Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dyfed yn ymddeol
Ugain mlynedd o redeg Stafell y Wasg
Yr oedd hyd yn oed yr hen hacs sinigaidd sy'n selog fynychu Ystafell y Wasg yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan deimlad wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ddirwyn i ben.

Hacs sinigaidd geiriau a lluniau yn gorfod cydnabod pang o emosiwn a phigiad teimlad wedi i gyfaill ddweud ei fod yn cadw'i bensil steddfodol ac yn ildio'i orsedd ym mhen pellaf yr ystafell.

Bu sibrydion ers dechrau'r wythnos mai hon fyddai "Steddfod ddwytha Dyfed" fel Swyddog y Wasg gwirfoddol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwyddai ambell un ohonom yn well; a bod y sibrydion, yn anffodus, yn wirionedd - er bu'n rhaid disgwyl tan fore Gwener am y cyhoeddiad swyddogol a derbyniad teimladwy yn un o bebyll y maes.

Dros ugain mlynedd
Bu Dyfed Evans o Bencaenewydd ger Pwllheli yn gwneud y gwaith gwirfoddol hwn ers dros ugain mlynedd gyda'i briod, Doris, yno hefyd gydol y blynyddoedd yn cynnal ei freichiau.

Gwaith a olygai redeg ystafell y wasg yn ystod wythnos yr Eisteddfod a sicrhau fod canlyniadau pob cystadleuaeth wedi eu gosod ar y wal o fewn munudau i draddodi'r feirniadaeth i'w cyhoeddi drennydd mewn papurau newydd.-

Mae'n ystrydeb dweud na fydd rhyw sefydliad byth yr un fath eto wedi i rhyw unigolyn ei adael. Yn achos Dyfed a Doris mae'r ystrydeb yn ffaith a fydd Ystafell y Wasg byth yr un fath eto.

Maen nhw'n sôn am gael sgrîn yn ei le o i ddangos canlyniadau. Ond waeth ichi heb na gofyn i sgrîn roi canlyniad funud neu ddau ynghynt ichi am eich bod ar frys.

Na gofyn iddo ydi hi'n wir fod un cystadleuydd yn perthyn i wraig y beirniad.

Fydd sgrîn ddim yn medru dweud wrthych chi chwaith pwy oedd taid yr ymgeisydd ddaeth yn ail ac iddo fo faglu yn y mwd yn Eisteddfod Lle a'r Lle ar ei ffordd i gystadlu ar yr un gystadleuaeth yn eisteddfod wleb Un Naw bechingalw.

Fydd sgrin, chwaith ddim yn medru gweiddi arno chi gau'r drws ar eich hol!

Adnabod y Steddfod
Gan fod cysylltiad Dyfed a'r Eisteddfod yn ymestyn yn ôl lawer iawn mwy nag ugain mlynedd ei ddyletswyddau yn ystafell y Wasg mae'n adnabod eisteddfotwyr yn well na neb.

Ar ben hynny mae'n gwybod pa ochr i ba stori sy'n mynd i apelio at ba ohebydd. Wedi'r cyfan nid yr un yw gofynion Y Cymro, dyweder, a rhai'r Daily Post y Western Mail neu pa bynnag un yw papur lleol bro'r brifwyl o flwyddyn i flwyddyn.

Dim rhyfedd ei fod yn deall onglau straeon - bu'n ohebydd ei hun am flynyddoedd yn riportio'r Genedlaethol, a Chymru, ar gyfer Y Cymro ers ei benodi'n ohebydd gan y diweddar John Roberts Williams.

Mae'n cofio'r Brifwyl yn cael ei mynychu gan fawrion y wasg Gymraeg a Fleet Street pan oedd o'n ohebydd ifanc: Hannan Schwafer ac E Morgan Humphreys a Charadog Prichard yn ff'reta straeon am y gorau.

A phapurau mor amrywiol a'r Mirror a'r Telegraph a'u seddau eu hunain ym mlaen y pafiliwn - ond y ddwy sedd orau wedi eu neilltuo i'r Cymro a'r Faner.

Troi'n athro
Yr oedd Dyfed yn dal yn ohebydd ar Y Cymro pan ddechreuais i ar y papur ac rwy'n dal i gofio ei 'gopi' mewn llawysgrifen pensil yn cyrraedd drwy'r post - a'r un yw ei ddull o gyfansoddi hyd yn oed heddiw, ac yntau'n awr, yn un o olygyddion papur bro Y Ffynnon; gyda phensil - a rwber wrth law i ddileu unrhyw gamgymeriad.

Er iddo adael newyddiaduraeth broffesiynol ddiwedd y chwedegau i'w hyfforddi'n athro mae'r inc yn dal yn y gwaed a'r hwyliogrwydd newyddiadurol yn parhau.

Ond er i gysylltiad Dyfed ag ystafell y wasg ddod i ben mae'n cynllunio'n barod ar gyfer mynychu Eisteddfod Yr Wyddgrug y flwyddyn nesaf.

"Yno, mi gai dreulio mwy o amser yn y Babell Lên a gwneud y petha yr ydw i eisiau eu gwneud mewn steddfod. Mi rydw i'n edrych ymlaen," meddai.

Ac mae'n llawn haeddu'r hamdden i gael gwneud hynny.
Ond Duw a ŵyr sut y down ni ymlaen hebddo fo.

Ar gyfer dweud gair mewn cyfarfod lle cyflwynodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, anrheg iddo gan yr Eisteddfod a ni'r newyddiadurwyr, lluniais y llinell: "I Dyfed mae ein dyled".
Llinell sydd cyn gywired mewn ffaith ag yw hi o wallus ei chynghanedd.

Does ond diolch fod Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg wrth law hefyd i lunio dau englyn i Dyfed a Doris - a'r rheini yn englynion cywir o ran ffurf yn ogystal â chynnwys.

Diolch Dyfed.
Glyn Evans

Mwy o storiau Dydd Sadwrn

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý