Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cefin Roberts Yr Orsedd - cynhyrchiad Cefin
Does dim rhaid i ddarllenwyr Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd aros tan ddydd Llun cyn cael gwybod pwy fydd bardd Coronog Abertawe 2006.
Gallwn ddweud wrthych yn awr - a datgelu hefyd i'n gohebydd fod yn un o gynulleidfa ddethol a welodd y bardd arobryn yn cael ei goroni - bnawn Gwener diwethaf.

O'r llwyfan, yn llewys ei grys, galwodd yr Archdderwydd, Selwyn Iolen, ar Wil Cwac Cwac i godi ar ei draed a gwelwyd Meistres y Gwisgoedd - yn ei dillad bob dydd - yn cyrchu William Chwadan Thomas o Gwmrhydychwadod i'r llwyfan i'w goroni.

Ond mewn gwirionedd dydi hon fawr o sgŵp eisteddfodol gan mai ymarfer ar gyfer dydd Llun yr oedd yr Archdderwydd.

Cyfarwyddwr artistig
Ac eto, nid yr ymarfer arferol mo hwn gan fod yr Archdderwydd, merched y ddawns flodau, cyflwynydd yr aberthged a'r corn hirlas ac yn y blaen yn mynd drwy'u pethau dan lygaid broffesiynol cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts, yn gwisgo trowsus oedd yn ymylu ar fod yn theatraidd ei hun.

Oedd, yr oedd y gynulleidfa denau o rhyw ddeg ar hugain a eisteddai yn lled dywyllwch y pafiliwn yn dystion i ymarferion cynhyrchiad diweddaraf Cefin o "Y Coroni - Y Seremoni" gydag "Y Fedal Ryddiaith - Y Seremoni II" ac "Y Cadeirio - Y Seremoni III" i ddilyn ddyddiau Mercher a Gwener!

Hapnod arall?
O glywed i'r Orsedd alw ar Cefin - ein cyfarwyddwr dawns a chân gorau fel cenedl, heb os - i 'ddiwygio' seremonïau'r Orsedd bu cryn ddyfalu beth fyddai'n digwydd - yn enwedig ymhlith y rhai hynny sy'n dal i gofio'r gyfres fyrlymus, Hapnod yn nyddiau cynnar S4C.

Mae gan y Steddfod yn barod 'glwb cant' o'r enw Hapnod ai seremonïau gorsedd o'r un enw fyddai'r dyfodol gyda a'r archdderwydd yn cicio'i goesau yn yr awyr?

Parch i draddodiad
Ond sylwadau digon ceidwadol oedd rhai Cefin wrth siarad a'n gohebydd gan bwysleisio mai tynhau fan hyn a thocio fan draw y bydd ef yn hytrach na mynd ati i chwyldroi'r seremonïau.

"Yr ydw i yn un sy'n parchu traddodiad," meddai. "Ond mae lle i dacluso a chael y seremonïau i redeg yn well. A chael gwared â rhannau lle nad oes rhywbeth yn digwydd. Cyflymu pethau achos dydi cynulleidfaoedd heddiw ddim yn lecio pethau araf."

Ychwanegodd mai ei flwyddyn gyntaf fel rhan o gynllun sy'n parhau am dair blynedd yw hwn.

Yn plesio
A bydd yn rhaid i ninnau ddisgwyl tan y premiere ddydd Llun o "Y Coroni - Y Seremoni - Cynhyrchiad Newydd Cefin Roberts" i weld a fydd y newidiadau bychain y bydd yn eu cyflwyno yn plesio'r gynulleidfa.

Brwdfrydedd heintus
Un peth sy'n sicr, yr oedd brwdfrydedd y cynhyrchydd yn heintus yn ystod ymarfer dydd Gwener gyda Cefin ein hun yn chwarae sawl un o'r rhannau 'walk on' megis cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd, Arweinydd y Cymry Tramor, llafarganwr Gweddi'r Orsedd, yr utganwyr - ac hyd yn oed yr utgyrn!

Pnawn difyr y bydd hyd yn oed Theatr Fach y Maes yn cael trafferth rhagori arno!

  • Cliciwch i weld lluniau

  • Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý