主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Cadeirio bardd y machlud

10 Awst 2007

T James Jones

Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod

Yr un a gafodd y mwyaf o fraw pan dynnwyd enw bardd cadeiriol Eisteddfod yr Wyddgrug o'r amlen dan s锚l rai wythnosau'n 么l oedd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards.

Ond dywedodd T James Jones na fwriadodd o gwbl i'w ffugenw, 'Un o ddeuawd', fod yn adlais o helynt Ianws yn Eisteddfod Genedlaethol 1979 pryd y bu'n rhaid iddo ildio'r goron wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio 芒 bardd arall.

Ei ffugenw awgrymog y tro hwnnw oedd Ianws - y duw gyda dau wyneb.

Ond dywedodd nad oedd yn fwriad o gwbl ganddo i 'Un o ddeuawd' atgoffa neb o hynny.

"Ond rwy'n credu bod y trefnydd wedi cael ofon," meddai gyda Hywel Wyn Edwards yn cadarnhau i'r digwyddiad yng Nghaernarfon groesi ei feddwl yn syth.

"Ond does yna ddim adlais o gwbl na dim bwriadol. Chroesodd hwnnw ddim mo'n meddwl i," meddai T James Jones.

"Rhyw ddynion drwg eraill sy'n meddwl am hwnnw!"

Dilyn ei nai

Dywedodd hefyd nad oedd wedi rhannu ei gyfrinach tan fore heddiw, dydd y cadeirio, gyda'i nai, Tudur Dylan Jones, a enillodd y Goron ddydd Llun.

"Heddi cafodd e wybod - fel y cefais innau wybod ganddo ef fore dydd Llun. Fe ddaeth e ataf i, i roi ei gyfrinach ac medde fi, 'O, bendigedig' ond ddwedais i ddim am heddi achos roeddwn i eisiau talu'r pwyth yn 么l iddo fe," meddai.

Machlud lledrithiol

Wrth egluro'r cefndir i'w gerdd dywedodd:

"Cael profiad wnes i, un lledrithiol a dweud y gwir, o weld machlud ar Fynydd Epynt. Roedd Manon y wraig gyda fi ac roedd e mor hyfryd fe fu raid inni stopio'r car a dod mas ac fe fu yna ddeg munud o fachlud na wnawn ni'n dau byth ei anghofio.

Wedyn ymhen rhyw fis ar 么l hynny fe ddaeth llinell imi - llinell agoriadol y gerdd a dweud y gwir; 'Er rhoi'n coel ar Copernicus' ac o'r foment yna ymlaen fe ddechreuodd y gerdd dyfu.

"Yr oedd y profiade yma yn real iawn inni ond roedd dyn yn dechrau myfyrio wedyn fy mod i'n bwrw mlaen ys dwedon nhw, wedi cyrraedd oedran yr addewid a dechrau meddwl wedyn am fy machlud fy hun ac am fachlud, wrth gwrs, pethau a phersonau eraill o nghwmpas i ac mae'r rheini hefyd yn y gerdd.

"Ac wrth gwrs Fynydd Epynt yr oedd e ac mae'r hyn sy'n digwydd ar Fynydd Epynt yn rhywbeth erchyll ac yn rhywbeth dieflig yn fy marn ac maen nhw ar Fynydd Epynt yn medru dod a machlud cyn pryd i fywydau pobl fel sy'n digwydd yn Rhyfel Irac ar hyn o bryd - hwnna'i gyd oedd yn corddi."

Yn Ffrainc

Ond er mai machlud ar Fynydd Epynt barodd y cynyrfiadau cyntaf dywedodd mai wrth wylio machlud arall yn Ffrainc y daeth llinellau cyntaf ei gerdd.

"Ac fe gymeres i dipyn o amser wedyn dros rhyw dri mis i'w chwblhau.

Ac am wir arwyddoc芒d ei ffugenw 'Un o ddeuawd" dywedodd:
"Yr oedd fy ngwraig Manon gyda fi yn y profiad dechreuol ac wrth gwrs nawr gan fy mod yn wynebu y ffin eithaf rwy'n cymryd lot o gysur oddi wrth bartneriaeth ac yn diolch i'r drefen bod yna cwmni i'w gael i drafod pethau ac i wneud pethau.

"Ac rwy'n s么n yn y gerdd bod yna ddeuawd yn digwydd a bod hyd yn oed y ddeuawd yn dod i ben!
Ac nid peth pesimistaidd yw hynny ond peth real iawn sydd yn mynd i ddigwydd," meddai.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy