Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Arddangosfa gelf
Bydd gwaith artistiaid sy'n cael eu disgrifio fel "rhai o artistiaid gweledol gorau Cymru" i'w weld ym Mhafiliwn Celfyddydau Gweledol Eisteddfod 2006 yn Abertawe.

Mae gweithgareddau'r pafiliwn yn cael ei drefnu mewn cydweithrediad a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd y Cyngor mai ei nod yn Abertawe yw "addysgu ac ysbrydoli pobl o bob" ac i'r diben hwnnw cynhelir gweithdai yn amrywio o sesiynau creu i berfformiadau dawns, cynyrchiadau theatr, darlithoedd am gerddoriaeth a darlleniadau.

Hefyd, bydd tîm o dywysyddion i helpu pobl ddeall a gwerthfawrogi'r gwaith.

Meddai Peter Tyndall, Prif Weithredwr CCC:
"Bwriadwn i'n gweithgarwch yn yr Eisteddfod eleni gyflawni dau brif nod: rhoi sylw i'r cyfoeth rhyfeddol o gelfyddydau ac ymarferwyr yn y maes sydd i'w cael yng Nghymru a rhoi cyfle i ymwelwyr â'r Eisteddfod gymryd rhan yn y broses o greu celf."

Ychwanegodd mai'r gobaith yw y bydd ymwelwyr â'r arddangosfa yn ymweld a chanolfannau celf eraill o fewn yr ardal.

"Hyderwn y bydd yr ymwelwyr a ddaw i ardal yr Eisteddfod yn mynd ati i ddarganfod y cyfoeth o ganolfannau a gweithgareddau celfyddydol sydd i'w cael yn y fro hon.

"Mae'r rhain yn amrywio o Oriel Mission ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe i weithgareddau celfyddydol a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe, Neuaddau Lles y Gweithwyr yn Ystradgynlais a Rhydaman, Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Theatr y Grand, Abertawe - ceir arddangosfa, digwyddiad neu berfformiad at ddant pawb yn y mannau hyn,".meddai.

Ateb cwestiynau
Bydd y tîm o dywysyddion yn y pafiliwn celf a chrefft yn yr Eisteddfod ar gael drwy'r wythnos i ateb cwestiynau a thywys pobl o gwmpas yr arddangosfa gan gychwyn gyda'r agoriad swyddogol am 6.30pm ddydd Sadwrn Awst 5 gydag Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon a Syr Roderick Evans yn bresennol.

Wrth edrych ymlaen at yr arddangosfa dywedodd Alun Pugh: "Mae'r drafodaeth a'r sylwadau a ysgogir gan yr Arddangosfa Gelf Weledol bob blwyddyn yn brawf o ddiddordeb pobl Cymru yn y celfyddydau. Rwy'n falch dros ben y bydd y Pafiliwn Celf eleni'n rhoi cyfle pellach i bobl ymwneud â'r celfyddydau drwy ddarparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu creadigrwydd personol ymhellach a rhoi cyfle iddynt gwrdd ag artistiaid a dysgu am y broses greadigol."

Bydd y gweithgareddau yn y Pafiliwn Celfyddydau Gweledol yn amrywio o weithgareddau creu i bobl ifanc fel ymateb i waith a welir yn yr arddangosfa i gyfleoedd i ymwelwyr bori ar wefan newydd Cynulleidfaoedd Cymru www.whatsonwales.co.uk sy'n rhestru'r digwyddiadau celfyddydol a gynhelir ym mhob cwr o Gymru.

  • Fel rhan o'r arddangosfa yn y pafiliwn eleni, mae dau artist yn dathlu traddodiad gwydr lliw Abertawe sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, - yr artist cysyniadol, Tim Davies, enillydd y Fedal Aur am Gelf Gain ym Meifod yn 2003 ac enillydd gwobrau yn 1994 ac 1995, a'r artist gwydr lliw, Catrin Jones, a enillodd y wobr gyntaf am wydr pensaernïol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1980 ac 1982.

    Fe fuo nhw yn ymchwilio "i gysyniadau ehangach golau, lle a lliw" wrth gynllunio'r arddangosfa.


  • Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý