Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Cyflwynwyr yn cofio Steddfodau - da a drwg
Y da, y drwg a'r trychinebus arfeysydd steddfod
Beth yw'r Eisteddfod i mi? Cyflwynwyr S4C yn sôn am eu steddfodau - yn orau ac yn waethaf :

Shan Cothi
  • Shân Cothi, o Farmers, Sir Gaerfyrddin, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd:


  • Y profiad gorau oedd ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Abergele ym 1995.
    Dyma'r trydydd tro i mi gystadlu, ac roedd yn deimlad cyffrous. Ro'n i newydd adael fy ngwaith fel athrawes a doedd gen i ddim swydd iawn.

    Roedd hi'n braf gweld y gwaith ro'n i wedi ei wneud ar y canu a'r llais yn dwyn ffrwyth. Teimlad braf iawn.... ac ro'n i'n gwisgo ffrog ddu smart!

    Y profiad gwaethaf oedd Eisteddfod y mwd yn Abergwaun ym 1986.
    Wrth geisio cerdded o gwmpas y Maes roeddech chi'n cerdded trwy droedfeddi o fwd, a hwnnw yn rhyw hen fwd oedd yn rhedeg fel slime!

  • Tara Bethan, o Lansannan, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd:


  • Tara Bethan Y profiad gorau ges i oedd ennill Gwobr Wilbert Lloyd Roberts yn yr Eisteddfod yn Llanbedrgoch ar Ynys Môn ym 1999.

    Y profiad gwaethaf oedd Eisteddfod Casnewydd ddwy flynedd yn ôl. Mi ro'n i'n gwersylla mewn pabell fach i ddau a deffro un nos efo chwech o bobol wedi stwffio i mewn i'r babell. Ro'n i wedi cael fy ngwthio i fyny at ochor y babell ac ro'n i'n styc!

  • Huw Llywelyn Davies, a fagwyd yng Ngwauncaegurwen, ac sy'n byw bellach ym Mhentyrch, ar gyrion Caerdydd:


  • fgh Fy mhrofiad Eisteddfodol gorau oedd cael fy urddo i'r Orsedd ac ennill ddwywaith gyda chôr Cantorion Creigiau.

    O ran darlledu, y profiad gorau oedd y nos Sadwrn olaf yn Eisteddfod Llanbedrgoch gyda chystadleuaeth y Rhuban Glas yn uchafbwynt i'r cyfan. Roedd Bryn Terfel ac Annette Bryn Parri yn westeion gyda mi yn y stiwdio ac roedd yr awyrgylch yn wych.

    Yna, fe gyhoeddwyd mai'r tenor John Eifion oedd wedi ennill. Roedd Bryn ac yntau yn arfer canu deuawdau gyda'i gilydd, felly roedd yr awyrgylch yn ffantastig.

    Y profiad gwaethaf oedd ar nos Sadwrn ola'r Eisteddfod unwaith eto.
    Pum munud i mewn i'r darllediad byw fe sylweddolais ein bod wedi colli cysylltiad rhwng y stiwdio a'r sganer lle mae'r cyfarwyddwr. Yr unig beth o'n i'n ei glywed yn fy nghlust oedd beth oedd yn digwydd ar y llwyfan. Fe fuon ni felly am awr a hanner!

  • Alwyn Humphreys, o Ynys Môn yn wreiddiol sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd:


  • Alwyn Humphreys  - oddi ar glawr ei hunangofiant y mae newydd ei gyhoeddi gyda'r Lolfa Y profiad gorau ges i erioed oedd agor potel o siampen yn union ar ôl gorffen y marathon o wythnos o ddarlledu yng Nghasnewydd 2004 - y tro cyntaf i ddarllediadau o'r fath fod yn bosib!

    Y profiad gwaetha oedd gofyn cwestiwn hirfaith, cymhleth i arweinydd parti canu ynglŷn â'i waith fel arolygydd ysgolion. Yntau'n dweud na allai ateb y cwestiwn gan mai ffarmwr oedd o!

  • Rhun ap Iorwerth, o Landegfan yn wreiddiol sydd bellach yn byw yn Llangristiolus,Ynys Môn:


  • Rhun ap Iorwerth Fy mhrofiad gorau yn yr Eisteddfod oedd canfod fy rhyddid wrth gael mynd i'r Eisteddfod fy hun - heb fy rhieni - am y troeon cyntaf.

    Aros gyda ffrindiau mewn carafán yn Llanrwst, Cwm Rhymni a'r Wyddgrug, yn treulio dyddiau a nosweithiau yng nghwmni cannoedd o Gymry ifanc eraill tebyg i ni, a meddwl, 'dyma'r bywyd.'

    Fy mhrofiad gwaethaf oedd cyrraedd maes Eisteddfod Tyddewi am bump y bore mewn storm. Roeddwn yn cyflwyno'r Post Cyntaf ar Radio Cymru ar y pryd. Roedd hi'n dywyll, yn wyntog, ac yn bwrw glaw yn ofnadwy. Gorfod cystadlu wedyn gyda sŵn y gwynt drwy'r awr a hanner o raglen!

  • Sara Evans, o Gaerdydd:

  • Mae gen i lawer o atgofion melys iawn o wahanol eisteddfodau cenedlaethol - boed hynny'n gweithio yno, yn cystadlu neu'n mwynhau'r awyrgylch.

    Roedd perfformio fel teulu gyda Chwmni'r Gadwyn, dan gyfarwyddyd Emyr Edwards, yn Theatr Fach y Maes pan yn blentyn, yn brofiad anhygoel bob tro.

    Y profiad gwaethaf yw cerdded o gwmpas y Maes gyda Mam bob blwyddyn - mae'n cymryd tair awr o leia' i gwblhau'r siwrne, am ei bod hi'n 'nabod cymaint o bobl.
    Sori, Mam!

  • Gareth Wyn, o Fangor, sydd bellach yn byw yn Llundain:

  • Y profiad gorau ges i oedd pan o'n i tua phedair i bump oed pan wnes i gyfarfod Jeifin Jenkins ar y maes! Mae'r llofnod a'r llun dal gen i.

    Y profiad gwaetha' oedd gwynt a glaw mawr Eisteddfod Tyddewi.

    Ro'n i'n aros efo ffrindiau mewn carafán ac mi gawson ni ein deffro am bedwar o'r gloch y bore gan sðn y gwynt. Mi gafodd awning y garafán ei rwygo i ffwrdd a dyna le 'roeddan ni'n rhedeg o gwmpas y maes carafannau yn ceisio achub pethau oedd yn cael eu chwythu i ffwrdd.
    Ac mi roedd gennym ni ragbrofion yn gynnar y bore wedyn!

  • Mari Lovgreen, Mari Lovgreen Caernarfon:

  • Y profiad gorau yw gweld bandiau gwych dros y blynyddoedd fel Maharishi, Big Leaves, Anweledig a Frizbee yn diddanu cannoedd o Gymry ifanc.

    Y profiad gwaethaf ydy cerdded o gwmpas y Maes efo mam/dad/nain/taid a gorfod stopio i siarad efo pobol ddiarth wahanol bob pum cam!

  • Aled Hall o Bencader:

  • Y profiad gorau ges i oedd ennill Ysgoloriaeth Towyn Roberts a hynny ar fy mhedwaredd ymgais!

    Ro'n i'n falch iawn fy mod wedi ennill tra roedd Towyn Roberts yn fyw.

    Y profiad gwaetha' oedd Eisteddfod Abergwaun, a'r mwd! Ro'n i'n canu efo Côr Llanpumsaint a'r cylch. Roedd pawb yn eu welingtons ac yn trio cadw'n lân.

  • Gallwch fwynhau holl fwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol ar S4C digidol, S4C ac S4C2, gyda'r arlwy yn cynnwys cystadlaethau'r llwyfan, prif seremonïau ac uchafbwyntiau'r dydd yn ogystal â phortreadau o gystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn a digwyddiadau'r maes.

    Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 - Darllediadau byw a rhaglenni uchafbwyntiau ar S4C ac S4C digidol Darllediadau o'r Babell Lên ar S4C 2
  • Cynyrchiadau Ö÷²¥´óÐã Cymru ar gyfer S4C



  • sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý