Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Heini Gruffudd Gwahoddiad Cadeirydd Pwyllgor Gwaith
Mae'r llanw mewn yn Abertawe
  • gan Heini Gruffudd
    Ymdrochwch yn llawen.
    Ar ran pwyllgor gwaith eisteddfod Abertawe, mae'n bleser eich gwahodd i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r cylch - yr wythfed i'w chynnal yng nghyffiniau'r ddinas.

    Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yma yn 1863, a dilynwyd hon gan eisteddfodau 1891, 1907, 1926, 1964, 1980 ac 1982.

    Bu'r eisteddfodau hyn yn hynod lwyddiannus o ran cynnyrch llenyddol a cherddorol, a hefyd, a bu hyn yn bwysig i fawrion yr Eisteddfod, yn ariannol.

    Mae pob argoel na fydd eleni'n eithriad.

    Haeddu medalau
    Pan wnaeth steddfod 1863 elw, fe gymerodd aelodau'r pwyllgor dipyn ohono a rhoi medalau iddyn nhw'u hunain.

    Wel, mae'r pwyllgorau apêl lleol wedi codi rhyw £350,000, tua £75,000 mwy na'r targed, ond does neb ohonon ni wedi sôn am fedalau eto.

    Goreuon Cymru
    Ymfalchïo rydyn ni bod nifer y cystadleuwyr bron ym mhob maes yn cymharu'n dda ag Eisteddfod Eryri y llynedd, ac mae gwledd o gyngherddau wedi eu trefnu.

    Meddyliwch am Katherine Jenkins, Sian Cothi, Catrin Finch, Dewi Pws, Neil Rosser, Caryl a'r Band, Bob Delyn, Meic Stevens, Bryn Fôn, Frizbee, Genod Droog, Meinir Gwilym, a Huw Chiswell, fe welwch chi fod goreuon Cymru yn barod i'ch diddanu ar wahanol feysydd y steddfod - y prif faes, maes B a maes C.

    Dramau
    Colled fawr i'r Eisteddfod yn Abertawe yn ystod y flwyddyn a aeth heibio oedd marwolaeth Glyn Ellis, cynhyrchydd drama gyda Chymdeithas Drama Gymraeg Abertawe.

    Bydd y cwmni'n perfformio'r ddrama olaf a gynhyrchwyd ganddo.

    Ar y maes hefyd bydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iau Menter Cwm Gwendraeth, Cwmni Drama'r Gwter Fawr, a sawl cwmni arall, gan gynnwys rhai gan ysgolion lleol.

    Ym Mhontlliw bydd Theatr Bara Caws yn perfformio sioe fywiog.

    Canolfannau eraill
    Mae gwledd hefyd yn eich disgwyl mewn canolfannau adloniant eraill.
    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu Barons, yn Abertawe, clwb nos y cynghorydd o Gymro, Bill Hughes, a hefyd babell yn y Glamorgan Arms, lan yr heol o Bontlliw.

    Ym Mhontlliw hefyd bydd y maes carafanau, lle y bydd maes C eleni.

    Pafiliwn pinc a phethau eraill gwahanol!
    Mae yna rai pethau a fydd yn wahanol, gan gynnwys y pafiliwn pinc, wrth gwrs.

    Bydd sawl llwyfan perfformio ar y maes, a fydd yn rhoi cyfle i bawb fwynhau pob math o adloniant wrth gerdded o gwmpas, a bydd hyn, gobeithio, yn cyfrannu at droi pwyslais yr ŵyl rywfaint o gystadlu at fwynhau cerddoriaeth a dawns ar lwyfannau agored, heb un beirniad yn agos, ond y dorf.

    Dysgwyr
    Bydd maes D - pabell y dysgwyr- yn cael sylw mawr eleni ac yn eich wynebu pan ddewch chi i mewn i'r maes.

    A'r eisteddfod mewn ardal gymysg ei hiaith - cofiwch am y fro Gymraeg i'r gogledd o'r maes - mae'r gwaith a wneir gyda dysgwyr yn Abertawe yn rhan o ymdrech fawr adfer iaith.

    Llawenydd i bawb oedd penderfyniad cadarn Cyngor Abertawe ar Orffennaf 20 - o 36 pleidlais i 8 - i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg i 420 o blant yn West Cross, ger y Mwmbwls.

    Tybed fydd Jane Davidson, sydd wedi gwrthod datblygiadau ym maes addysg Gymraeg mewn mannau eraill, yn y de, yn caniatáu'r datblygiad hwn?

    Yr ardal
    Mae maes yr eisteddfod yn union ger traffordd yr M4, ger cyffordd 46, ond da chi, peidiwch â defnyddio hyn yn esgus i beidio treulio noson neu ddwy yn yr ardal.

    Dydyn ni ddim am rannu pob cyfrinach â chi am fro Gŵyr a gogoniannau'r ardal - rydyn ni am fwynhau'r rheiny ein hunain, ond ar ddiwrnod braf, ewch i'r traethau, neu i gopa Cefn Bryn neu i draeth orau'r byd yn Rhosili.

    Chwiliwch am yr hen eglwysi, y cestyll, a'r dyffrynnoedd coediog.

    Neu mentrwch i Fynydd y Gwair, neu'r Baran, chwiliwch am gylch meini Carn Llechart, Carreg Bica, ond rwy'n dechrau rhannu'r cyfrinachau nawr.

    Hen hanes
    Ym mhob rhan o'r ardal fe ddewch ar draws cysylltiadau â'n hen hanes: ogofâu Gŵyr, lle y canfuwyd esgyrn rhai o'n hynafiaid cynharaf, cestyll yr ymosododd y tywysogion a'r arglwyddi Cymreig arnyn nhw, olion hen ddiwydiannau a fu'n cynnal cymunedau diwydiannol Cymraeg, a mannau cysylltiedig â byddin o lenorion.
    Oes rhaid eu henwi?
    Rhydwen Williams, Pennar Davies, Saunders Lewis, Waldo Williams, Crwys, Dafydd Rowlands, Gwenallt, Niclas Glais, Gwyrosydd... mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

    Yr hyn sy'n rhyfedd i ni yn Abertawe yw bod dwy flynedd o waith caled, a fu'n fwynhad hefyd, ar fin diflannu mewn un wythnos o sbloet.

    Wrth edrych ar y llanw'n llenwi traeth Abertawe yn ystod y tes diweddar, rwy'n gwybod yn iawn bod llanw, a phenllanw, i'w fwynhau.
    Ymdrochwch yn llawen.



  • sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý