Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seremoni y llynedd Cymry tramor - derbyniad yn lle seremoni
Gwrthwynebiad yn dal i ffrwtian
Er na fydd seremoni i groesawu Cymry tramor ar lwyfan y Brifwyl yn Abertawe eleni mae'r mudiad a fu'n cynnal y seremoni honno yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun i groesawu tramorwyr ar y pnawn Iau traddodiadol.

Dywedodd llefarydd Undeb Cymru a'r Byd y bydd derbyniad rhyngwladol arbennig ym mhabell Capital Cuisine am dri o'r gloch.

Yno, bydd Arweinydd y Cymry Tramor, Dr Philip Davies, yn cael ei arwisgo a Chymry o dramor yn cael cyfle i hel atgofion.

"Mae'n bwysig fod unrhyw un sydd eisiau bod yn bresennol yn cofrestru ym mhabell yr Undeb ar y maes cyn gynted â phosibl yn ystod yr wythnos," meddai J Bryan Jones, ysgrifennydd Undeb Cymru a'r Byd.

Disgwylir hefyd y bydd y penderfyniad i ddileu'r seremoni draddodiadol wedi bod yn bwnc trafod yng nghyfarfod blynyddol yr Undeb ym Mhabell y Cymdeithasau am 12.30 ddydd Iau yn dilyn darlith flynyddol yr Undeb a draddodir eleni gan y Dr Jerry Hunter am 11.30.

Seremoni 'amherthnasol'
Penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod yn gynharach eleni, mewn cyfarfod yn Aberystwyth, ddileu y seremoni draddodiadol i groesawu Cymry tramor a gynhaliwyd gyntaf ym Mhenybont-ar-Ogwr bron iawn i drigain mlynedd yn ôl yn 1948.

Daeth y penderfyniad yn dilyn bron i dair blynedd o drafod gydag Undeb Cymru a'r Byd ac ymdrechion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i newid rhywfaint ar ffurf y seremoni.

Ond, gyda'r seremoni yn denu llai a llai o gynulleidfa a beirniadaeth arni am fod yn "amherthnasol" i'r cyfnod presennol acyn hen ffasiwn yr oedd pleidlais y Cyngor bron iawn a bod yn unfrydol dros ei dileu.

Teimladau cryfion dramor
Er yn derbyn y penderfyniad ac yn croesawu gwahoddiad gan yr Eisteddfod i arweinydd y Cymry tramor fod yn bresennol yng Nghymanfa Ganu y Brifwyl ar y nos Sul ac i fod ar y llwyfan gyda chynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn ystod defod y Coroni ddydd Llun dywedodd Cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd, Deiniol Wyn Price, ei fod ef yn ymwybodol o siom aruthrol ymhlith Cymry mewn sawl gwlad dramor.

"Mae'r penderfyniad wedi denu ymateb ffyrnig o du rhai Cymry tramor nid lleiaf arweinydd y seremoni y llynedd, John O Pritchard o Vancouver Canada," meddai Mr Price.

"Mae llythyrau ffyrnig o Ganada, America a Seland Newydd yn y rhifyn presennol o'n cylchgrawn Yr Enfys," ychwanegodd.

Mater o arian
Yn un o'r llythyrau hynny mae John O Pritchard yn rhybuddio y gall dileu'r seremoni beri i rai cyfranwyr o dramor feddwl ddwywaith cyn noddi'r Eisteddfod.

Ac mewn llythyr hynod o finiog dywed Keith Davies Jones, sy'n feddyg yn Winnipeg yng Nghanada, y bydd ef yn mynychu Eisteddfod yr Wyddgrug y flwyddyn nesaf gan wybod y bydd croeso i'w arian - os nad iddo ef!

Mae e'n gwrthod y darlun o Gymry tramor fel bradwyr sydd wedi troi eu cefnau ar eu gwlad trwy ddweud i lawer gael eu gorfodi dramor er mwyn cael gwaith.


Mwy o storiau Dydd Llun

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý