主播大秀

Hanes Bro Dinefwr

top
T诺r Paxton a dyffryn Tywi

Mae Dinefwr yn ardal gyfoethog o safbwynt hanes a thirlun. Dyma ardal brydferth sydd yn cynnwys dyffrynnoedd Tywi a Chothi.

Mae'r ardal yn gorwedd i'r de o Lanbed, i'r dwyrain o Gaerfyrddin ac i'r gogledd o Lanelli a Rhydaman.

Llandeilo

Saif Llandeilo yn ne bro Dinefwr. Mae'r dref wedi ei henwi ar 么l Sant Celtaidd o'r 6ed ganrif. Roedd parch mawr i Sant Teilo yn ei gyfnod. Wedi iddo farw roedd dwy ganolfan eglwysig yng Nghymru am ei gladdu sef Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ond mae tystiolaeth yn dangos mai yn Llandeilo y claddwyd ef.

Ers talwm arferai Llandeilo fod yn brif dref Sir Gaerfyrddin gyda'i felinau gwl芒n a chorn. Roedd yn ganolfan farchnad a busnes. Bu dyfodiad y rheilffordd o Abertawe i'r Amwythig yn gymorth i hybu masnach yn Llandeilo. Ar un adeg roedd rheilffordd o Landeilo i Gaerfyrddin hefyd. Roedd y ffermwyr yn dod a'u cynnyrch i'r orsaf er mwyn ei werthu yn Llundain. Mae Llandeilo'n parhau i fod yn ganolfan amaethyddol heddiw. Llosgwyd rhan fawr o'r dref pan ymosododd Owain Glyndwr arni yn 1403.

Pont LlandeiloNodwedd bwysig yn y dref yw'r bont sy'n croesi afon Tywi. Pont bren oedd yma'n wreiddiol. Ond ysgubwyd hon i ffwrdd gan lif yr afon yn y 19eg ganrif. Cadwyd ychydig o'r pren hwnnw ar fferm gerllaw. O'r pren derw hwn y gwnaethpwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Dinefwr, 1996.

Adeiladwyd y bont bresennol gyda cherrig o Garreg Cennen yn 1848. Dywedir mai hon yw'r bont fwa gyda'r rhychwant lletaf yng Nghymru.

Llanymddyfri

Yr ail dref ym mro papur bro yw Llanymddyfri. Tyfodd hon, fel Llandeilo, o amgylch yr eglwys. Saif Llanymddyfri yng ngogledd y fro. Mae'r enw'n golygu 'llan' yn y dyfroedd. Mae hyn yn wir gan fod afon Tywi un ochr i'r dyffryn ac ar yr ochr arall mae afon Br芒n. Yn llifo trwy'r dref ei hun wedyn mae'r Bawddwr ac mae afon Gwydderig yn llifo'n ymyl hefyd. Felly mae pedair afon yn llifo yn y dyffryn cul hwn gan ynysu'r dref. Dywedir na ellir mynd i mewn nac allan o'r dref heb groesi un ohonynt.

Mae Llanymddyfri yn dref farchnad hanesyddol. Hon oedd tref y porthmyn. Cyn dyfodiad y rheilffordd dyma oedd bywoliaeth mwyafrif o ddynion y pentref. Roedd tua 30,000 o wartheg, defaid a hyd yn oed hwyaid yn cael eu hanfon o Gymru i Loegr bob blwyddyn.

Castell Llanymddyfri

Mae castell yn nhref Llanymddyfri hefyd. Fe saif ar lannau'r afon Br芒n sy'n llifo i'r afon Tywi. Adeiladwyd y castell yn niwedd y 13eg ganrif wedi goresgyniad Edward I. Ond mae'n debyg i'r castell gwreiddiol gael ei adeiladu gan y Normaniaid yn y ddeuddegfed ganrif. Mae tomen y castell hwnnw i'w weld o hyd. Yn ystod ei gyfnod cynnar symudodd y castell yn 么l a blaen rhwng y Normaniaid a'r Cymry nifer o weithiau.

Yng ngogledd y fro mae pentrefi Cynghordy, Rhandirmwyn, Brechfa a Phumsaint. Mae Cynghordy yn enwog am ei phont deunaw bwa tra bod Brechfa yn enwog am ei choedwig.

Brechfa

Mae i goedwig Brechfa dipyn o hanes. Yn y canol oesoedd derwen ac onnen oedd y prif goed yma ac roedd yn dir hela Brenhinol pwysig. Yn ystod yr 20fed ganrif roedd coed o'r goedwig yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd yn niwydiannau De Cymru. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd coed oddi yma'n cael ei ddefnyddio i wneud ffrwydron. Yna yn 1919 daeth y goedwig dan reolaeth y Comisiwn Coedwigaeth a'i creodd yn goedwig amlbwrpas ar gyfer creu coed a gwarchod bywyd gwyllt.

Mae Rhandirmwyn a Phumsaint ar y llaw arall yn bentrefi o bwysigrwydd archeolegol. Credir fod pobol wedi bod yn cloddio am arian a phlwm yn y Rhandirmwyn ers dyddiau'r Rhufeiniaid.

Mae pentref Pumsaint wedyn yn bwysig o ganlyniad i'r gaer Rufeinig, y baddon a'r mwyngloddiau aur gerllaw. Yn y Canol Oesoedd Llanpumsaint oedd yr enw ar y pentref. Yn 么l traddodiad sefydlwyd capel yma yn yr Oesoedd Tywyll a chysegrwyd hwnnw i bum sant.

Dolau CothiTua milltir i'r dwyrain o Bumsaint mae Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi. Bu'r Celtiaid a'r Rhufeiniaid yn brysur yn cloddio aur yma. Yn wir parhaodd yr arfer o gloddio aur yma hyd yr 20fed ganrif gan gyrraedd ei uchafbwynt yn 1938. Erbyn heddiw mae'r safle yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n rhoi'r cyfle i ymwelwyr deithio dan ddaear a chwilio am aur.

Ger y safle gellir gweld y garreg gyda'i phum pigyn a ddaeth o'r safle mwyngloddio ac a roddodd yr enw i bentref Pumsaint. Yn 么l y chwedl arferai pum sant orffwys yn erbyn y garreg hon.

Chwedlau Dyffryn Tywi

Dyffryn TywiMae chwedlau eraill yn gysylltiedig 芒 rhan uchaf Dyffryn Tywi. Un ohonynt yw chwedl Twm Si么n Cati. Dywedir bod ogof y lleidr penffordd ar fryn Dinas ger pentref Rhandirmwyn.

Chwedl arall yw Morwyn Llyn y Fan Fach. Dyma chwedl enwocaf yr ardal. Un fersiwn ohonni yw, un diwrnod roedd mab Blaen Swdde yn gwylio ei ddefaid ger Llyn y Fan Fach. Yn sydyn ymddangosodd merch o'r d诺r. Cynigodd y bachgen fara a chaws iddi ond gwrthododd. Digwyddodd yr un peth y diwrnod canlynol - y ferch yn ymddangos ac yn gwrthod bara unwaith eto gan ddiflannu i'r d诺r. Dywedodd mam y llanc wrtho am fynd 芒 bara wedi hanner ei grasu y tro nesaf.

Y diwrnod wedyn ymddangosodd y ferch a derbyn y bara. Gofynnodd y llanc a g芒i ei phriodi. Cytunodd hithau ar yr amod na fyddai'n ei tharo deirgwaith. Priododd y ddau ond ar dri achlysur: bedydd, priodas ac angladd tarodd y g诺r ei wraig. Diflannodd y wraig yn 么l i Lyn y Fan.

Erbyn heddiw y llyn pwysicaf yn yr ardal yw Llyn Brianne sy'n gorwedd yn ardal Rhandirmwyn. Llyn diweddar yw hwn ac fe'i adeiladwyd yn 1972 er mwyn cynnal llif yr afon Tywi pan yw'n isel. Mae'r argae a'r gronfa dd诺r yn ymestyn am dair milltir.

Ond mae'r newydd a'r hen i'w gweld ym mro Dinefwr ac i'r de yng nghanol y bryniau mae pentref Talyllychau ac olion hen abaty. Sefydlwyd yr abaty gan yr Arglwydd Rhys yn negawdau olaf y 12fed ganrif a hynny mae'n debyg ar safle Celtaidd.

Yn fuan wedi ei sefydlu roedd abaty Hendy-gwyn ar Daf yn awyddus i'w feddiannu. Canlyniad hyn oedd gwanhau adnoddau abaty Talyllychau a lleihau ei ddylanwad. Disgrifiodd Gerallt Gymro yr abaty fel tloty. Mae rhai'n honni mai dyma fan gorffwys Dafydd ap Gwilym. Ond ychydig iawn sydd i'w weld yma heddiw, dim ond adfeilion y twr.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.