主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Derbyn Cymrawd newydd

31 Gorffennaf 2007

R Alun Evans

R Alun Evans yw'r diweddaraf i dderbyn anrhydedd uchaf yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd cymrawd newydd yn cael ei urddo mewn seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bnawn heddiw.

Ond ni fydd llwyfan y Brifwyl yn lle dieithr i'r cyn ddarlledwr, R Alun Evans, gan iddo fod yn arweinydd llwyfan nid yn unig yn y Genedlaethol ond yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen hefyd.

Bydd yn cael ei dderbyn yn Gymrawd gan lywydd llys yr Eisteddfod, D Hugh Thomas, am chwarter wedi pedwar o'r gloch cyn seremoni'r coroni.

Anrhydedd uchaf

Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod Genedlaethol ei rhoi a chyda dim ond pum cymrawd yn bosibl ar unrhyw un adeg bydd R Alun Evans yn ymuno ag Aled Lloyd Davies, Gwilym E Humphreys, James Nicholas ac Alwyn Roberts.

Cyflwynir yr anrhydedd fel cydnabyddiaeth o wasanaeth i'r Brifwyl dros gyfnod maith.

Yn y gorffennol bu R Alun Evans yn Llywydd Llys yr Eisteddfod ac yn Gadeirydd Cyngor yr 糯yl.

Yn frodor o Lanbryn-mair daeth yn un o ddarlledwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar radio a theledu gan gyflwyno prif raglen nosweithiol y 主播大秀 yn ei dydd, Heddiw.

Dechreuodd ddarlledu yn 1955, pan oedd yn y Brifysgol ym Mangor, ond i'r weinidogaeth yr aeth cyn dod yn ddarlledwr llawn amser.

Fe'i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Seion yr Annibynwyr yn Llandysul yn 1961 - yr un flwyddyn ag y priododd ef a Rhiannon Morris o Geredigion a oedd yn athrawes yn Sir y Fflint ar y pryd.

Eu merch yw Betsan Powys sy'n awr yn ohebydd gwleidyddol gyda'r 主播大秀 yng Nghymru ac yn gyflwynydd y fersiwn Gymraeg o Mastermind.

Mae eu mab, Rhys, yn gyfarwyddwr rhaglenni teledu.

Sylwebydd cyntaf

Yn ystod ei yrfa ddarlledu R Alun Evans oedd y sylwebydd p锚l-droed cyntaf erioed ar Radio Cymru.

Erbyn ei ymddeoliad, ef oedd pennaeth y 主播大秀 ym Mangor.

Wedi ymddeol dychwelodd yn fyfyriwr i'w hen goleg ym Mangor gan ennill doethuriaeth am ei astudiaeth o ddechreuad a datblygiad darlledu yn y gogledd.

Yn 2000 symudodd ef a Mrs Evans i fyw yng Nghaerdydd. Derbyniodd alwad y flwyddyn wedyn i fod yn weinidog eglwys Bethel Caerffili lle mae'n dal i fugeilio.

Mae'n awdur tri llyfr, un am y darlledwr arloesol, Sam Jones, un am enillwyr Y Rhuban Glas rhwng 1943 a 2000 a'r trydydd am Iorwerth C Peate yn y gyfres Bro a Bywyd.

Dechrau yn Sir y Fflint

Bu ei 'yrfa' eisteddfodol yr un mor gyfoethog 芒'i yrfa mewn darlledu.

"Fel mae'n digwydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint yn 1969 yr oeddwn i'n arweinydd llwyfan gyntaf erioed," meddai pan gyhoeddwyd gyntaf mai yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau eleni y byddai'n cael ei urddo'n Gymrawd.

"Dyma yr anrhydedd fwyaf y gall yr Eisteddfod ei chyflwyno i unrhyw un ac yn naturiol rwyf yn ei gwerthfawrogi'n fawr iawn," meddai.

Bu hefyd yn arweinydd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen am chwarter canrif.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy