Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Eleri Sion - ar y soffa
Ö÷²¥´óÐã Cymru ar radio, teledu a'r we
Bydd Ö÷²¥´óÐã Cymru yn darlledu o'r Eisteddfod bob dydd ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, S4C ac ar-lein.

Er bod pafiliwn newydd yn Abertawe wynebau cyfarwydd fydd yn sicrhau y bydd gwasaneth y Ö÷²¥´óÐã o'r maes yn well nag erioed.

Wedi'r cyfan fyddai hi ddim yn 'steddfod heb Hywel Gwynfryn ac eleni mae o'n dathlu deugain mlynedd ers iddo weithio yn ei eisteddfod gyntaf.

i ddarllen am ddeugain mlynedd Hywel.

Y babell Lên
Mae newyddion arbennig o dda i holl ddilynwyr y Babell Lên eleni - am y tro cyntaf erioed bydd modd gwylio holl ddigwyddiadau ar S4C trwy wasgu'r botwm coch. Bydd camerau Ö÷²¥´óÐã Cymru yno'n darlledu'n fyw o'r babell o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ac fe fydd yna hefyd we ddarlledu byw o'r llwyfan.

Yn y Babell Lên hefyd y cynhelir gornest derfynol Talwrn y Beirdd Radio Cymru ddydd Sadwrn ac fe'i darlledir nos Sul (Awst 6).

Jonsi a Grav
Jonsi sy'n cadw cwmni i'r rhan fwyaf o'r genedl ben bore ond, yn ardal y de-orllewin, Grav 'West is Best' sy'n darlledu am 8.30am. Bydd cyfle i eisteddfotwyr Abertawe gael blas ar raglen foreol Ray Gravell wrth iddyn nhw wrando ar Radio Cymru yn yr ardal.

Bydd y ddwy raglen yn cael eu darlledu'n fyw o babell Ö÷²¥´óÐã Cymru ar y maes (Llun-Gwener, Awst 7-11). Ar y soffa
Eleri Siôn fydd yn cadw'r soffa'n gynnes yn y stiwdio wrth i westeion arbennig ymuno â hi i drafod y cystadlu a digwyddiadau'r brifwyl.

Caiff person ifanc gwahanol y cyfle i ymuno â hi bob diwrnod i gyflwyno adroddiad o'u heisteddfod hwy.

Bydd Magi Dodd a'i sodlau uchel yn crwydro'r maes a Nia Lloyd Jones yn fyw o gefn llwyfan.

Tocyn wythnos
Beti George fydd yn edrych yn pwyso a mesur digwyddiadau'r diwrnod yn Tocyn Wythnos (Sadwrn-Gwener, Awst 5-11) a bydd cyfle i glywed barn ambell i feirniad answyddogol yn ogystol â sgwrs ag enillwyr y prif seremoniau a danteithion o'r Babell Lên.

Ar S4C
Yn cadw cwmni i wylwyr S4C fydd Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Evans a fydd yn dilyn y cystadlu ar y llwyfan gan ddarlledu'r holl berfformiadau a'r beirniadaethau'n fyw tra bydd Shân Cothi a Gareth Wyn yn profi'r cyffro tu cefn y llen. fgh

Hel clecs a newyddion y dydd o gylch y maes fydd Tara Bethan a Mari Lovegreen.
Gyda'r nos bydd cyfle i fwynhau rhaglen o uchafbwyntiau wrth i Rhun ap Iorwerth fwrw golwg yn ôl ar ddigwyddiadau'r dydd.

Oedfa'r Bore
Ar y Sul agoriadol yr Eisteddfod bydd Cymry o bob cwr o'r wlad yn dod ynghyd am Oedfa'r Bore.

Thema'r oedfa fydd Cenedl, Cymuned a Chyfiawnder a cheir myfyrdod gan yr Archesgob Rowan Williams a chyflwyniadau gan bobl ifanc Ysgolion Sul yr ardal a Chôr yr Eisteddfod dan arweiniad Alun Tregelles Williams.

Ef hefyd fydd yn arwain Cymanfa Ganu'r Eisteddfod gyda'r hwyr.

Bob bore ar y Post Cyntaf bydd Gwilym Owen yn cymryd ei olwg arbennig ei hun o hynt a helynt yr
Å´yl a bydd y sgyrsiau hynny ar gael i'w darllen wedyn ar y wefan hon.

Os na fedrwch chi gyrraedd safle'r eisteddfod eleni peidwich â phryderu - chollwch chi ddim gyda Ö÷²¥´óÐã Cymru! Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru bbc.co.uk/radiocymru
  • Eisteddfod Genedlaethol, Sadwrn, Awst 5, 2pm; Sul, Awst 6, 3pm; Llun-Gwener, Awst 7-11,11am a 2pm
  • Tocyn Wythnos, Sadwrn, Awst 5, 6.30pm; Llun-Gwener, Awst 7-11, 6.15pm
  • Oedfa'r Genedlaethol, Sul, Awst 6, 11.30am
  • Y Talwrn, Sul, Awst 6, 5.15pm
  • Cymanfa'r Eisteddfod, Sul, Awst 6, 8pm
  • Grav/Jonsi, Llun-Gwener, Awst 7-11, 8.30am

    Ö÷²¥´óÐã Cymru ar S4C
  • Eisteddfod Genedlaethol 2006
  • Sadwrn, Awst 5, 4pm a 8.30pm; Sul, Awst 6, 12pm, 4.15pm a 7.15pm
  • Llun, Awst 7, 3pm a 8.50pm; Mawrth, Awst 8, 2.45pm a 8.50pm
  • Mercher, Awst 9, 2.45pm a 6.45pm; Iau, Awst 10, 2.45pm a 8.25pm
  • Gwener, Awst 11, 2.30pm, 6.30pm a 9.30pm
  • Oedfa'r Bore:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 10.30am
  • Cymanfa Ganu:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 8pm

  • Gwell nag erioed ar y we
  • Steddfodau da a drwg
  • Deugain mlynedd Hywel


  • sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý