主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Darlunio teulu ar chwal

8 Awst 2007

Enillydd y Fedal Ryddiaith

'Y teulu mwyaf dysfunctional erioed mewn nofel Gymraeg'

Dywedodd awdur cyfrol y fedal Ryddiaith fod elfen hunangofiannol yn y gwaith.

Fel tad prif gymeriad y nofel Rhodd Mam yr oedd ei thad hithau yn dioddef at effeithiau'r Ail Ryfel meddai Mary Annes Payne o'r Dwyran, -Ynys M么n.

Tywyllwch a hiwmor

Wrth s么n am sgrifennu'r nofel dywedodd yr awdur ei bod yn gyfuniad o dywyllwch a hiwmor - gyda'r tywyllwch yn deillio o gymeriad y tad.

"S么n y mae hi am blentyndod, plentyndod merch o'r enw Luned ddechrau'r Chedegau ac wedi ei sgrifennu drwy ei llygaid hi yn llwyr ac yn nhafodiaith Ynys M么n . A dwi'n gobeithio fy mod i wedi cyfuno'r hiwmor a'r pathos," meddai.

Mae'r tad yn yfed oherwydd ei brofiadau yn Burma yn yr Ail Ryfel Byd ac mae hynny'n gysgod dros y teulu oll wrth i'r creithiau ddod i'r amlwg yn y blynyddoedd wedyn.

"A hefyd mae yna dair cenhedlaeth yn byw yn yr un ty ac mae yna elfennau yn fanna sy'n peri trafferthion ," meddai.

Rhannol hunangofiannol

Dywedodd mai "rhannol" hunangofiannol yw hi.

"Roedd fy nhad i yn yr Ail Ryfel Byd a dwi'n meddwl ei fod wedi effeithio ar ei fywyd o pan oedd o yn Burma ac roedd o'n leicio ei ddiod hefyd," meddai.

Dywedodd iddi sgrifennu'r nofel yn bwrpasol ar gyfer y gystadleuaeth hon a daeth yn amlwg yn ystod ei sgwrs gyda'r Wasg i'r gwaith fod yn fodd i gyfuno dau o'i diddordebau - ysgrifennu am blentyndod ac ysgrifennu am effeithiau rhyfel ar bobl gyffredin.

"Rydw i wedi astudio Dylan Thomas ac mae ei waith o wedi bod yn ysbrydoliaeth - .Child's Christmas in Wales a stori芒u byrion dwi'n credu mod i wedi cael fy nylanwadu ganddo fo hefyd i raddau helaeth," meddai.

A hithau 芒 phrofiad o ddysgu Saesneg i fel ail iaith i ffoaduriaid o Vietnam dywed ei bod yn awr yn ystyried sgrifennu nofel am effeithiau y rhyfel hwnnw hefyd ar bobl.

"Rydw i newydd orffen nofel yn y Saesneg am yr Ail Ryfel Byd . . . a fyddwn i ddim yn meindio mynd ar 么l Vietnam achos mae rhai blynyddoedd er pan f没m i'n dysgu - y Rhyfel a'i effeithiau ar bobl," meddai "Yn enwedig ei effeithiau ar bobl gyffredin sy'n cael eu tynnu i mewn i ryfel a dim eisiau," ychwanegodd.

Chwilio am yr unigryw

Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniaid, John Gruffydd Jones ac Angharad Price disgrifiodd Jane Edwards Rhodd Mam fel "nofel arw agos at y byw sy'n gafael o'r dechrau ac yn llwyr argyhoeddi mai plentyn sy'n siarad.

Ac ar yr un gwynt cyfeiriodd at arddull Caradog Prichard yn Un Nos Ola Leuad.

"Stori anghonfensiynol ydi Rhodd Mam am deulu ar chw芒l," meddai gan ychwanegu mai "pobl yr ymylon" yw cymeriadau'r nofel hon.

"Pobl sydd ddim yn perthyn i neb na dim.

"Dydyn nhw ddim y math o bobl mae awduron yn sgwennu amdanyn nhw. Y teulu mwyaf dysfunctional i mi ddod ar eu traws erioed mewn nofel Gymraeg," meddai.

Anghydweld eto

Ond eto heddiw yr a oedd anghydweld rhwng y beirniaid gydag Angharad Price yn teimlo nad oedd digon o ddatblygiad yn y cymeriadau a bod yr hyn a alwyd yn naws felancolaidd yn ormesol.

"Ond fel minnau, cymysgedd o afiaith, ffraethineb a dwyster a w锚l John Gruffydd Jones a minnau," meddai Jane Edwards ac yn gymysg a'r moelni a'r caledi gwelsont ddealltwriaeth a chariad hefyd "a hwnnw mor annisgwyl a haul ganol gaeaf" gan beri syndod a rhyfeddod.

"Dywedais ein bod yn chwilio am waith unigryw , am awdur oedd ddim yn ofni tyrchio dan yr wyneb i ddod o hyd i'r gwir, y gwir go iawn, y gwir cyfrifol a llwyddodd i wneud hynny gan ddisgrifio bywyd yn ei holl gymhlethdodau," meddai Jane Edwards.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy