Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dewi Pws Mawredd Mawr - Dewi Pws a'r Archesgob
  • Ymhlith y gynulleidfa yn Noson Mawredd Mawr yr oedd Aled Edwards. Dyma ei ymateb i "Noson Dewi Pws".

    Cliciwch i weld cyfres o luniau

    I sawl eisteddfodwr brwd o'r Saithdegau a'r Wythdegau fe ddechreuodd yr Eisteddfod yn Abertawe â chyferbyniad.

    Daeth yr Archesgob Rowan Williams, barfog, yn ei gasog ddu i herio' dorf Sabothol.
    Nos Lun fe ddaeth yr anhygoel Dewi Pws moel yn ei overall, ei grys-T glas a'i het gron ddu i ddiddanu'r un dorf dan y canfas pinc.

    Go brin y bydd yn dechrau ffasiwn newydd.

    Aros yn y cof
    Fel eiconau gwahanol cyfnod arbennig i wahanol bobl, safodd y ddau ddyn allan.

    Eleni fe arhosodd cyfraniad un fwy yn y cof i mi na'r llall - Dewi Pws.

    Roedd y noson a gafwyd i ddathlu ei gyfraniad yn llawer mwy o hwyl hefyd. Roedd y jôcs -hyd yn oed am rechu - yn ysgafn amrwd ond yn gofiadwy ddoniol.

    Bu dynwared Rolff Harris a Rhodri Morgan druan fel tameidiau rhwng prydau'r caneuon yn ffordd dda o gynnal rhediad y noson.

    Hyfrydwch pennaf Mawredd Mawr a'r noson a gafwyd i ddathlu cyfraniad Dewi Pws dros sawl degawd oedd y llu o sêr:
    Bryn Fon,
    Huw Chiswell,
    Clive Harpwood,
    Linda Healey,
    Heather Jones,
    Sioned Mair
    a'r anhygoel Stuart Cable - a ddaeth i ganu caneuon mwyaf adnabyddus Tebot Piws ac Edward H Dafis.

    Plant ei ysgol
    Ymysg sêr pennaf y noson fe gafwyd plant ysgol ei febyd, Ysgol y Lôn Las.

    Roedd cyfraniad y plant yn rhyfedd allweddol i rediad y noson. Nid yn unig oherwydd iddyn nhw bontio sawl cenhedlaeth ond oherwydd iddyn nhw ddatgelu yn y modd mwyaf diymhongar athrylith rhai o eiriau Dewi Pws.

    Weithiau, daw gwir werth celfyddyd unigolion - hyd yn oed y clown - i'r wyneb ond wedi i'w gwaith gael ei fynegi a'i ddehongli gan eraill.

    O dan y sbort a'r het ddu gron, y sôn am ddwyn trwynau a mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog, fe gafwyd crybwyll arwyddocâd nwy yn y nen a mynd yn ôl i'r Gorllewin.

    Mewn munud cwbl gofiadwy ar ddiwedd y noson, gofynnwyd i'r dorf sefyll yn dawel i weld a chlywed clip o'r diweddar Tich Gwilym yn chwarae Hen Wlad fy Nhadau.

    Dweud llawer
    Fe ddywedodd cynnwys y darn rhyfeddol hwn lawer am y dyn a geir o dan yr het ddu gron a'r overall glas.

    Nid mynd i ddeall Dewi Pws yn well wnaeth y gynulleidfa a gafwyd yn y pafiliwn nos Lun ond i'w fwynhau.

    Byddai deall rhywbeth am Dewi Pws yn dipyn o gamp.
    Peth rhwydd oedd ei fwynhau.


  • Mwy o storiau Dydd Mawrth

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý