Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Philip Davies Gwyddonydd yn arwain y Cymry tramor
Gwyddonydd o New Jersey yr Unol Daleithiau yw arweinydd y Cymry tramor eleni
Bydd arweinydd y Cymry o dramor ymhlith y gynulleidfa yn y Gymanfa Ganu ym mhafiliwn yr Eisteddfod nos Sul.

Mab fferm o Sir Gaerfyrddin yw'r Dr. Philip Davies - ac mae ei wraig, Meril, sy'n athrawes, hefyd o'r un sir ond y ddau wedi teulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn New Jersey Yr Unol Daleithiau.

Wedi graddio yn Ysgol Meddygaeth Cymru treuliodd Philip Davies ddwy flynedd o 1968 hyd at 1970 Yn Gymrawd Fferyllol ym Mhrifysgol Efrog Newydd.

Fferylliaeth
Wedi cyfnod yn Llundain lle ganwyd eu dau fab, Ian a Graham, dychwelodd y teulu yn ôl i'r Unol Daleithiau yn 1975 pan benodwyd Philip Davies i swydd gyd Merck Pharmaceuticals yn Rahway, New Jersey.

Ym maes Fferylliaeth y gwnaeth ei farc dros y blynyddoedd.

Yn yr Unol Daleithiau y ganwyd eu merch, Carys, sydd ar hyn o bryd yng Ngholeg Lesley (Havard) Caergrawnt, Boston, MA.

Mae Ian yn Gyfarwyddwr gyda Novartis Pharmaceuticals yn New Jersey a Graham yn bensaer gyda HOK International, yn gweithio yn Llundain ac yn Efrog Newydd.

Er iddo ymddeol yn 2003 mae'r Dr Davies yn parhau yn weithgar yn ei faes ac yn ymgynghorydd rhan amser i Merck

Mae hefyd yn llywydd gyda Grŵp Terosin, Santa Barbara.

Gweithgar ymhlith y Cymry
Gydol ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau bu Philip Davies yn weithgar iawn ymhlith Cymry tramor. Bu'n llywydd a thrysorydd Cymdeithas Cymraeg Canolbarth, New Jersey ac yn Gyfarwyddwr Bwrdd Sefydliad Cenedlaethol Cymru America.
Ef yw Llywydd-Gadeirydd y Sefydliad am y ddwy flynedd nesaf.

Mae hefyd yn Is-Lywydd Côr Cymreig Gogledd America sy'n cael ei arwain gan Mari Morgan, a oedd yn arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod 2000 yn Lanelli.

"Mae Philip yn ŵr bonheddig, balch o'i wreiddiai ac yn dal i weithio i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau," meddai J Bryan Jones, Ysgrifennydd Undeb Cymru a'r Byd.

"Mae bob amser yn hyrwyddo etifeddiaeth Cymru ble bynnag mae'n ymweld ag ef - ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau," meddai.

Ar y llwyfan
Bydd Dr Davies yn bresennol yn y Gymanfa nos Sul yr Eisteddfod ac ar y llwyfan yn ystod defod y Coroni bnawn Llun.

Ddydd Iau, mewn derbyniad rhyngwladol a drefnir gan Undeb Cymru a'r Byd, bydd yn cael ei arwisgo'n swyddogol yn arweinydd yr ymwelwyr a chyfeillion o dramor.

"Wedi cael y fraint i ymuno droeon gyda'r grŵp anrhydeddus hwn dros y blynyddoedd rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos," meddai'r Dr Davies.

Er yn gofidio i'r seremoni groesawu draddodiadol ar lwyfan y brifwyl ddydd iau ddod i ben dywedodd:
"Rwy'n gobeithio y bydd na ffyrdd o greu awyrgylch fydd yn rhoi'r ymdeimlad nad yw'r newid yn mynd i amharu o gwbwl ar y croeso i'r tramorion ar y Maes."


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý