Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mudiad Ysgolion Meithrin Pasiant 300 o blant
Ar y llwyfan fore Sul
Bydd dros 300 o blant rhwng dwy a phedair oed yn cymryd rhan mewn pasiant arbennig ym mhafiliwn yr Eisteddfod am 11.30 fore Sul, Awst 6.

Mae'r plant yn mynychu cylchoedd ac unedau meithrin ysgolion Cymraeg rhanbarth Abertawe a threfnwyd y pasiant, sy'n dilyn yn syth ar ôl oedfa'r bore, gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Meddai Catrin Stevens, cyd-awdur y cynhyrchiad Fi a Fy Ffrindiau ar Lan y Môr:
"Mae'r caneuon a ddewiswyd yn cyd-fynd â thema'r Ŵyl Feithrin eleni sef Fy ffrindiau a Fi. Mae'r plantos wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad."

Bydd y plant, o 18 o gylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi ac ysgolion cynradd Cymraeg Abertawe, ar y llwyfan am tua hanner awr a bydd parti i ddathlu'r pasiant yn uned S4C yn syth wedi'r perfformiad.

Yno bydd pob un gymerodd ran yn derbyn pecyn o nwyddau â thystysgrif

Meddai Catrin Thomas, y cynhyrchydd:
"Bydd dau westai arbennig iawn yn ymweld â ni yn ystod y Pasiant gan ymuno yn yr hwyl, yn canu a dawnsio ar lwyfan y Pafiliwn a fydd yn llawn lliw. Bydd yn brofiad bythgofiadwy i'r plant a'u teuluoedd."

  • Y cylchoedd meithrin a'r cylchoedd Ti a Fi sy'n cymryd rhan yw: Y Mwmbwls; Sgeti; De Gŵyr; Gendros; Treboeth; Treforys; Llangyfelach; Clydach; Trebanws; Parc y Werin; Penllergaer; Y Login Fach; Penclawdd; Lôn Las; Llansamlet; 'Lots of Tots' (meithrinfa ddydd, Tairgwaith); Felindre; Pontarddulais; Ysgolion Llwynderw, Brynymor, Tirdeunaw, Pontybrenin, Y Login Fach, Bryniago a Felindre.


  • Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý