thamaid bach o dristwch hefyd.

Yr oedd yn aelod o d卯m Llanelli a drechodd y Crysau Duon o Seland Newydd yn 1972.

Ymunodd 芒'r 主播大秀 yn 1985 gan actio yn y ffilm Gymraeg, Bonner. Bu hefyd yn blismon yn y ddrama ddogfen am Operation T芒n.


Dyn y stryd:
Enwyd stryd ar ei 么l ym Mynydd y Garreg. Off Horeb Road oedd yr enw arni cynt:
Yr oedd yma lethr yma yr oedd pawb yn ei alw yn Llethr Raymond ond mae hyn yn swyddogol.
Mae'n ardal hyfryd gyda hen chwarel a digonedd o fywyd gwyllt. Mae cael fy enw ar y lle yn brofiad gwych."

Pan ofynnwyd i Ray gan y Western Mail pa lyfr fyddai o'n mynd gydag ef i'r lleuad dewisodd Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis - y llyfr cyntaf iddo'i ddarllen yn yr Ysgol Ramadeg.

Heb fod yn hir wedyn darllenais Mae Theomemphus yn Hen gan Dafydd Rowlands.
Dewisodd fel ei hoff lyfr chwaraeon, gofiant Rocky Marciano, arwr ei dad.

Ers mis Mawrth 2004, bu Grav yn darlledu rhaglen foreol ar 主播大秀 Radio Cymru yn arbennig i'r de orllewin ac roedd iddo barch aruthrol yn ei ardal enedigol a thu hwnt.

Bu farw Ray Gravell tra ar wyliau teuluol yn Sbaen ar 31 Hydref, 2007 yn 56 oed. Mae'n gadael gwraig, Mari, a dwy ferch, Gwenan a Manon.

Cysylltiadau eraill
(Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill.)



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy