主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Andrew Murray a Tim Henman I fyd tenis
Gobeithio y bydd yr erthygl hon yn ysbrydoliaeth i s锚r chwaraeon lleol sydd am fod yn enwog ryw ddydd.
Dilyn gyrfa Andrew Murray
Cafodd Andrew Murray ei eni yn Dunblane, yr Alban ac roedd yn un o'r plant ffodus a oroesodd laddfa Dunblane pan ddaeth dyn i'w ysgol a saethu nifer o blant ac un athrawes.

Bu'n chwarae tenis o oed ifanc iawn am fod ei fam yn hyfforddi yn lleol. Dywedodd nad oedd yn dda iawn, ond roedd yn benderfynol o lwyddo a chyda chymorth ei fam, fu'n chwaraewraig broffesiynol unwaith, gwelwyd potensial yn datblygu.

Pan oedd yn ddeg oed roedd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws Prydain ac enillodd gystadleuaeth yn Langland yn Abertawe. Un o'i fuddugoliaethau mwyaf oedd ennill yr Orange Bowl pan oedd yn 14 ac roedd hyn yn ei roi yn rhif 1 am ei oedran yn y byd. Dyma pryd dechreuodd pobl gymryd sylw ohono.

Methu datblgu talentau ifanc
Ond rydym yn enwog iawn ym Mhrydain am ein methiant i ddatblygu talentau ifanc yn oedolion llwyddiannus. Gwelwyd hyn gyda Martin Lee pan oedd yn rhif 1 yn y byd dan 18 ond ar 么l cyrraedd oed oedolyn ni wnaeth yn dda iawn a syrthiodd i 655 yn y byd.

Cam cyntaf i enwogrwydd
Yn 2004 enillodd Andy Bencampwriaeth Agored yr UD dan 18 a dyma oedd ei gam cyntaf i enwogrwydd. Cafodd lawer o sylw gyda'r wasg am mai dyma oedd ei obaith newydd i gael Prydeiniwr i ennill Pencampwriaeth Wimbledon am fod ymgais Tim Henman wedi bod yn fethiant llwyr.

Yn 2005, mae Andy wedi chwarae mewn nifer o gystadlaethau ail-reng o'r enw 'challengers'. Enillodd ambell g锚m fan hyn a fan draw a chododd yn raddol i safle rhif 400 yn y byd. Ond roedd llawer mwy i ddod yn y dyfodol agos...

Derbyniodd Andy 'wildcard' i gystadlu yn Wimbledon 2005 ond ar 么l cael anaf rai wythnosau'n gynt disgwyliadau anobeithiol iawn oedd iddo ar y cyfan.

Syfrdanwyd nifer pan welwyd ef yn ennill ei ddwy g锚m gyntaf a bu 2 set i fyny yn erbyn David Nalbandian yn ei drydedd g锚m. Er hyn roedd Andy'n flinedig a chollodd i Nalbandian er mawr siom i'w gefnogwyr. Ond heb os nac oni bai roedd y profiad wedi bod yn un gwerthfawr iawn ac roedd o'r diwedd wedi cael profiad o chwarae yn erbyn rhai o oreuon y byd.

Drwy'r misoedd a ddilynodd cododd ei safle yn sylweddol. Roedd o dan lawer o bwysau gan y wasg ond ni wnaeth hyn effeithio o gwbl ar berfformiadau Andy.

Yn ddiweddar cyrhaeddodd rownd derfynol mewn Pencampwriaeth ATP yn Thailand lle chwaraeodd rif 1 yn y byd, Roger Federer. Yn anffodus collodd ond roedd y profiad wedi bod yn un anhygoel.

Felly, beth nesaf? Mae wedi gosod targed i'w hun sef cyrraedd y 10 uchaf yn y byd. Yn sicr mae ganddo'r agwedd i fod yn seren fawr a does dim amheuaeth ei fod wedi ysbrydoli nifer o Brydeinwyr ifanc i ddechrau chwarae tenis. Efallai cawn Brydeiniwr yn ennill Wimbledon yn y dyfodol agos!!

Dafydd Loughran a Gareth Rees


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy